Nyrs Practis Cyffredinol (NPC)
Abbie Pugh
Beth fyddai wythnos nodweddiadol i chi?
Bob dydd Llun, bydda' i'n mynychu fy nghwrs GPN. Bydda i'n cynnal clinigau yn bennaf o ddydd Mawrth i ddydd Gwener yn y feddygfa, er enghraifft, imiwneiddio babanod, rheoli clefydau cronig, iechyd merched, ECGs, profion gwaed.
Dw i hefyd yn cydweithio â'r tîm cydlynu gofal cymunedol yn y feddygfa. Roeddwn i'n gweithio gyda nhw un diwrnod yr wythnos pan oeddwn i'n cwblhau lefel 4, ac yna, ar ôl cymhwyso, dw i wedi dod yn ôl i'r clinig ac os mai dim ond un ohonyn nhw fydd yno, bydda i'n cynnig help llaw, byddwn ni'n mynd i weld pobl sy'n gaeth i'w cartrefi a phobl mewn cartrefi gofal.
Beth yw eich profiad chi o'r llwybr gofal sylfaenol?
Mi wnes i ddechrau gweithio ym maes gofal sylfaenol chwe blynedd yn ôl, ac ymhen 12 mis, roeddwn i wedi symud ymlaen i'r cwrs Lefel 4 mewn addysg uwch. Mi wnes i gwblhau hynny, yna mi lwyddais i gael lle ym Mangor i astudio am fy ngradd nyrsio'n rhan-amser â chymorth gofal sylfaenol. Mi wnes i gymhwyso ym mis Ionawr a chael swydd nyrs bractis yn ôl yma, mi wnes i ddechrau fy GPN ym mis Mawrth a byddaf yn gorffen ym mis Gorffennaf. Mae'r blynyddoedd diweddar wedi bod yn brysur iawn, a meddyliais “dw i’n mynd i gyflawni hyn!” a dw i wedi camu ymlaen yn raddol ac dw i’n tynnu tua'r terfyn erbyn hyn.
Mae'n rhywbeth yr oeddwn i'n wastad yn dymuno'i wneud oherwydd fe wnes i ddechrau yn ifanc iawn, yn 16 oed, mewn cartref gofal, a gweithio yno am ychydig flynyddoedd. Yna, es i i weithio yn yr ysbyty a threulio tair blynedd yno cyn ymuno â'r tîm adnoddau cymunedol cyn daeth y cyfle i weithio ym maes gofal sylfaenol. Dw i wedi gwneud y cyfan, gofal eilaidd, cymunedol a gofal sylfaenol erbyn hyn.
A yw'r rhaglen GPN wedi caniatáu i chi wneud rhywbeth na fyddech chi'n gallu ei wneud mewn model gwahanol?
Mae'r GPN wedi bod yn fuddiol iawn ac mae wedi fy helpu i feithrin yr hyder ychwanegol yr oedd ei angen arnaf wrth ddychwelyd i'r feddygfa. Dw i wedi datblygu o fod yn gynorthwyydd gofal iechyd i fod yn nyrs bractis erbyn hyn, roedd hynny'n dipyn o naid. Dw i wedi cymhwyso ers bron i chwe mis erbyn hyn a dw i’n gallu gwneud fy ngwaith yn ddibryder. Mae hynny wedi cynnig mwy o wybodaeth i mi, ac er fy mod i wedi cwblhau ambell sesiwn a chwrs hyfforddiant, mae'r cwrs GPN yn cynnig rhywbeth ychwanegol i chi.
Pan wnes i gymhwyso ym mis Ionawr, roeddwn i wedi cyfranogi mewn hyfforddiant ynghylch atal cenhedlu a hyfforddiant ynghylch iechyd pobl sy'n teithio, felly wrth ddechrau'r modiwl GPN, meddyliais “o, dw i eisoes wedi gwneud yr hyfforddiant hwn, mi fydd yn brofiad ailadroddus” ond nid felly oedd hi. Mae pob modiwl wedi bod yn hynod o ddiddorol oherwydd mae meddyg neu siaradwr gwadd wedi dod atom ni i'w drafod. Weithiau, dim ond modiwlau darllen fyddan nhw. Ond mae yna erthyglau a phethau ategol a bydd y nyrsys practis eraill yn cnoi cil ar hynny. Mae'n gwneud i chi deimlo "dw i’n gwneud pethau'n iawn" neu "o, dyna sut mae hi'n gwneud hynny, efallai y medraf innau wneud hynny hefyd".
