Fedrwch chi ddisgrifio'r trefniadau goruchwylio a sut maen nhw wedi'ch helpu chi?
Ar hyn o bryd, gan nad ydym wedi ein cofrestru gyda'r GMC, rydym i fod i weithio o dan oruchwyliaeth clinigwr bob amser. Rwy'n meddwl bod maint yr oruchwyliaeth yn dibynnu ar brofiad y Cydymaith Meddygol. A dweud y gwir, rwy’n hoffi cael y meddyg yno i fynegi barn ac i wirio bod popeth yn iawn. Yn sicr, mae cael yr oruchwyliaeth honno'n golygu llawer i mi.
Mae Lakeside yn bractis bach, a phan mae'r meddyg yno, rwy'n gallu cael cyngor ymarferol ganddo drwy'r amser. Yn Healthy Prestatyn Iach, mae meddyg teulu yn goruchwylio pob sifft, felly mae hynny'n golygu bod un meddyg teulu yn goruchwylio pob clinigydd. Does dim angen meddyg sy'n goruchwylio arnom ni gydol yr amser, dim ond yn y sefyllfaoedd hynny lle mae'n rhaid i feddyg teulu gymeradwyo er enghraifft, pelydr-x a phresgripsiynau.Chawn ni ddim rhoi ein henwau ar bresgripsiwn na phethau fel nodyn salwch.Felly, pan fo cleifion yn gofyn am y rhain, byddaf yn eu gweld ac yna'n argraffu'r nodyn ar gyfer y meddyg.
Fel proffesiwn cymharol newydd, pa mor dda mae cleifion yn deall rôl Cydymaith Meddygol?
Mae llawer o’r cleifion iau yn deall beth mae Cydymaith Meddygol yn ei wneud ac rwy'n meddwl bod gan bobl ganol oed syniad go lew. Er hynny, rwyf wedi cael fy ngalw'n feddyg neu'n nyrs! Erbyn hyn, rwy'n meddwl bod y rhan fwyaf o'r cleifion yn deall beth rwy'n ei wneud a beth yw fy rôl. Efallai eu bod nhw’n drysu’r eirfa ychydig, ond maen nhw'n deall fy rôl i, ac mae gen i fy nghleifion rheolaidd yn Lakeside. Rwy'n gwybod nad yw cleifion Healthy Prestatyn Iach wedi cael llawer o brofiad o Gymdeithion Meddygol hyd yma, ac mae'n debyg y bydd yn rhaid i mi esbonio fy rôl eto.
Disgrifiwch wythnos arferol.
Rydw i newydd orffen fy interniaeth ac rwy'n cael fy nghyflogi gan ddau bractis, Lakeside am dridiau’r wythnos a Healthy Prestatyn Iach am ddeuddydd. Maen nhw'n bractisau cyferbyniol, mae gan Lakeside 2400 o gleifion a HPI 25,000 o gleifion. Dim ond yn ddiweddar rydw i wedi ymuno â HPI a fi yw'r unig Gydymaith Meddygol yno ar hyn o bryd.
Yn ystod yr interniaeth yn Lakeside, roedd apwyntiadau bore dydd Llun a Mawrth yn cael eu trefnu ar y boreau hynny. Ar y dechrau roeddwn i'n gweld dau neu dri chlaf oddi ar restr y meddygon, ac yn araf deg, fe ddechreuais weld mwy a mwy o gleifion. Erbyn hyn, rydw i'n gweld rhwng deg a phedwar ar ddeg o gleifion yn dibynnu ar ba mor brysur ydyn ni. Mae’r boreau'n eithaf amrywiol, gyda'r apwyntiadau arferol yn y prynhawniau. Fel arfer, clefydau cronig fel asthma, COPD, a diabetes sydd ar ddydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener.
Ar ddechrau'r interniaeth, roeddwn yn dewis yr hyn roeddwn i eisiau ei weld. Yn Lakeside ar hyn o bryd, os oes rhywun yn ffonio ac yn cael eu hystyried yn apwyntiad ar yr un dydd, byddant yn cael eu rhoi ar fy rhestr i. Os nad ydw i'n gyfforddus yn eu trin, mae'r meddyg yn yr ystafell nesaf i roi cyngor i mi. Ac mae’r un peth yn wir am gyda'r materion rwy’n eu gweld fel bob dydd. Rwy’n mynd i swyddfa'r meddyg i ofyn cwestiynau a chyflwyno’r claf fel bod y meddyg yn gwybod beth sy'n digwydd, ac i wneud yn siŵr ei fod yn hapus gyda nhw, ac yna bydd yn ei gymeradwyo. Ar ddyddiau prysur pan fydd gan y meddyg restr lawn, byddaf yn eistedd gyda'r meddyg am hanner awr ar ôl y clinig olaf a byddwn yn mynd trwy'r hyn nad oeddwn yn siŵr amdano a byddaf yn gofyn am ei lofnod os oes angen. Rydym yn gwneud y clinig pnawn ac yna'n gwneud yr un peth eto.
Beth sy'n arbennig am eich proffesiwn chi ym maes gofal sylfaenol?
O ran cyflyrau clinigol penodol, rwy'n meddwl ein bod yn dod â dyfnder cymharol eang o wybodaeth. Mae gennym ni ein matrics cymhwysedd Cydymaith Meddygol, sy'n diffinio'r holl gyflyrau yr ydym wedi'u hyfforddi i wybod sut i wneud diagnosis, eu trin, neu eu rheoli.
