Ffisiotherapydd Arbenigol Clinigol ym maes gofal sylfaenol

Zach Spargo

Llwybr at ymarfer  

Rwyf newydd symud i'r rôl hon. Rwy'n gwneud y gwaith ers ychydig fisoedd erbyn hyn, ond roeddwn yn Ymarferydd Clinigol Uwch (ACP) neu'n Ymarferydd Ffisiotherapi Uwch trwy'r academi. Cyn hynny, bûm i'n uwch ffisiotherapydd ym maes MSK (cyflyrau cyhyrysgerbydol) am 12 mis. Yn flaenorol, gweithiais ym maes chwaraeon proffesiynol am ychydig flynyddoedd. Bûm yn uwch ffisiotherapydd yng Nghlwb Criced Swydd Caerhirfryn a gweithiais ym maes pêl-droed Uwch Gynghrair Lloegr am gyfnod. Yn syth ar ôl cymhwyso, gweithiais ar batrwm cylchdro yn y GIG am ychydig flynyddoedd, gan symud o amgylch meysydd cyflyrau cyhyrysgebydol, orthopaedeg, anhwylderau resbiradol a strôc.

Pan welais i'r hysbyseb am swydd ACP dan hyfforddiant yn yr Academi, sylweddolais y buasai hynny'n fy ngalluogi i weithio mewn maes yr oeddwn yn dymuno gweithio ynddo, â'r cymorth i gael fy swydd bresennol, sef y rôl arbenigwr clinigol hon.

A allwch chi ddisgrifio'r oruchwyliaeth a gawsoch chi? 

I ddechrau, roedd ganddynt broses oedd yn cynnig cefnogaeth fanwl iawn ac roeddem yn gweithio gyda'r meddyg a byddai hi'n eich cyflwyno i'r gwaith. O ran gofal sylfaenol, byddech yn cael cymorth gan fentor, ac roedd ffisiotherapydd ym maes gofal sylfaenol hefyd yn fy nghefnogi ar y pryd. Ar ôl cynefino â'r gwaith, roeddwn i'n gallu gwneud hynny ar fy mhen fy un ond roedd [meddyg teulu a oedd yn goruchwylio] yn dal ar gael i gwblhau fy nghymwysterau gyda fi. Rwy'n gwneud fy nghwrs rhagnodi ar hyn o bryd, ac rwyf newydd gwblhau fy nghwrs rhoi pigiadau steroidau.

Disgrifiwch wythnos arferol

Mae wythnos arferol yn debyg i glinig arferol mewn meddygfa neu glinig NP. Bydd gennyf gyfuniad o apwyntiadau 20 munud neu rai sy'n para 30 munud. Mae'r model hwn ychydig yn wahanol i fodel traddodiadol ffisiotherapi cyswllt cyntaf ym maes gofal sylfaenol. Mae'n hynny'n cynnig ychydig bach mwy o ryddid i ni i fynd i'r afael ag agweddau gwahanol ar yr hyn y gallai ffisiotherapydd ei ddarparu ym maes gofal sylfaenol. Mae wedi'n helpu ni i ddarparu gwasanaeth fel ymarferydd cyswllt cyntaf ar gyfer claf sydd â phroblem gyhyrysgerbydol, sy'n wych, a dyna rwy'n ei wneud yn bennaf o hyd. Ond efallai bydd gan rai cleifion boen cronig mwy cymhleth neu boen dyfalbarhaus, sydd wedi datblygu dros flynyddoedd.

Trwy gyfrwng yr Academi, cefais dreulio rhywfaint o amser mewn gwahanol dimau, a'r tîm rheoli poen oedd un o'r rheiny. Dysgais ychydig yn rhagor am yr hyn y maent yn ei ddarparu, y pethau y gallwn ddysgu ganddynt a'i defnyddio ym maes gofal sylfaenol i helpu fy nghleifion fy hun. Rydym wedi cydnabod bod poen cronig cymhleth yn gyflwr eithaf cyffredin ym maes gofal sylfaenol, ac yn anfoddus, nid wyf yn sicr a ydym wedi mynd i'r afael yn berffaith â hynny yn y gorffennol, oherwydd, yn draddodiadol, ni fydd gan feddygon teulu lawer o amser ar gyfer pob apwyntiad. Bydd gan y tîm rheoli poen apwyntiadau sy'n para awr neu ragor gyda'r mathau hyn o gleifion, a gydag aelodau'r tîm amlddisgyblaethol - therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion a meddygon. Rwyf wedi ceisio cyflwyno cyfnodau ymgynghori hirach ar gyfer y mathau hyn o gleifion gan drefnu slotiau hanner awr, sy'n ddefnyddiol iawn ar brydiau. Mae'n gyfuniad o weithio gyda'r therapydd galwedigaethol sydd hefyd yn gweithio yma, felly mae'n debyg i ddull amlddisgyblaethol, a gallaf eu cyfeirio at yr OT neu gallwn gynnal apwyntiad ar y cyd.

