Gweithio yn Gogledd Cymru

Mae Croeso Cynnes Yn Eich Disgwyl

Os ydych chi'n mwynhau her, yn awyddus i helpu eraill neu'n dymuno ailgychwyn yn rhywle newydd ac ysbrydolgar, mae'r GIG yng Ngogledd Cymru yn cynnig yr elfennau priodol.

P'un a ydych chi'n hyfforddi neu'n gymwys, bydd gennych chi'r cyfle i lunio dyfodol gofal iechyd mewn cymuned fywiog mewn lleoliadau godidog a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r bobl sy'n byw ynddynt. A phan nad ydych chi'n gweithio, darganfyddwch barc cenedlaethol helaeth, llwybrau beicio mynydd pwrpasol, llwybr arfordirol syfrdanol, llinell zip uchel, gwyliau bwyd a chwaraeon ac antur o'r radd flaenaf o amgylch pob cornel. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn esblygu ac yn symud i gyfeiriad cadarnhaol oherwydd cynllunio strategol, buddsoddiad ychwanegol mewn seilwaith a sianeli cyfathrebu mwy tryloyw rhwng staff ac aelodau'r Bwrdd. Bydd recriwtio, cadw a datblygu gweithlu amrywiol a thalentog yn cyflymu ein taith. Felly pam na ddewch chi i adeiladu eich dyfodol wrth ein helpu ni i lunio ein dyfodol ni?

Y gorau o ddau fyd

Efallai y bydd byw yng Ngogledd Cymru yn cynnig llonyddwch a chefn gwlad trawiadol i chi ar garreg eich drws, ond mae ceir cysylltiadau eithriadol o dda â mannau eraill a fyddwch chi fyth yn bell o fwrlwm dinas fawr. Mae'r rhanbarth yn cynnig cysylltiadau cymudo ardderchog i Barc Cenedlaethol Eryri a dinasoedd Gogledd Orllewin Lloegr - mae Caer a Lerpwl (a elwir hefyd yn 'brifddinas Gogledd Cymru!) lai nag awr i ffwrdd mewn car, a gellir cyrraedd Manceinion a Birmingham mewn car mewn llai na dwy awr. Gallwch hedfan yn syth o Ynys Môn i Gaerdydd mewn dim ond awr.

Penwythnosau ysbrydoledig

Biwmares

Mae Biwmares yn dref glan môr hudolus â chymysgedd o bensaernïaeth ganoloesol, Sioraidd, Fictoraidd ac Edwardaidd. Mae ei henw’n seiliedig ar y ‘beau marais’ Normanaidd, sy’n golygu ‘cors deg’, disgrifiad o’r safle a ddewiswyd gan Edward I ar gyfer yr olaf o’i ‘gylch haearn’ o gestyll, a adeiladwyd ganddo i geisio rheoli’r Cymry. - Croeso Môn

Gwefan Croeso Môn

Traphont Ddŵr Poncysyllte

Llangollen

Mae Traphont Ddŵr Poncysyllte yn Safle Treftadaeth y Byd sy'n cludo Camlas Llangollen fry uwchlaw Dyffryn Dyfrdwy.

Gwefan Traphont Ddŵr Poncysyllte 

Fetching form...