Amdanom ni

Mae’r Academi Gofal Sylfaenol a Chymunedol yn wasanaeth trosfwaol sy’n arwain dysgu, datblygu ac ymchwil y tîm Gofal Sylfaenol a Chymunedol o fewn Practis Cyffredinol, Deintyddol, Fferyllfeydd Cymunedol ac Optometreg y dyfodol.

Mae’r Academi yn canolbwyntio ar hyfforddiant, addysg ac uwchsgilio’r gweithlu Gofal Sylfaenol. 
 
Yn 2022, derbyniodd yr Academi gymeradwyaeth a buddsoddiad gan y bwrdd iechyd, AaGIC a Llywodraeth Cymru i ddatblygu gweledigaeth yr Academi yn gyflym. 
 
Ein hamcanion allweddol yw: 

  • Cryfhau sgiliau a gallu’r gweithle gofal sylfaenol a chymunedol drwy raglenni hyfforddiant ac addysg a ddarperir drwy fodel prif ganolfan a chanolfan ategol erbyn 2025.
  • Adeiladu a chyflwyno rhaglen hyfforddiant ac addysg sy’n cael ei gyrru gan anghenion y boblogaeth a’r gweithlu gofal sylfaenol a chymunedol erbyn 2025.
  • Datblygu a gweithredu strategaeth recriwtio a chadw ar gyfer gofal sylfaenol yng Ngogledd Cymru er mwyn mynd i’r afael â’r cyfyngiadau mewn capasiti erbyn 2025.
  • Cynyddu nifer yr astudiaethau Ymchwil a Datblygu yn ogystal ag ymarferion gwerthuso o fewn y gwasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol a reolir gan y Bwrdd Iechyd o 30% erbyn 2025. Dylai hyn fod o fewn hybiau hyfforddi a rhaglenni’r Academi.

Darganfyddwch fwy am yr Academi yma

Prif Swyddfa Weinyddol yr Academi

Cyfeiriad: Ysbyty Cyffredinol Llandudno, Ffordd yr Ysbyty, Llandudno, Conwy, LL30 1LB 
 
Mae ein Swyddfa Reoli wedi’i lleoli yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno sy’n ganolfan ganolog wych ar gyfer teithio ar draws y rhanbarth. Os nad yw’r tîm allan yn cyfarfod â phractisau, staff, hyfforddeion a phartneriaid yna rydym yn y swyddfa yn manteisio ar y cyfle i gael sgwrs, ailymgynnull a sicrhau ein bod ar y trywydd iawn er mwyn cyflwyno’r rhaglenni a’r cynlluniau sydd gennym ar y gweill.

Cyfarfod â’r tîm

Tîm Rheoli - Academi

Rheolwr yr Academi

Gemma Nosworthy

Rheolwr yr Academi

Gemma Nosworthy

Dechreuodd Gemma ar ei gyrfa gyda’r GIG fel Rheolwr Gweinyddol y Lab Microbioleg yn Ysbyty Gwynedd, gan symud i Fwrdd Iechyd Lleol Conwy i weithio fel Dadansoddwr Gwybodaeth maes o law. Mae Gemma wedi gwneud nifer o swyddi yn ystod ei gyrfa gan gynnwys secondiad i rôl genedlaethol fel Rheolwr Cymorth Corfforaethol ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol Cymru gyfan, Swyddog Contractio Trydydd Sector ac yn fwy diweddar, Rheolwr Prosiect i symud Practisau Annibynnol i fod dan reolaeth y Bwrdd Iechyd. Penodwyd Gemma yn Rheolwr yr Academi ym mis Medi 2019 ac mae wedi bod yn rhan o daith yr Academi o’r cychwyn.