Mae fy nhasgau eraill yn cynnwys ymweld â phobl yn eu cartrefi, unwaith neu ddwywaith yr wythnos. Gall hynny fod yn syml, er enghraifft, canfod y buasai cymhorthion cerdded yn ddefnyddiol i unigolyn sydd â phroblemau symudedd ac mewn perygl o gwympo. Gallaf gyfeirio pobl at ffisiotherapydd cymunedol neu'r gwasanaethau cymdeithasol, ond weithiau, bydd cyfeiriadau yn cymryd ychydig wythnosau i'w cwblhau. Os bydd gennyf yr offer, gallaf fynd â ffon iddynt y diwrnod hwnnw, eu hasesu'n ei ddefnyddio a'i fesur i sicrhau bod ei faint yn briodol iddynt, a gall hynny fod yn ymyriad diogelwch, naill ai'n barhaol neu dros dro cyn iddynt gael eu hasesu gan y tîm cymunedol. Mae'n ffordd dda o bontio'r bwlch a bydd cleifion yn gwerthfawrogi hynny'n fawr.

Beth sy'n arbennig am eich proffesiwn chi ym maes gofal sylfaenol? 

Fe wnes i gwblhau cwrs Ymarfer Clinigol Uwch mewn prifysgol, felly fe wnes i lawer o waith ynghylch pethau ychwanegol sydd ddim yn rhan o fy rôl draddodiadol, er enghraifft, asesiadau resbriadol, asesiadau cardiofasgwlaidd ac asesiadau niwrolegol. Er enghraifft, daeth claf â phoen yn eu hysgwydd i'r cling, unigolyn yn ei chwedegau a oedd yn dal yn gweithio, rhywun a oedd yn iach ac yn heini fel arfer, ond roedd yn ysmygwr. Roedd asesiad o'r ysgwydd wedi'i drefnu i'r claf ac fe wnes i hynny, ond nid oeddwn i'n credu mai'r ysgwydd oedd y broblem. Oherwydd fy hyfforddiant, roeddwn i'n gallu cynnal asesiad resbiradol o frest y claf, clywed ychydig yn rhagor am eu hanes, eu hanes fel ysmygwr, y peswch a'r boen, ac yn sgil yr hanes hwnnw, cyfeiriad y claf i gael pelydr X ar y frest. Yn anffodus, fe wnaeth hynny ddatgelu canser eithaf datblygedig ar y frest, ond roeddwn i'n falch bod gen i sgiliau ychwanegol i'm galluogi gynnal asesiad aml-ffactor, a oedd yn fuddiol. Mae'r Academi wedi darparu clinigydd sydd ychydig bach yn fwy amryddawn, sy'n gallu ymdrin â rhai pethau oddi allan i'w faes.

Sut brofiad yw gweithio ym maes gofal sylfaenol i chi?  

Mae gofal sylfaenol yn gyffrous oherwydd fyddwch chi ddim yn gwybod beth welwch chi nesaf. Efallai bydd 'poen yn y ben-glin' wedi'i nodi ym manylion yr apwyntiad, ac yna, ymhen dau funud ar ôl cychwyn sgwrsio â'r claf, byddwch yn sylweddoli bod y boen yn ymwneud â'u cefn, nid eu pen-glin, ac efallai na fydd a wnelo hynny â'u corff o gwbl. Gallai ddeillio o newid yn eu hamgylchiadau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau symud. Roeddent yn arfer mynd i'r clwb bowlio ac i ddosbarthiadau cerdded; maent wedi colli rhai o elfennau cymdeithasol ffordd o fyw arferol. "Rydym wedi rhoi'r gorau i fynd i'r clwb hwnnw. Nid ydym yn ymwneud â'r unigolyn hwnnw erbyn hyn". Beth i ni ganolbwyntio ychydig yn rhagor ar yr elfen presgripsiwn cymdeithasol?  A dweud y gwir, roeddent yn ceisio rhywfaint o anogaeth yn anad dim, ond efallai eu bod yn ceisio caniatâd hefyd, a chadarnhad ei bod yn iawn iddynt ailafael yn y pethau yr oeddent yn arfer eu mwynhau, er gwaethaf y boen. Dyna hanfod gofal sylfaenol, dod i adnabod pobl yn eich cymuned. Byddwch yn gwneud eich gorau glas yn ystod yr ugain munud hynny, byddwch yn ystyried y darlun ehangach, nid y ben-glin neu'r ffêr neu'r ysgwydd yn unig.

