Fferylliaeth

Rhaglenni hyfforddi Fferylliaeth AaGIC ar gyfer practisau meddygon teulu

Mae Deoniaeth Fferylliaeth, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn cefnogi addysg a hyfforddiant ar gyfer yr holl weithlu fferylliaeth yng Nghymru, o israddedigion hyd at ymarferwyr ar lefel meddygon ymgynghorol. Mae practisau meddygon teulu Gofal Sylfaenol yn chwarae rhan fawr yn y gwaith o gefnogi datblygiad y gweithlu fferyllol ar bob lefel. Maent yn cael eu cydnabod yn rhandeiliaid a phartneriaid allweddol sy’n sicrhau bod pob dysgwr yn cael profiad cadarn a chyflawn yn ystod eu hyfforddiant. Mae hyfforddiant gofal sylfaenol yn rhoi cyfle i’r gweithlu fferyllol gael cydnabyddiaeth, a chael dealltwriaeth o rolau proffesiynau gwahanol a’u galluoedd wrth wneud y mwyaf posibl i ddarparu gofal cleifion a gwasanaethau clinigol. Mae’r adrannau isod yn rhoi crynodeb o’r rhaglenni hyfforddiant cyfredol sydd gan y Ddeoniaeth Fferylliaeth, beth sy’n cael ei gynnwys yn y rhaglenni a’r trefniadau ariannu.

Mae’r dolenni sy’n gysylltiedig â phob rhaglen yn rhoi gwybodaeth fanylach, neu gallwch ddefnyddio’r cyfeiriadau e-bost priodol i wneud ymholiadau.

Fferylliaeth i Israddedigion  (MPharm)

Pwy all oruchwylio? Mae goruchwyliaeth gan fferyllydd yn hanfodol

Pwy sy’n cyflogi’r unigolyn? Nid yw’n berthnasol. Lleoliad i israddedigion

Am ba hyd y bydd y dysgwr yn y practis? Blociau lleoliad 5 diwrnod fesul myfyriwr, drwy gydol 4 blynedd y cwrs MPharm

Oriau goruchwylio disgwyliedig: I ddechrau, bydd angen goruchwyliaeth uniongyrchol. Wrth i’r myfyriwr ddatblygu drwy’r rhaglen MPharm, bydd yn ymgymryd â gweithgareddau gydag ychydig o oruchwyliaeth adweithiol.

Galluoedd y dysgwr ar y rhaglen: Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â gweithgareddau clinigol dan oruchwyliaeth goruchwylydd hyfforddedig. Mae’r semester yn rhedeg o fis Medi hyd at fis Rhagfyr, ac yna o fis Ionawr hyd at fis Mai.

Gofynion penodol a gwybodaeth arall: Nid lleoliadau arsylwi yn unig yw’r rhain – bydd gofyn i fyfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n eu galluogi i gyfrannu ar y cyd ac o dan oruchwyliaeth, at ofal cleifion er mwyn dangos eu cymwyseddau. Mynegiannau o ddiddordeb yn y gwanwyn.

Cyllid sydd ar gael: £600 y myfyriwr yr wythnos – i’w dalu gan y brifysgol

E-bost: HEIW.FPUPP@wales.nhs.uk

Rhagor o wybodaeth

Fferyllydd dan Hyfforddiant Sylfaen

Pwy all oruchwylio? Mae goruchwyliaeth gan fferyllydd yn hanfodol.

Pwy sy’n cyflogi’r unigolyn? AaGIC drwy wasnaethau a rennir GIG Cymru

Am ba hyd y bydd y dysgwr yn y practis? Rhaglen sy’n flwyddyn o hyd wedi’i rhannu’n dri chylchdro o bedwar mis yr un  

Oriau goruchwylio disgwyliedig: Cyfarfod yn wythnosol gyda’r hyfforddai ynghyd ag adolygiad portffolio, dim mwy na hanner diwrnod yr wythnos

Galluoedd y dysgwr ar y rhaglen: Bydd hyfforddeion yn ymgymryd â gweithgareddau clinigol dan oruchwyliaeth. Fodd bynnag, unwaith y byddant wedi dangos eu bod yn gymwys, byddant yn cyfrannu ar y cyd at ofal cleifion, dan oruchwyliaeth fferyllydd y practis.