Mae gan Gemma ddealltwriaeth dda iawn o’r cyfleoedd y gall gwasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol amlddisgyblaethol eu cynnig i’n cleifion ac o bwysigrwydd datrysiadau cymdeithasol a chymunedol er mwyn sicrhau llesiant

Rheolwr Datblygu Gofal Sylfaenol

Robyn Watson

Rheolwr Datblygu Gofal Sylfaenol

Robyn Watson

Dechreuodd Robyn ei gyrfa yn y GIG fel Hyfforddai Rheolaeth Graddedig yn 2016, ac mae Robyn wedi treulio cyfnodau mewn nifer o feysydd ar draws y bwrdd iechyd, gan gynnwys Gofal Sylfaenol, Cymunedol, Gofal Eilaidd a Gwasanaethau Plant sydd wedi rhoi dealltwriaeth dda iawn iddi o gymhlethdodau darparu gofal iechyd i’r boblogaeth leol.

Mae Robyn yn un sy’n dwyn y maen i’r wal, mae’n gweithio’n drefnus drwy brosiect tra'n sicrhau bod y rhanddeiliaid i gyd yn cymryd rhan a bod y gwaith yn cael ei wneud ar amser.

Arweinydd Ymchwil yr Academi

Stella Wright

Arweinydd Ymchwil yr Academi

Stella Wright

Mae Stella wedi treulio ei gyrfa gyfan yn gweithio yn y GIG, ac wedi bod mewn rolau ymchwil a gwerthuso am y deuddeg mlynedd diwethaf. Mae gan Stella brofiad helaeth o weithio ar dreialon clinigol fel Swyddog Ymchwil Clinigol, ac fel Rheolwr Treialon ar dreial gofal lliniarol a ariannwyd gan NIHR.

Mae Stella wedi bod gyda’r Academi ers 2019, yn gweithio ar y prosiect Pennu Cyfeiriad Uwch Ymarferwyr Parafeddygol, ac yn dilyn gradd Meistr trwy Ymchwil ochr yn ochr â’r prosiect. Ymunodd â’r tîm yn barhaol yn 2022 ac mae’n edrych ymlaen at ymwneud mwy â rhai o brosiectau arloesol eraill yr Academi ym maes gofal sylfaenol.

Mae Stella yn angerddol am ddulliau ansoddol, ond yn araf bach mae'n dysgu cofleidio data meintiol!

Arweinydd Clinigol a Datblygu Ymarfer Clinigol Meddyg Teulu Arweiniol

Dr Jess Deacon

Arweinydd Clinigol a Datblygu Ymarfer Clinigol Meddyg Teulu Arweiniol

Dr Jess Deacon

Mae Jess wedi bod yn feddyg teulu ers 17 mlynedd ac yn gweithio gyda thîm yr Academi ers 2019.

Mae Jess yn arwain ar hyfforddi aelodau ein tîm amlddisgyblaethol gan gynnwys; Nyrsys, Ffisiotherapydd, Parafeddygon, Fferyllwyr, Myfyrwyr Meddygol, Meddygon Cyswllt a Hyfforddeion Meddygon Teulu.

Yn ddiweddar, cafodd Jess boster yn RCGP 2021 - Defnyddio meddyg teulu mewn rôl a gynlluniwyd yn benodol i ddatblygu hyder ac ymarfer annibynnol mewn grŵp o Ymarferwyr Uwch mewn Hyb Addysgu.

Mae Jess yn angerddol am greu amgylchedd cefnogol ar gyfer dysgu amlddisgyblaethol a gweithio ym maes Gofal Cynradd.

Cyfarwyddwr Clinigol Addysg Feddygol mewn Gofal Sylfaenol

Dr Liz Bowen

Cyfarwyddwr Clinigol Addysg Feddygol mewn Gofal Sylfaenol

Dr Liz Bowen

Ymgymerodd Liz â hyfforddiant Meddyg Teulu yng Ngogledd Cymru ac mae hi wedi bod yn Feddyg Teulu am 25 mlynedd yn yr ardal yn bennaf fel partner Meddyg Teulu, ond hefyd wedi gweithio yn y gwasanaeth y Tu Allan i Oriau ac fel Meddyg Teulu locwm ar wahanol adegau. Mae hi hefyd yn flaenorol wedi bod yn Gyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol Gofal Sylfaenol a Chymunedol yn Ardal Ganol BIPBC hyd 2022, felly yn ymwneud ag arfarnu, ailddilysu, addysg a llywodraethu gofal sylfaenol.