Caiff y cyfan ei gynnig trwy law Prifysgol Bangor, felly bob bore Llun, byddwn yn cael cyfarfod am hanner awr, yn trafod gwaith yr wythnos ddiwethaf, bydd hi'n dweud wrthym ni beth fydd angen i ni ei wneud yr wythnos honno. Byddwn yn cael sesiwn ar-lein i drafod gwahanol bynciau - yr wythnos diwethaf, mi wnaethom ni atal cenhedlu yn y bore a dementia yn y prynhawn. Rydyn ni wedi trafod pynciau fel asthma, diabetes ac iechyd rhywiol. O blith yr holl bynciau, rhaid i chi ddewis wyth ac ysgrifennu blog 300 gair am bob un. Mae hynny'n debyg i adfyfyrio. Os byddwch chi wedi ymdrin â rhywbeth yn y clinig, gallwch fyfyrio ynghylch y profiad hwnnw, ond fel arall, rhai i chi fynd ati i chwilio am dystiolaeth sy'n ei ategu.
Bydda i'n sefyll arholiad, yna bydd angen i mi gael cymeradwyo fy nghymwyseddau yn y feddygfa. Mae'r tîm yma wedi fy helpu drwy bopeth, maen nhw'n dal i fy nghynorthwyo i drwy'r rhaglen GPN. Ar ddiwrnodau penodol, bydda i'n cael hyfforddiant ynghylch profion ceg y fron a bydd rhywun ar gael bob amser i fy helpu i, ac mi wnaeth hynny wahaniaeth enfawr. Mae fy nyrs arweiniol yn cynnig cymorth aruthrol i mi yn y feddygfa.
Dw i’n fodlon iawn â phopeth ac â fy nghynnydd. Mae fy mhrofiad o lefel 4 hyd at yr uned GPN wedi bod yn un da iawn. Mae fy rheolwr, fy nyrs arweiniol a fy nhîm nyrsio oll wedi bod yn gefn i mi yma. Dw i wedi mwynhau'r profiad yn arw.
Beth allem ni fod wedi'i wneud yn wahanol i sicrhau y byddai'n brofiad gwell?
Mae wedi bod yn brofiad gwych. Mae'r staff ym Mangor wedi bod yn gefnogol iawn ac mae fy nghydweithwyr yma wedi bod yn gefnogol iawn. Dw i’n eithaf ffodus fy mod i wedi dechrau yn y maes yn syth o'r brifysgol, dw i’n dal yn ymroddi i waith ysgrifennu academaidd a darllen yr holl adnoddau, ond bydd yn rhaid dirnad llawer iawn o wybodaeth ar brydiau. Ar y llaw arall, fe wnaeth fy nghydweithiwr weithio fel nyrs gofrestredig ym maes gofal sylfaenol am chwe mis cyn cwblhau'r GPN. Roedd y profiad ychydig yn well iddi hi oherwydd roedd hi eisoes wedi dod i ddeall yr hanfodion.
Ym mha faes ydych chi wedi dysgu fwyaf wrth weithio mewn practis gofal sylfaenol?
Mae hynny'n gwestiwn anodd; dw i wedi dysgu cymaint mewn cyfnod mor fyr, felly mae'n anodd nodi unrhyw beth penodol. Fedra'i ddim dweud fy mod i'n gwybod beth yn union dw i'n ei wneud a dweud fy mod i'n well mewn un na'r gweddill, dw i wedi cwblhau pob un yn raddol. Dw i'n meddwl mai fy niddordebau pennaf yw atal cenhedlu a phrofion ceg y fron, ac iechyd teithwyr hefyd, rhywbeth dw i'n dysgu ei wneud ers dechrau'r gwaith.
Ar y cyfan, dw i ddim yn meddwl bod pobl yn deall pa mor brysur yw gofal sylfaenol ac mae hynny bob amser yn rhwystredig iawn. Os ydych chi'n gweithio ar ward llawfeddygol, byddwch yn ymdrin â chleifion sy'n cael llawdriniaeth. Os ydych chi'n gweithio ym maes gofal sylfaenol, bydd rhywun sydd â diabetes yn dod i'ch gweld chi, ac yna bydd briw yn codi ar ei choes a bydd cysylltiad rhwng hynny â'i phwysedd gwaed uchel, dydy hi ddim wedi cael prawf ceg y groth ers 10 mlynedd. A dweud y gwir, mae'n rhaid dysgu llawer iawn o bethau ym maes gofal sylfaenol. Dw i'n caru fy ngwaith. Dw i wrth fy modd â gofal sylfaenol, ond mae'n medru bod yn faes anodd iawn a dydy pobl ddim yn sylweddoli hynny.
Beth yw hanfod gweithio ym maes gofal sylfaenol i chi?