Hefyd, ar hyn o bryd, mae cleifion yn disgwyl misoedd i gael gwasanaeth ffisiotherapi traddodiadol yn yr Ysbyty Cymunedol. O ran y gwasanaeth ffisiotherapi sydd ar gael ym maes gofal sylfaenol, gellir eu gweld ymhen wythnos neu ddwy ar ôl iddynt ymweld â'u meddygfa yn wreiddiol, ac rwy'n hoffi hynny. Bydd rhywun yn rhedeg ac yn cael poen yn eu pen-glin, ac mae'n debyg y gallaf eu gweld ymhen 10 - 12 diwrnod, sy'n golygu y gallwch roi sicrwydd iddynt ac egluro sut i wneud ymarferion. Bydd cael y cyngor cyntaf hwnnw yn gwneud iddynt deimlo eu bod yn gwybod beth sy'n digwydd, a bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr. Mae cael gweld ffisiotherapydd yn gynnar y bwysig?

Beth yw'r 3 sgil allweddol sy'n hanfodol i'ch rôl? 

Brwdfrydedd - ni fydd cleifion yn teimlo'n frwdfrydig ynghylch eu poen bob amser, felly bydd yn rhaid i chi gynnig brwdfrydedd.

Optimistiaeth - yna aml iawn, ni fyddant yn credu eu bod yn gwella neu byddant yn teimlo'n eithaf isel eu hysbryd am hynny. Felly mae'n rhaid i chi gynnig ymdeimlad o optimistiaeth a hyder y gall pethau wella.

Gwrando - mae'n rhaid i chi fod yn wrandäwr da. Gofalwch bod cleifion yn credu eu bod yn cael gwrandawiad, oherwydd, yn aml iawn, dyma brif destun cwynion cleifion ym maes iechyd yn gyffredinol. Os byddwch yn sicrhau y cânt wrandawiad ac yn dilysu eu pryderon, naw gwaith allan o ddeg, byddwch yn gallu sicrhau nad yw'r broblem mor arswydus ag y maent yn credu. Mae ymdeimlad o wrando a chyfathrebu a dilysu yn bwysig iawn.

Beth yw'r peth pwysicaf rydych wedi'i  ddysgu ym maes gofal sylfaenol? 

Credaf fod gwneud pethau bychain yn dda yn gwneud gwahaniaeth mawr. Gwrando yw un o'r pethau hynny. Yn ail, byddwch yn sylweddoli y bydd ganddynt un apwyntiad ugain munud gyda chi ac ni fydd adolygiad nac apwyntiad arall yn cael ei drefnu iddynt, felly bydd angen i chi ddangos iddynt beth allwch wneud. Dylech roi sicrwydd iddynt a darparu'r dulliau gofynnol i'w helpu hwy eu hunain a gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu grymuso. Yn draddodiadol ym maes ffisiotherapi, byddwch yn trefnu adolygiad ymhen tair wythnos iddynt, ond nid yw fantais honno ar gael i mi. Felly mae'n rhaid i chi wneud pethau bychain yn dda ac yn gyflym, cynnig rhwyd diogelwch os na fydd y cyflwr yn gwella neu os bydd yn gwaethygu, a chynnig gwybodaeth eglur a hawdd ei deall.

Beth yw manteision cael Ffisiotherapydd Arbenigol Clinigol ar gyfer gofal sylfaenol/ymarfer/cleifion?  