Mae hi’n hyfforddwr Meddygon Teulu, ac wedi helpu i hyfforddi a chynorthwyo ANPs, myfyrwyr meddygol a Chymdeithion Meddygol a fferyllwyr i rolau clinigol mewn gofal sylfaenol.

Mae hi’n credu bod cyfleoedd addysgol cefnogol ac amser ad-fyfyrio a gofod yn hanfodol ar gyfer arfer clinigol da, o fudd i glinigwyr gofal sylfaenol yn unigol, recriwtio a chadw yn gyffredinol, ac yn fwyaf pwysig yn arwain at y gofal gorau i gleifion.

Mae hi’n gyffrous ynghylch y rôl newydd hon i helpu cydlynu a chynorthwyo’r cyfleoedd hyn yn BIPBC.

Cyfarfod â’r tîm

Ymarfer Cyffredinol - Academi

Gofal Sylfaenol Ymgynghorydd Nyrsio

Nia Boughton

Gofal Sylfaenol Ymgynghorydd Nyrsio

Nia Boughton

Mae Nia wastad wedi dweud bod Gofal Sylfaenol yn ei gwaed! Yn ferch i Nyrs Practis, mae gan Nia dros 25 mlynedd o brofiad nyrsio, ac mae deuddeg ohonynt wedi bod ar Lefel Ymarfer Uwch.

Gan ennill Dyfarniad Ymarferydd Arbenigol ôl-raddedig mewn Ymarfer Cyffredinol ynghyd â Meistr Ymarfer Clinigol Uwch llawn, roedd Nia wrth ei bodd yn derbyn Teitl Nyrsio'r Frenhines y llynedd.

 Mae Nia yn angerddol am ddarparu gofal nyrsio diogel ac effeithiol o ansawdd uchel ac yn 2021 bu'n ddigon ffodus i ennill Gwobr Nyrs Flwyddyn y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) Cymru am ei gwaith yn datblygu Fframwaith Cymhwysedd Ymarfer Uwch Aml-broffesiynol ar gyfer Gofal Sylfaenol, y mae Gwella Addysg Iechyd Cymru (AaGIC) bellach yn bwriadu ei gyflwyno'n genedlaethol. Mae ei hastudiaethau PhD cyfredol yn seiliedig ar ddatblygiad a mesur pellach hyn.

Sicrhaodd Nia swydd Nyrs Ymgynghorol Gofal Sylfaenol cyntaf Cymru yn 2018 lle mae'n cynrychioli'r Bwrdd Iechyd ar y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol, y Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Clinigol Uwch ac mae'n Gadeirydd is-grŵp Cadarnhau Ymarfer Clinigol Uwch Cenedlaethol (ACP).

 Mae'n aelod o'r cyngor ar y Gymdeithas Genedlaethol Gofal Sylfaenol ac mae ganddi uwch ddarlithyddiaeth anrhydeddus gyda Phrifysgol Bangor.

Nid yw bywyd y tu allan i'r gwaith ar gyflymder arafach o bell ffordd, gyda thri o blant, llwynog terrier ychydig yn ddiamryddawn a llond bol o ieir sy'n heneiddio, mae yna bob amser lawer i'w chadw'n brysur a chynnal cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith gwael!

Rheolwr Datblygu Sgiliau, Addysg ac Hyfforddiant Gofal Sylfaenol – Gweithlu Anghlinigol

Nicola Barlow

Rheolwr Datblygu Sgiliau, Addysg ac Hyfforddiant Gofal Sylfaenol – Gweithlu Anghlinigol

Nicola Barlow

Dechreuodd Nikki Barlow â thîm yr Academi Gofal Sylfaenol gan weithio ar draws Gogledd Cymru i ddarparu cymorth ac arwain ar feysydd gwaith penodol gan gynnwys sgiliau, addysg ac hyfforddiant ar gyfer y gweithlu anghlinigol o fewn y Meddygfeydd Annibynnol a’r rhai a Reolir.

