Raglen Sylfaen GPN Cymru Gyfan
Er mwyn cymryd rhan yn Rhaglen Sylfaen Nyrsys Practis Cyffredinol Cymru Gyfan, bydd angen i bob Practis Meddyg Teulu ryddhau eu Hyfforddai GPN i fynychu ystod o sesiynau hyfforddi addysgol a chlinigol. Bydd y Practis hefyd yn cynnig nyrs i oruchwylio’r Hyfforddai GPN yn glinigol, i roi cymorth ac i asesu cymwyseddau hanfodol.
Drwy’r rhaglen 9 mis o hyd hon, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn rhoi cymorth i Bractisau ddatblygu eu nyrsys.
Mae pob Practis yn gymwys i wneud cais am le ar Raglen Sylfaen GPN. Dyddiadau dechrau'r rhaglen yw mis Gorffennaf a mis Ionawr bob blwyddyn. Cysylltwch â BCU.Academy@wales.nhs.uk am ragor o wybodaeth neu ffurflen gais.