Dyddiadur Cyrsiau
Mae'n bleser gan dîm yr Academi gynnig ystod eang o gyrsiau hyfforddi clinigol ac anghlinigol i staff gofal sylfaenol. Mae'r sesiynau hyn wedi'u hariannu'n llawn ac maent ar gael i bractisau meddygon teulu'r bwrdd iechyd a phractisau annibynnol.
Mae rhai cyrsiau gweinyddol hefyd yn addas ar gyfer staff sy'n gweithio i gontractwyr deintyddol annibynnol.
Results
Atal cenhedlu ar gyfer nyrsys practis
- Dyddiad cychwyn
- 19 Maw, 2026
- Cymhwyster
- Tystysgrif presenoldeb
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- 2 Diwrnod, 19/03/2026 & 26/03/2026
Mae'r cwrs Atal Cenhedlu ar gyfer Nyrsys Ymarfer yn darparu hyfforddiant hanfodol i nyrsys mewn gofal sylfaenol. Wedi'i ddatblygu yn unol â chanllawiau cenedlaethol, archwiliwch ddewisiadau atal cenhedlu a deallwch eu harwyddion a'u heffeithiolrwydd. Dysgwch lywio gofal sy'n canolbwyntio ar y claf, materion cyfreithiol ac astudiaethau achos ymarferol ar gyfer rheoli atal cenhedlu yn hyderus.
Cwrs Sylfaen Asthma
- Dyddiad cychwyn
- 01 Ebr, 2024
- Cymhwyster
- Phwynt datblygiad addysg parhaol
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- 15 awr o addysg - 2 fis i'w gwblhau
Mae asthma yn gyflwr meddygol hirdymor sy'n effeithio ar bobl o bob oedran. Mae'n un o brif achosion afiacheddau ac mae'n faich sylweddol ar gleifion, gwasanaethau iechyd a'r gymdeithas. Mae'r cwrs hwn yn cynnig trosolwg o asthma a'i effaith ar iechyd a lles cleifion o bob oedran. Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylw i ddiagnosis cynnar a manwl gywir, dulliau rheoli priodol a gânt eu teilwra yn unol ag anghenion a dymuniadau cleifion unigol, ac osgoi pyliau o asthma a marwolaethau a achosir gan asthma trwy ddulliau hunanreoli â chymorth, ymyriadau buan a threfnu gofal yn effeithiol.
Cwrs Sylfaen COPD
- Dyddiad cychwyn
- 01 Ebr, 2024
- Cymhwyster
- Phwynt datblygiad addysg parhaol
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- 15 awr o addysg - 2 fis i'w gwblhau
Nod y modiwl addysg broffesiynol hwn yw cynorthwyo myfyrwyr i ddirnad hanfodion gofal i gleifion sydd â COPD.
Mae'r cwrs yn cynnig trosolwg o'r clefyd a'i effaith. Bydd myfyrwyr yn dod i ddeall sut y defnyddir dulliau canfod hanes a chynnal profion diagnostig pwysig megis sbirometreg i sicrhau diagnosis diogel a chywir. Byddant yn gallu dirnad a gweithredu egwyddorion rheoli COPD, gan ddefnyddio newidiadau i ffyrdd o fyw a therapi â chyffuriau priodol i leihau'r beichiau a'r risgiau sy'n gysylltiedig â COPD, gan ddysgu sut i adolygu a gofalu am gleifion yn effeithiol, beth bynnag fod cam eu clefyd, yn cynnwys cleifion sydd â chlefyd acíwt sy'n gwaethygu.
Mae’r cwrs wedi’i lunio gan glinigwyr profiadol sy'n gweithio yn y maes ar hyn o bryd ac sydd oll yn awyddus i wella bywydau pobl sydd â COPD. Mae'r deunyddiau dysgu yn amrywiol ac maent yn cynnwys gweithgareddau sy'n cael eu llywio gan diwtoriaid a cheir asesiadau ac adborth rheolaidd trwy gydol y modiwl. Mae'r cwrs wedi'i fapio yn unol â gofynion safonau a chodau proffesiynol sy'n cael eu cydnabod ar y lefel genedlaethol, ac ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd gan fyfyrwyr y wybodaeth a'r sgiliau sy'n ofynnol i ddarparu gofal sy'n seiliedig ar ganllawiau a datblygu eu harferion proffesiynol ymhellach. Felly, mae'r cwrs hwn yn addas at ddibenion DPP a datblygu'r gweithlu.
Cwrs Sylfaen ILD
- Dyddiad cychwyn
- 01 Ebr, 2024
- Cymhwyster
- Phwynt datblygiad addysg parhaol
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- 15 awr o addysg - 2 fis i'w gwblhau
Nod y modiwl addysg broffesiynol 15 awr hwn yw galluogi myfyrwyr i ddeall hanfodion gofal i gleifion sydd â chlefyd interstitaidd yr ysgyfaint.