Bydd Nikki hefyd yn gweithio gyda'r tîm ac yn cyfrannu at gyflenwi ffrydiau gwaith a phrosiectau eraill sy'n canolbwyntio ar gynaladwyedd gwasanaethau Sylfaenol a Chymunedol. Mae ei phrofiad gwaith blaenorol yn cynnwys gwasanaethau a chynlluniau cymunedol, Gofal Sylfaenol, ymarfer GMS, gwaith tîm amlddisgyblaethol ac amrywiaeth o rwydweithio clwstwr.

Mae Nikki wedi treulio’r amser  yn gweithio fel cydlynydd clwstwr Gofal Sylfaenol ar gyfer Canol a De Sir Ddinbych yn ardal y Canol. Hi oedd yn gyfrifol am ddatblygu, gweithredu ac integreiddio’r strategaeth gwasanaethau sylfaenol a chymunedol ar draws y clwstwr gan gynnwys datblygu’r model integredig o iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned. Roedd hyn yn ychwanegol at gefnogi arweinwyr y clystyrau i gasglu a chynhyrchu cynlluniau clwstwr a chefnogi datblygiad a gweinyddiaeth gyffredinol clystyrau. Roedd Nikki hefyd yn cefnogi amserlenni hyfforddi i ddatblygu ac hyfforddi staff/cydweithwyr clinigol ac anghlinigol.

Rheolwr Datblygu Hybiau Sgiliau, Addysg ac Hyfforddiant

Clare Hughes

Rheolwr Datblygu Hybiau Sgiliau, Addysg ac Hyfforddiant

Clare Hughes

Ymunodd Clare â'r GIG fel rheolwr prosiect ond mae wedi ymwneud â phrosiectau cyffrous iawn ers iddi ymuno. Gyda chefndir gyrfaol mewn marchnata a gwerthiant i gwmnïau cyhoeddi cylchgronau a phapurau newydd yng Ngogledd Cymru a Llundain, mae Clare wedi defnyddio ei sgiliau ymgysylltu i yrru prosiectau amlddisgyblaethol yn eu blaen o'r cyfnod cysyniadol i'r gwaith terfynol.

Gan ddechrau ei gyrfa yn y GIG fel rheolwr prosiect y Timau Adnoddau Cymunedol (CRT), roedd Clare yn arweinydd ar nifer o ffrydiau gwaith gan gynnwys datblygu’r 9 CRT yng Nghonwy a Sir Ddinbych gan weithio ar draws Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gefnogi newid diwylliant, adeiladu tîm ac adnewyddu ac uwchraddio ystadau ar gyfer y timau.

Symudodd Clare wedyn i Ofal Sylfaenol pan ddaeth yn rheolwr prosiect oedd yn arwain y prosiect arloesol ‘MY LIFE’ yng Ngorllewin Conwy -prosiect aml-asiantaethol a oedd yn canolbwyntio ar wella iechyd a lles poblogaeth Clwstwr Gorllewin Conwy drwy addysg, anogaeth a chymorth i wneud dewisiadau buddiol i’w ffordd o fyw.

Mae gan Clare hefyd brofiad ym maes gwella ansawdd a gwasanaethau sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i ddylunio, datblygu a gweithredu Hybiau Sgiliau, Addysg ac Hyfforddiant ar draws 4 safle mewn Medygfeydd a Reolir ar draws Gogledd Cymru

