Interniaeth Cymdeithion Meddygol mewn Gofal Sylfaenol

Ar gau i geisiadau ar hyn o bryd

Mae datblygiad Cymdeithion Meddygol (PAs) yn y DU wedi gwneud cynnydd cyflym dros y blynyddoedd diwethaf ac adnabyddir y rôl fel un â rhan bwysig i’w chwarae yn narpariaeth gofal cleifion yn awr ac yn y dyfodol.

Rhaglen Interniaeth Gofal Sylfaenol

Cynigiodd yr Academi Interniaeth gofal sylfaenol a ariennir am 12 mis ar gyfer Cymdeithion Meddygol (PAs) newydd gymhwyso o Brifysgolion Cymru.

Roedd yn ofynnol i PAs fod wedi cwblhau eu MSc mewn Astudiaethau Cymdeithion Meddygol, bod wedi pasio'r ddwy elfen o'r Arholiad Cenedlaethol Cymdeithion Meddygol a bod wedi cofrestru ar y Gofrestr Cymdeithion Meddygol Gwirfoddol a Reolir.

Beth oedd yr Interniaeth Gofal Sylfaenol?

Lleoliad 12 mis gyda phractis Meddyg Teulu oedd yr Interniaeth Gofal Sylfaenol a oedd yn gallu cefnogi PA newydd gymhwyso i gymryd eu cam cyntaf i weithio fel PA cymwys.

Gan gydnabod y gall fod yn eithaf brawychus fel PA newydd gymhwyso, cynlluniwyd y rhaglen interniaeth hon i osod sylfaen ar gyfer ymarfer personol a phroffesiynol am flynyddoedd i ddod.

Roedd gan y rhaglen dair elfen benodol:

  • Ymarfer clinigol: Treuliwyd 80% o'r amser yn ymarfer, yn gweld cleifion.
  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus: Cafodd 10% o'r amser ei ddiogelu ar gyfer anghenion datblygiad proffesiynol parhaus.
  • Archwiliad /Ymchwil/Gwella Ansawdd: Anogwyd PAs yn weithredol i gynnal archwiliad neu gymryd rhan mewn ymchwil glinigol os yw'r practis yn weithredol o ran ymchwil neu i nodi gwasanaeth neu brosiect gwella ansawdd.


Cyflwynodd carfannau blaenorol ganfyddiadau eu harchwiliadau i gynhadledd flynyddol RCGP ac maent wedi gallu mynychu er mwyn cyflwyno eu posteri.

Cynhadledd Flynyddol RCGP

Dyluniodd a chwblhaodd y garfan gyntaf o Gymdeithion Meddygol archwiliad yn edrych ar gyflwyniadau cleifion mewn gofal sylfaenol a sut mae'r rhain yn cyd-fynd â Matrics Cymwyseddau Craidd y PA. Cyflwynwyd y canfyddiadau mewn poster yng nghynhadledd rithwir RCGP a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2021. Llongyfarchiadau i Heledd, Craig, Beth a Jo, a ddyfarnwyd y 'Poster Gorau' iddynt yn y categori Darparu Gwasanaethau gyda'u poster o'r enw 'Cynyddu'r capasiti mewn Gofal Sylfaenol gyda Chymdeithion Meddygol'.

Cohort dau yng Nghynhadledd Flynyddol RCGP yn Lerpwl 2021

Mynychodd Scott, Sam ac Ellie a chyflwyno eu poster o'r enw 'Dadansoddiad Ansoddol o Lythyrau Rhyddhau a Dderbyniwyd gan Ofal Sylfaenol ar draws Meddygfeydd Teulu yng Ngogledd Cymru'.

Fetching form...