Gofynion penodol a gwybodaeth arall: Hyfforddiant blynyddol i oruchwylwyr dynodedig. Bydd hyfforddeion yn cael eu recriwtio drwy Oriel a thelir y costau recriwtio gan AaGIC. Cyflogir yr hyfforddeion drwy fodel cyflogaeth arweiniol unigol. Mynegiannau o ddiddordeb ym mis Ionawr

Cyllid sydd ar gael: Grantiau hyd at £9000 y flwyddyn os ceir 3 hyfforddai (un pob cylchdro), os oes 3 neu fwy o hyfforddeion ar y safle, ceir Taliad Cydlynydd Hyfforddiant o £3000 y flwyddyn

E-bost: HEIW.PRP@wales.nhs.uk

Rhagor o wybodaeth

Fferyllydd Sylfaen Ôl-gofrestru (PRFP)

Pwy all oruchwylio? Mae goruchwyliaeth gan fferyllydd yn ddymunol ond bydd goruchwyliaeth gan feddyg teulu yn cael ei hystyried gan AaGIC/Prifysgol Caerdydd

Pwy sy’n cyflogi’r unigolyn? Practis meddyg teulu

Am ba hyd y bydd y dysgwr yn y practis? Rhaglen 2 flynedd o hyd

Oriau goruchwylio disgwyliedig: Dylid neilltuo 1 diwrnod y mis ar gyfer cefnogi’r dysgwr

Galluoedd y dysgwr ar y rhaglen: Bydd y fferyllwyr newydd gymhwyso neu wedi cymhwyso am ddim mwy na 2 flynedd. Byddant yn cwbhlau cwrs IP yn ystod ail flwyddyn y rhaglen

Gofynion penodol a gwybodaeth arall: Mae practisau meddygon teulu yn hysbysebu’r swydd ac yn recriwtio’r cyflogai eu hunain ar gyfer mis Medi 2024 a mis Ionawr 2025.  Mynegiannau o ddiddordeb ym mis Tachwedd/Rhagfyr.

Cyllid sydd ar gael: Grant hyfforddi ar gael i ddarparu amser wedi’i neilltuo i’r fferyllydd a goruchwyliwr y practis. Rhaglen 24/25: Blwyddyn 1 £11,500, Blwyddyn 2 £15,878. Cyfanswm £27,378

E-bost: HEIW.PRFP@wales.nhs.uk

Rhagor o wybodaeth

Rhagnodi Annibynnol (IP)

Pwy all oruchwylio? Mae angen Ymarferydd Rhagnodi Dynodedig (DPP)/Meddyg Teulu/Uwch Ymarferydd Nyrsio/Parafeddyg/Fferyllydd Practis ar fferyllydd dan hyfforddiant IP

Pwy sy’n cyflogi’r unigolyn? Practis meddyg teulu arall neu gyflogwr fferyllfa gymunedol

Am ba hyd y bydd y dysgwr yn y practis? 90 awr

Oriau goruchwylio disgwyliedig: 90 awr o ymarfer dan oruchwyliaeth a gytunir gan yr Ymarferydd Rhagnodi Dynodedig a’r fferyllydd dan Hyfforddiant IP

Galluoedd y dysgwr ar y rhaglen: Bydd yn amrywio yn dibynnu ar brofiad y cofrestrai

Gofynion penodol a gwybodaeth arall: Mae’n rhaid bod yr Ymarferydd Rhagnodi Annibynnol wedi bod yn rhagnodi’n rheolaidd am o leiaf 3 blynedd yn yr un cwmpas ymarfer a’r fferyllydd dan hyfforddiant IP. Mynegiannau o ddiddordeb drwy gydol y flwyddyn yn ôl yr angen.

Cyllid sydd ar gael: £3000 fesul hyfforddai (os yw wedi’i leoli mewn fferyllfa gymunedol). Dim mwy na 2 hyfforddai i bob practis meddyg teulu yn enwedig os yw’n cefnogi hyfforddeion eraill.

 E-bost: HEIW.CommissionedProgrammes@wales.nhs.uk

Rhagor o wybodaeth

Fetching form...