Gofal Sylfaenol Addysg a Hyfforddiant Arweiniol

Dr Angela Roberts

Gofal Sylfaenol Addysg a Hyfforddiant Arweiniol

Dr Angela Roberts

Mae Angela wedi gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau gofal fel nyrs a bydwraig gofrestredig ers bron i 40 o flynyddoedd! Mae wedi gweithio ar draws y DU a thramor, gan weithio mewn meysydd megis neonatoleg, cardioleg, nyrsio iechyd galwedigaethol, ac yn y maes gofal sylfaenol ers y 25 mlynedd diwethaf.  Dechreuodd ei gyrfa gofal sylfaenol pan fu’n Swyddog Nyrsio yn y Llu Awyr Brenhinol, ac roedd hi wedi gwirioni’n lân! Wedi  dychwelyd i Ogledd Cymru, hyfforddodd fel Uwch Ymarferydd Nyrsio gofal sylfaenol, ac yn fwy diweddar enillodd Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Gofal Iechyd yn 2017. Mae Angela yn parhau i fod yn angerddol am wella gofal cleifion ym mhopeth a wnawn, gan ganolbwyntio ar gefnogi ein gweithlu yn barhaus i hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol. Mae hi wedi bod yn eiriolwr enfawr dros nyrsio gofal sylfaenol ers llawer o flynyddoedd, gan gynorthwyo i gyflwyno cyfleoedd ar gyfer addysg, hyfforddiant a datblygu yn lleol. Mae wedi derbyn Gwobr Nyrs y Frenhines am ei gwasanaeth i nyrsio cymunedol ac mae wedi cyfrannu at newidiadau i wasanaethau ar lefel genedlaethol. Mae hi wrth ei bodd yn teithio, ac mae hi’n bwriadu mynd ar daith yn ei fan gwersylla (campervan) gyda’i chi bach. Er, yn disgwyl ci bach maint daeargi, mae’r ci bach bellach mor fawr ȃ Labrador!!

Nyrs Datblygu Ymarfer – Gofal Sylfaenol

Shelley Lewis

Nyrs Datblygu Ymarfer – Gofal Sylfaenol

Shelley Lewis

Dechreuodd fy nhaith at bractis cyffredinol ar droad y mileniwm ym mis Ionawr 2000. Ar ôl cwblhau’r holl setiau sgiliau hanfodol ac ennill Diploma mewn meysydd clefydau cronig, euthum ymlaen i gwblhau Cymhwyster Ymarferydd Arbenigol BSc (Anrhydedd) mewn Practis Cyffredinol yn 2005 ac yna i gwblhau fy nghymhwyster rhagnodi annibynnol a gradd Meistr mewn Ymarfer Clinigol Uwch ac rwyf wedi gweithio fel Uwch Ymarferydd Nyrsio (ANP) clinigol mewn practis cyffredinol tan 2019.

Ym mis Ebrill 2019, ymunais â Thîm Gofal Sylfaenol a Chymunedol y Bwrdd Iechyd ar gyfer Cymuned Iechyd Integredig (IHC) y Dwyrain ac enillais brofiad fel Nyrs Datblygu Ymarfer a Nyrs Arweiniol Dros Dro cyn ymuno ag Academi Gofal Sylfaenol BIPBC ym mis Awst 2023.

Mae addysg broffesiynol mewn partneriaeth â goruchwyliaeth glinigol sy'n hwyluso trosglwyddo theori i ymarfer yn hanfodol er mwyn darparu gofal o ansawdd uchel, wedi'i seilio ar dystiolaeth i'n holl gleifion ac wrth ddatblygu gweithlu gwybodus, hyderus a chymwys.

Rwy’n teimlo’n ffodus iawn o fod wedi cael datblygu gyrfa mewn practis cyffredinol ac ar ôl i mi deithio’r llwybr addysgiadol hwn fy hun, rwyf bellach yn teimlo’r un mor ffodus o gael swydd sy'n cefnogi'r addysg a'r hyfforddiant ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd hefyd wedi dewis gyrfa mewn practis cyffredinol.