Mae'r cwrs hwn yn cynnig trosolwg o fynychder ILDs gwahanol a'u heffaith. Bydd myfyrwyr yn dod i ddeall pa mor bwysig yw llunio diagnosis diogel a manwl gywir. Archwilir tystiolaeth bresennol ynghylch rheoli ILD, yn cynnwys rôl dulliau anffarmacolegol a phwysigrwydd gofal cynhaliol.
Mae’r cwrs wedi’i lunio gan glinigwyr profiadol sy'n gweithio yn y maes ar hyn o bryd ac sydd oll yn awyddus i wella bywydau pobl sydd ag ILD. Mae'r deunyddiau dysgu yn amrywiol ac maent yn cynnwys gweithgareddau sy'n cael eu llywio gan diwtoriaid, a defnyddir straeon cleifion fel adnoddau dysgu trwy gydol y modiwl.
Mae'r cwrs wedi'i fapio yn unol â gofynion safonau a chodau proffesiynol sy'n cael eu cydnabod ar y lefel genedlaethol, ac ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd gan fyfyrwyr y wybodaeth a'r sgiliau sy'n ofynnol i ddarparu gofal sy'n seiliedig ar ganllawiau a datblygu eu harferion proffesiynol ymhellach. Felly, mae'r cwrs hwn yn addas at ddibenion DPP a datblygu'r gweithlu.
Cwrs Sylfaen Methiant y Galon
- Dyddiad cychwyn
- 01 Ebr, 2024
- Cymhwyster
- Phwynt datblygiad addysg parhaol
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- 15 awr o addysg - 2 fis i'w gwblhau
Diben y cwrs hwn yw cynnig gwybodaeth gyfoes a hawdd ei deall ynghylch materion allweddol yn ymwneud â methiant y galon. Byddwch yn cael arweiniad ynghylch cyfres o bynciau sy'n rhan o'r cwrs sylfaen ynghylch rheoli methiant y galon, yn cynnwys sut i sicrhau diagnosis manwl gywir, cynghorion ynghylch dulliau hunan-reoli, a defnyddio'r trefniadau rhoi meddyginiaethau mwyaf priodol.
Cyflwyniad i Reoli Ymarfer Deintyddol
- Dyddiad cychwyn
- 26 Maw, 2026
- Cymhwyster
- Phwynt datblygiad addysg parhaol
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- 1 Diwrnod, 25/02/2026
Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
- Cymhwyster
- Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl E - credydau lefel 2 agoredig
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- 1 mis
Mae cwrs eAMHFA Cymru yn dysgu oedolion sut i ddarparu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i ffrindiau, teuluoedd a chydweithwyr. Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yw’r cymorth a ddarperir i berson sy’n datblygu problem iechyd meddwl, sy’n profi gwaethygu problem iechyd meddwl bresennol, neu mewn argyfwng iechyd meddwl. Rhoddir y cymorth cyntaf hyd nes y derbynnir y cymorth proffesiynol priodol neu nes bydd yr argyfwng wedi'i ddatrys.
Cywiro Eich Sgiliau Gwerthuso
- Dyddiad cychwyn
- 17 Maw, 2026
- Cymhwyster
- Tystysgrif presenoldeb
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- Hanner diwrnod, 17/03/2026
Mae gwerthuso yn fuddsoddiad sylweddol o ran amser ac adnoddau i bractisau. Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn rhoi'r sgiliau a'r offer i reolwyr i ailfywiogi eu proses er mwyn sicrhau ei bod yn cyflawni amcanion pendant.
Bydd y gweithdy yn darparu canllawiau a gwaith papur i gefnogi creu gwerthusiadau, gan gynnwys gwerthuso tîm a defnyddio dull 360°.
Deall Asthma Pediatrig yn Fanylach
- Dyddiad cychwyn
- 01 Ebr, 2024
- Cymhwyster
- Phwynt datblygiad addysg parhaol
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- 30 awr o addysg - 4 mis i'w gwblhau
Asthma yw'r cyflwr meddygol hirdymor mwyaf cyffredin yn achos plant yn y DU, ac mae cyfraddau mynychder, derbyniadau brys a marwolaethau asthma yn ystod y plentyndod yn y wlad hon ymhlith yr uchaf yn Ewrop. Fe wnaeth yr Adolygiad Cenedlaethol o Farwolaethau yn sgil Asthma, a gyhoeddwyd yn 2014, ganfod ffactorau y gellir eu hosgoi yn achos y rhan fwyaf o farwolaethau yn sgil asthma ac fe wnaeth gynnig argymhellion pendant i wella safonau gofal a lleihau nifer y marwolaethau ond mae safonau gofal i gleifion sydd ag asthma yn y DU ac mewn llawer o wledydd ledled y byd yn dal yn wael. Yn ogystal â lefelau marwoldeb, mae deilliannau iechyd i blant a phobl ifanc sydd ag asthma yn amrywio'n sylweddol, ond maent yn waeth i'r rhai sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Bydd sylfeini iechyd pobl, a osodir cyn i blant gael eu geni, yn cael eu datblygu yn ystod plentyndod, ac yn ystod y cyfnod hwn, sefydlir tueddiadau iechyd a lles a wnaiff bara am oes. Mae asthma yn gyflwr resbiradol hirdymor cyffredin, felly mae dulliau rheoli effeithiol gan wasanaethau gofal iechyd a dulliau hunan-reoli effeithiol yn hollbwysig er mwyn cynorthwyo plant a phobl ifanc i gyflawni eu potensial llawn ym mhob agwedd ar eu bywyd. Caiff y cwrs ei lywio gan diwtor sy'n weithiwr iechyd proffesiynol sydd â phrofiad helaeth o weithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag asthma, a bydd yn camu tu hwnt i hanfodion deall asthma ac yn ymdrin â datblygu gwybodaeth a sgiliau i alluogi myfyrwyr i roi'r gwersi a ddysgir ganddynt ar waith er mwyn cyflawni gofal rhagorol yn eu practis clinigol.
