APP Phase 1 Executive Summary FINAL
pdf, 982.242 KB
Yn 2018 dyfarnwyd cyllid Cyflymu gan Lywodraeth Cymru i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) i ddylunio a darparu model gweithio cylchdro tair rhan arloesol. Gwelodd y model Uwch Ymarferwyr Parafeddygol (APPs) yn cylchdroi rhwng y ganolfan rheolaeth glinigol ac ymateb unigol ar gyfer WAST, ac mewn safleoedd gofal sylfaenol ar gyfer BIPBC.
Yn fras, nod y prosiect oedd archwilio a oedd pob elfen o'r cylchdro tair rhan yn gwella arfer clinigol yn y ddwy ran arall. Amcan arall oedd asesu’r gallu ychwanegol i’w greu o fewn lleoliadau gofal sylfaenol, a phrofi’r dybiaeth bod rôl ddichonadwy yn bodoli ar gyfer Rhaglenni APP WAST wrth ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol. Yn ogystal, fel prosiect trawsnewidiol, roedd angen i'r tîm ddangos, trwy eu dysgu, beth fyddai'r model cylchdroi mwyaf effeithiol, a oedd o fudd i gleifion, WAST a Gofal Sylfaenol.
Dyluniwyd fframwaith gwerthuso helaeth gan ddefnyddio'r Model Rhesymeg ar ddechrau'r prosiect; ailymwelwyd â hyn, ei adolygu a'i ddiwygio wrth i'r prosiect fynd rhagddo. Roedd yn ddigon hyblyg i gynnwys themâu a oedd yn dod i'r amlwg ac yn ddigon cadarn i alluogi dileu meysydd o ddiddordeb cychwynnol.
Daeth y prosiect i ben yng ngwanwyn 2022, ac mae gwerthusiad gwasanaeth cynhwysfawr a gynhaliwyd ochr yn ochr â'r Llwybrydd wedi gallu dangos ei fod yn fodel defnyddio dilys ar gyfer y grŵp hwn o staff a bod manteision adnabyddadwy i gleifion, WAST , gofal sylfaenol, a'r APPs.
This model has now moved to business as usual across north Wales. The first two cohorts are still working in Primary Care, they have been joined by a third cohort and a forth cohort who are now in training.
Mae rôl y parafeddyg wedi bod yn esblygu’n gyson er mwyn bodloni’r gofynion newidiol, gan gynnwys mynediad at lwybrau addysg uwch sy’n arwain at ddatblygu gyrfa glinigol. Mae rolau estynedig, megis ymarfer clinigol uwch wedi cynnig opsiynau newydd i barafeddygon addysgedig a phrofiadol i weithio mewn uwch rolau clinigol sy’n wynebu cleifion, y tu hwnt i gyflogwr traddodiadol parafeddygon sef y gwasanaeth ambiwlans.
Yr her yn awr i unrhyw wasanaeth ambiwlans modern yw sut i gynnig gyrfa hir gydag amrywiaeth o opsiynau i grwpiau o staff sydd wedi buddosddi’n sylweddol yn eu datblygiad proffesiynol; yn enwedig pan fo’r datblygiad hwnnw yn eu gwneud yn ddeniadol i sefydliadau gofal iechyd eraill. Mae data o Loegr yn dangos bod nifer cynyddol o barafeddygon yn dewis gweithio ym maes Gofal Sylfaenol. Yn sicr, mae manteision i’r parafeddyg ei hun ac i’r practis, ond efallai nad newid amgylchedd gwaith yw’r cam cywir bob amser. Er bod nifer o barafeddygon yn dychwelyd, mae cyfraniad deallusol y rhai sy’n cadw draw yn golygu bod y gwasanaethau ambiwlans yn colli’r manteision mae gweithio mewn sectorau iechyd eraill yn gallu eu cynnig.
O safbwynt systemau, mae hwn yn ddull aneffeithiol o ddarparu gofal iechyd, ac efallai na fydd sefydliadau sy’n cystadlu am dalent yn gallu cydweithio’n agos i ddarparu gofal cydgysylltiedig rhagorol. Diben y prosiect Pennu Cyfeiriad hwn a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, oedd profi patrwm gweithio cylchdro estynedig yn dilyn prosiect mewnol llwyddiannus. Roedd yr estyniad hwn ar gyfer grŵp bach o uwch ymarferwyr parafeddygol, yn cynnwys gweithio ym maes Gofal Sylfaenol. Tybiwyd y byddai’r canlyniadau’n ddeublyg, sef cefnogi cynaliadwyedd y gweithlu ym maes Gofal Sylfaenol a dod â manteision gwybodaeth system glinigol a Gofal Sylfaenol estynedig yn ôl i’r cysylltiadau clinigol wrth weithio gyda Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Mae’r adroddiadau, y gellir eu canfod yma, yn ganlyniad i brosiect tair blynedd â saith maes diddordeb yn cael eu gwerthuso, gan gynnwys y model cylchdro, effaith ar Gleifion, Gofal Sylfaenol, y Parafeddygon a’r Proffesiwn a’r gofyniad Sgiliau, Addysg, Hyfforddiant a Goruchwyliaeth (SETS).
Mae Tîm y Prosiect wedi myfyrio ar eu dysgu drwy gydol y prosiect ac mae pob aelod wedi nodi datblygiad personol a phroffesiynol o ganlyniad uniongyrchol o gymryd rhan yn y Prosiect hwn.
Gemma Nosworthy
Rheolwr Academi Gofal Sylfaenol a Chymunedol
APP Phase 1 Executive Summary FINAL
pdf, 982.242 KB