Arweinydd Rhaglen Meddygon Teulu Recriwtio a Chadw

Dr Meleri Evans

Arweinydd Rhaglen Meddygon Teulu Recriwtio a Chadw

Dr Meleri Evans

Mae Meleri wedi bod yn Feddyg Teulu ers 7 mlynedd ac yn newydd i dîm yr Academi. Treuliodd flynyddoedd lawer, tra’n hyfforddi, ymhell o Ogledd Cymru. Mae bellach wedi dychwelyd, ac yn barod i argyhoeddi unrhyw un sy'n barod i wrando pam y dylent ddod yma i fyw a gweithio. Mae ganddi ddiddordeb mewn anghydraddoldebau iechyd ac mae'n edrych ymlaen at fanteisio ar arloesedd lleol mewn recriwtio i wella mynediad i bawb. Yn ei hamser hamdden fe'i gwelir yn aml yn crwydro'r traethau neu'r mynyddoedd gyda'i theulu neu'n gweithio’n ddiwyd, heb rhyw lwyddiant mawr, yn ei gardd.

Cyfarfod â’r tîm

Tîm Academi Ddeintyddol

Cyfarwyddwr Prosiect Academi Ddeintyddol Gogledd Cymru

Peter Greensmith

Cyfarwyddwr Prosiect Academi Ddeintyddol Gogledd Cymru

Peter Greensmith

Mae Pete yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol, Gwasanaeth Deintyddol Gogledd Cymru ac yn Gyfarwyddwr Prosiect ar gyfer yr Academi Ddeintyddol. Mae Pete yn rheolwr newid a gwelliant parhaus profiadol, yn rheolwr datblygu busnes profiadol ac yn arloeswr.

Mae wedi gweithio o fewn Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol (PCT), Grwpiau Comisiynu Clinigol (CCG) ac Ymddiriedolaethau Sefydliadau Iechyd Meddwl yn Lloegr, yn ogystal â gweithio mewn Gofal Iechyd Carchardai a chanolfannau triniaeth Gofal Eilaidd ar gyfer sefydliad darparu’r GIG yn y Sector Annibynnol. Mae perthnasoedd partner a rhanddeiliaid cymhleth yn bethau arferol i Pete, ar ôl rheoli cais llwyddiannus am ganolfan Iechyd a Lles oedd yn cynnwys y Sector Annibynnol, Ymddiriedolaeth Sefydliedig y GIG, 2 CCG, 9 o feddygfeydd teulu, cynghrair cyfeillion, 2 Awdurdod Lleol a nifer o elusennau lleol a sefydliadau nid er elw.

 Mae wedi gweithio i BIPBC ers mis Ionawr 2020 ac mae’n angerddol dros gynyddu mynediad at ddeintyddiaeth, cefnogi cyfleoedd i staff ddatblygu eu sgiliau a’u gyrfaoedd, arloesedd wrth ddarparu gwasanaethau a gwella ansawdd.

Rheolwr Prosiect Academi Ddeintyddol Gogledd Cymru

Becca Hollinshead

Rheolwr Prosiect Academi Ddeintyddol Gogledd Cymru

Becca Hollinshead

Ymunodd Becca â BIPBC ym mis Tachwedd 2020 fel Rheolwr Prosiect yn Academi Ddeintyddol Gogledd Cymru, ym mis Chwefror 2022 fe’i dyrchafwyd yn Arweinydd Gwella Gwasanaeth, Gwasanaeth Deintyddol Gogledd Cymru oherwydd ei brwdfrydedd a’i hawydd i roi newid cadarnhaol ar waith. Mae’n dod o gefndir marchnata a chyfathrebu, ac mae ganddi gyfoeth o brofiad o wneud i bethau rhyfeddol ddigwydd trwy ddod â phrosiectau, negeseua a strategaeth yn fyw mewn unrhyw amgylchedd; boed hynny’n adeiladau, canolfannau cynadledda, sgriniau cyfrifiaduron, neuaddau arddangos neu fydoedd 3D. Mae Becca wedi darparu ystod amrywiol o brosiectau ar amryw ffurf ar gyfer y sector cyhoeddus a phreifat gan weithio ar draws y DU ac Ewrop. Mae ei ffocws a’i hegni, ynghyd â’i chariad at ddatblygu syniadau, rheoli prosiectau a’i phrofiad cyfathrebu creadigol, yn sicrhau bod prosiectau’n cael eu cyflawni ar amser ac yn unol â’r gofynion.

Fetching form...