Deall Asthma yn Fanylach
- Dyddiad cychwyn
- 01 Ebr, 2024
- Cymhwyster
- Phwynt datblygiad addysg parhaol
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- 45 awr o addysg - 4 mis i'w gwblhau
Mae asthma yn un o'r cyflyrau meddygol hirdymor mwyaf cyffredin ledled y byd ac yn un o brif achosion afiacheddau, gan achosi beichiau sylweddol ar gleifion, gwasanaethau iechyd a'r gymdeithas yn ehangach. Er y caiff ei ystyried yn aml yn gyflwr acíwt, gellir osgoi pyliau o asthma trwy gyfrwng gofal o'r ansawdd uchaf a chymorth da i gynnal dulliau hunan-reoli. Gellid osgoi 90% o'r derbyniadau i ysbytai yn sgil asthma acíwt, a cheir ffactorau y gellid bod wedi'u hosgoi yn achos mwyafrif y marwolaethau yn sgil asthma. Cydnabyddir yn gynyddol fod asthma yn "derm ambarél" ac mae'n afiechyd cymhleth. Mae dulliau rheoli wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion unigolion yn hanfodol er mwyn gwella deilliannau cleifion ac atal marwolaethau y gellir eu hosgoi. Mae datblygiadau diweddar o ran dirnadaeth gwyddonwyr a chlinigwyr o asthma wedi llywio trywyddion newydd o ran y meddylfryd presennol a dulliau presennol o ddarparu gofal ym mhob lleoliad gofal iechyd, ac archwilir y rhain yn ystod y cwrs. Caiff y cwrs ei lywio gan diwtor sy'n weithiwr iechyd proffesiynol sydd â phrofiad helaeth o weithio gyda chleifion sydd ag asthma, a bydd yn camu tu hwnt i hanfodion deall asthma ac yn ymdrin â datblygu gwybodaeth a sgiliau i alluogi myfyrwyr i roi'r gwersi a ddysgir ganddynt ar waith er mwyn cyflawni gofal rhagorol yn eu practis clinigol.
Deall Clefyd Coronaidd y Galon yn Fanylach
- Cymhwyster
- Phwynt datblygiad addysg parhaol
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- 45 awr o addysg - 4 mis i'w gwblhau
Deall COPD yn Fanylach
- Dyddiad cychwyn
- 01 Ebr, 2024
- Cymhwyster
- Phwynt datblygiad addysg parhaol
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- 45 awr o addysg - 4 mis i'w gwblhau
Nod y modiwl addysg broffesiynol hwn yw sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu dirnadaeth fanylach ynghylch maes COPD. Bydd myfyrwyr yn dod i ddeall sut y defnyddir dulliau canfod hanes a chynnal profion diagnostig pwysig megis sbirometreg i sicrhau diagnosis diogel a chywir. Byddant yn gallu dirnad a gweithredu egwyddorion rheoli COPD, gan integreiddio theori newid ymddygiad, dulliau addasu ffyrdd o fyw a therapi â chyffuriau priodol i leihau'r beichiau a'r risgiau sy'n gysylltiedig â COPD, a byddant yn dysgu sut i adolygu a gofalu am gleifion yn effeithiol, beth bynnag fod cam eu clefyd, yn cynnwys cleifion sydd â chlefyd acíwt sy'n gwaethygu. Ymdrinnir ag ymyriadau pwysig ym maes COPD, er enghraifft, adsefydlu'r ysgyfaint a rheoli methiant resbiradol, gan gyfeirio at dystiolaeth a chanllawiau cyfredol. Ymdrinnir hefyd ag effaith COVID-19 ar ofal i bobl sydd â COPD yn y modiwl hwn.
WELSH Pagination
- Tudalen 1 o 3
- Nesaf