Fe wnaeth bod yn rhan o'r Academi yn hytrach na'r tîm ffisiotherapi i ddechrau ganiatáu i mi fod yn aelod gwell o'r tîm. Byddaf yn gofyn cwestiwn iddynt, byddant hwythau yn gofyn cwestiwn i mi, a byddwn yn cydweithio ychydig yn fwy. Byddwn yn cynnal sesiynau addysgol ynghylch materion cyhyrysgerbydol a byddant hwythau yn rhedeg sesiynau addysgol ynghylch rhagnodi a meddyginiaethau. Mae'n debycach i ethos gwaith tîm. Felly beth rwy'n dymuno'i wneud efallai yw rhedeg sesiwn fisol yn ystod yr awr ginio ynghylch poen yn yr ysgwyddau, poen yn y cluniau, i drafod yr elfennau, a byddai hynny'n gwella ansawdd y gofal ar gyfer cleifion.

Byddaf yn gweld hynny yn achos yr holl broblemau cyhyrysgerbydol y byddwn yn eu canfod yn y practis ym Mhrestatyn. Mae gormod ohonynt, felly bydd y meddygon teulu a'r meddygon a'r nyrsys yn eu gweld, sy'n wych. Fodd bynnag, ni fydd eu hyder â'r cyflyrau hynny mor dda ar adegau, sy'n rhesymol. Gallaf gynnig rhai o'r elfennau hynny i roi'r hyder iddynt i wybod beth yw'r prif bethau y dylid chwilio amdanynt.

 

Pa gynlluniau sydd gennych chi i ddatblygu'r rôl? 

Rwyf newydd basio fy nghwrs rhoi pigiadau, yn ymwneud â phigiadau steroidau yn yr ysgwydd, y pengliniau a'r cluniau. Rwyf wrthi'n cwblhau'r modiwlau ac yn gwneud y cwrs rhagnodi, ac mae'n ofynnol i mi ddatblygu portffolios a threulio amser gyda chlinigwyr eraill.

Ar ôl i i mi gwblhau'r modiwlau a chael y cymwysterau, byddaf yn gallu canolbwyntio ychydig yn fwy ar ddatblygu, ar y gwasanaeth, rwy'n credu y bydd rhai ffactorau penodol yn bwysig.  Un o'r rheiny yw'r cyfuniad o therapi galwedigaethol a ffisiotherapi. Fi yw'r unig ffisiotherapydd, ond fe hoffwn i sefydlu grŵp rheoli poen tymor hir a chynnal cyfarfodydd dwyawr unwaith yr wythnos neu bob bythefnos, a gallu cynnwys y cohort yn hynny. Efallai y bydd gennym ni hyd at wyth o bobl a bydd yn debycach i grŵp cynorthwyo cymheiriaid a fyddai'n sicrhau bod mynediad ar gael ym maes gofal sylfaenol at rai o'r ymyriadau sydd ar gael yn fanylach ym maes gofal eilaidd. Gallem sefydlu hynny yma a buasai'n rhaglen wyth wythnos ynghylch addysg, strategaethau ymdopi, gosod nodau, rheoli gwneud pethau'n raddol ac ati.  Popeth sy'n llesol i bobl sydd â phoen tymor hir, a gallem roi cyfle iddynt brofi hynny yma cyn cael eu cyfeirio at y gwasanaeth rheoli poen efallai. Byddai hynny'n dipyn o gamp.

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sydd â diddordeb bod yn Ffisiotherapydd Arbenigol Clinigol?  

Hon yw'r swydd ddifyrraf rwyf wedi'i chael ym maes ffisiotherapi oherwydd mae'n rôl mor amrywiol. Byddwch yn gweld amrywiaeth helaeth o bethau, ond byddwch yn gwneud gwahaniaeth mawr hefyd. Mae'n swydd hynod o brysur, ond mewn gwirionedd, credaf fod y rôl yn fwy boddhaus na swyddi ym maes ffisiotherapi cyhyrysgerbydol traddodiadol. Er nad yw hynny'n anarferol erbyn hyn, bydd cleifion yn dal i gael eu syfrdanu pan fyddant yn cael gweld ffisiotherapydd ymhen pythefnos ar ôl i'r broblem gychwyn, felly byddant yn gwerthfawrogi mwy ar brydiau.   Bydd hynny felly yn brofiad mwy boddhaus i chi mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, oherwydd byddwch wedi gwneud gwahaniaeth mawr yn gynharach. Felly ewch amdani!

Fetching form...