Hanfod hynny ydy cynnig boddhad i gleifion yn sgil gwybod bod eu hanghenion gofal sylfaenol yn cael eu diwallu. Pan fyddan nhw'n cael gwasanaethau gofal sylfaenol, bydd rhan helaeth o hynny yn ymwneud â rheoli eu clefydau cronig, ac ar brydiau, fyddan nhw ddim yn cydymffurfio'n dda iawn. Ond os ydyn nhw'n gwybod eich bod chi yno a'ch bod chi'n mynd i'w helpu a'ch bod chi'n mynd i wneud yn sicrhau bod popeth yn iawn a bod eu tabledi'n iawn, byddan nhw'n dal i ddychwelyd i gael yr adolygiadau gofynnol.
Mi fydda i'n meithrin y berthynas honno; dw i wedi meithrin perthynas â llawer o gleifion erbyn hyn oherwydd mi fydd rhai o'n cleifion yn dod i'r feddygfa yn weddol aml. Roedd rhai yn wael am ddod i'w hapwyntiadau a dw i wedi'u gweld ac maen nhw wedi dod yn ôl i fy ngweld i. Rhaid i chi sicrhau y medran nhw ymddiried ynoch chi, a gwybod y byddwch chi yno. Mae'n anodd ym maes mewn gofal sylfaenol, bydd pobl yn dod i weld meddyg a bydd meddyg gwahanol bob tro y byddan nhw yno ac mae hynny'n medru bod yn brofiad rhwystredig. Ond dw i'n gwybod y medra'i fel nyrs bractis feithrin y berthynas orau â fy nghleifion, felly dw i'n credu y medra'i gynnig y gofal effeithiol gorau. O'm safbwynt i, ydy, mae'n heriol, ond dw i’n hoffi sicrhau bod cleifion wedi cael eu clywed.
Beth yw'r 3 sgil allweddol sy'n hanfodol i'ch rôl?
Mae rheoli clefydau cronig yn ôl pob tebyg yn un o'n tasgau pwysicaf ym maes gofal sylfaenol, ac mae iechyd merched, atal cenhedlu a phrofion ceg y fron yn rhai eraill. Eich gallu chi i gynnig gofal yn gyffredinol i bawb sy'n dod i'r feddygfa sy'n bwysig, hyd yn oed os byddan nhw'n dod i gael prawf gwaed. Weithiau, bydd cael pum munud i sgwrsio â rhywun yn ddigon iddyn nhw.
Mae anableddau dysgu yn fater sy'n agos iawn at fy nghalon ers dychwelyd i faes gofal sylfaenol. Mi wnes i weithio gyda chleifion ar y wardiau ac ym maes gofal sylfaenol cyn gwneud fy hyfforddiant nyrsio. Mi wnes gwblhau rhywfaint o hyfforddiant ynghylch anableddau dysgu yn weddol ddiweddar a fi yw'r hyrwyddwr anableddau dysgu yn fy meddygfa erbyn hyn. Fi sy'n tueddu i gynnal archwiliadau iechyd pobl ag anableddau dysgu, ac ar brydiau, bydd yn rhaid treulio ychydig mwy o amser gyda nhw, ond ni fyddwch chi'n gweld yr unigolion hynny oherwydd eu hanableddau dysgu, byddwch yn eu gweld fel unigolion.
Yn y tymor hir, beth allai sicrhau bod maes gofal sylfaenol yn parhau i fod yn ddeniadol i chi?
Dw i'n wastad wedi hoffi maes gofal sylfaenol, a rheoli clefydau cronig. Pan fyddwch chi yn y gymuned, fyddwch chi ddim yn profi'r agwedd honno ar y gwaith a dweud y gwir, mae'n ymwneud yn fwy â gofal personol a symudedd a phethau felly. Ond pe bawn i ar yr adeg honno yn gwybod y pethau dw i’n eu gwybod erbyn hyn, byddwn i wedi gallu eu helpu yn well.
Roedd cydweithiwr wedi cychwyn gweithio yma o fy mlaen i ac mi holodd a hoffwn i ddod yn rhan o'r tîm. Nid oes llawer o swyddi ar gael ym maes gofal sylfaenol, felly pan ddaeth y cyfle, roeddwn i'n bendant yn mynd i'w fanteisio.
Beth ydych chi'n dymuno'i gyflawni yn y dyfodol?
Byddaf yn parhau i fod yn nyrs bractis, ac yn ôl pob tebyg, bydda i'n ystyried mynd ati i ragnodi yn y dyfodol ac yna'n camu ymlaen o'r fan honno. Ond am y tro, dw i'n fodlon cwblhau fy rhaglen GPN a chael cymeradwyo fy holl gymwyseddau. Dw i ar y trywydd iawn a dw i wrthi'n gwneud hynny, dw i'n dymuno cyflawni beth bynnag y medraf.