Dim ond ers dwy flynedd yr ydym wedi cael hyfforddiant clinigol. I mi, gyda'r interniaeth ar ben hynny, mae'n dair blynedd. Nid oes gennym lawer o brofiad uniongyrchol mewn lleoliad clinigol, ond mae gennym lawer o wybodaeth y tu ôl i ni i'n helpu i drin y pethau arferol a welwch o ddydd i ddydd, y mân anafiadau. Mae gennym ni'r dewis i arbenigo os ydym am ganolbwyntio ar un maes penodol a chlefyd fel diabetes neu resbiradol. Rwy'n meddwl ein bod ni'n ffres ac yn eithaf hyblyg!
Beth yw'r peth mwyaf i chi ei ddysgu ym maes gofal sylfaenol?
Rwy'n meddwl mai'r amrywiaeth. Pe bawn i’n mynd i swydd ym maes anhwylderau anadlol neu gardioleg yn syth ar ôl bod yn y brifysgol ac ar ôl cymhwyso, er bod y meysydd hyn yn feddygaeth gyffredinol, fyddwn i ddim yn teimlo’n gyfforddus yn canolbwyntio ar un peth yn unig. Rwyf wedi fy hyfforddi mewn llawer o bethau, ond petawn i'n canolbwyntio ar un arbenigedd yn unig, rwy'n teimlo y gallai fy sgiliau eraill wanhau. Dyna'r prif reswm i mi benderfynu ar feddygaeth teulu. Rydw i'n gweld llawer o bethau gwahanol o wahanol feysydd ac rwy'n dal i ddysgu cryn dipyn. Ar y llaw arall, mae yna anfanteision o fod yn gwneud meddygaeth deuluol. Dydw i ddim yn gwneud llawer o sgiliau clinigol fel gwaed, ECG, cathetrau, y pethau arferol y byddech chi'n eu gwneud yn yr ysbyty. Ond mae fy ngwybodaeth gyffredinol yn llawer gwell nag yr oedd o.
Y peth da arall am feddygaeth teulu yw nad oes rhaid i chi ddelio â phopeth ar yr un diwrnod, cyn belled â'ch bod chi'n gwneud yn siŵr nad oes dim byd amlwg o'i le. Weithiau rydych chi'n dod i adnabod y cleifion ychydig yn well hefyd.
Beth yw'r 3 sgil allweddol sy'n hanfodol i'ch rôl?
Deall claf mewn dull cyfannol. Os bydd rhywun yn dod i mewn a'u bod yn cwyno eu bod yn teimlo'n fyr o wynt, rwy'n meddwl bod gennym ni'r wybodaeth i adnabod y rhesymau lluosog. Fydden ni ddim o reidrwydd yn dilyn un trywydd yn unig a phenderfynu ar anhwylder anadlol yn syth a rhoi gwrthfiotigau a'u hanfon adref. Rydym yn meddwl am achosion eraill. Mae hyn yn rhoi'r darlun cyflawn i ni yn hytrach na’n bod yn trin yr un symptom sy’n amlwg ar y diwrnod hwnnw’n unig.
Y gallu i ddatblygu'r rôl. Rydym yn rôl newydd iawn, a gwn ein bod yn edrych i gael ein rheoleiddio gan y GMC. Unwaith y byddwn wedi cael ein cofrestru gan y GMC, gallwn ragnodi'n annibynnol a gobeithio y bydd gennym strwythur llawn yn ei le. Mae gwahaniaeth mawr ar hyn o bryd rhwng Cydymaith Meddygol sydd newydd gymhwyso a Chydymaith Meddygol profiadol. Yn y bôn, oherwydd bod gennym ni sbectrwm eang o wybodaeth, rydym yn ymennydd ychwanegol i rannu syniadau. Rydym yn darparu cymorth ychwanegol i'r tîm clinigol ond ar yr un pryd, rydym ni hefyd yn cael ein goruchwylio gan feddygon.
Dilyniant mewn gofal. Mae llawer o'r cleifion sy'n dod i'r practis yn fy adnabod wrth fy enw erbyn hyn ac maen nhw'n gwybod pa rôl rydyn ni, Gymdeithion Meddygol, yn ei gwneud. Mae'n beth da i gleifion wybod bod rhywun yn gwybod eu stori pan fyddant yn dod i mewn yn hytrach na’u bod yn gorfod gweld clinigydd neu locwm gwahanol bob tro.
Beth yw manteision cael Cydymaith Meddygol ar gyfer gofal sylfaenol/practis/cleifion?
Yn bendant mewn practis llai, mae llawer o'r cleifion yn dod i fy ngweld drwy'r amser. Felly mae elfen o ddilyniant. Gallant ddod i’m gweld i ac nid oes rhaid iddynt ail-esbonio beth sy’n bod. Mae popeth sy'n dod ataf i hefyd yn mynd at y meddyg, felly er nad ydy cleifion o reidrwydd yn gweld meddyg, mae'r meddyg yn adnabod llawer o'r enwau. Mae'n gwybod llawer o hanes y cleifion hyn oherwydd fy mod i’n hidlo popeth ato.
Pa gynlluniau sydd gennych chi i ddatblygu'r rôl?
Pan oeddwn yn gwneud yr interniaeth, roeddwn yn hoff iawn o fy rhestr clefydau cronig gyda COPD ac asthma. Rwy'n meddwl mai fy nghynllun ar hyn o bryd yw gweld sut brofiad yw hi i weithio i bractis mwy o faint. Mae HPI yn wrthgyferbyniad llwyr i Lakeside. Rwyf am weld sut rwy’n dygymod mewn practis prysurach. Byddaf yn parhau i wneud apwyntiadau ar yr un diwrnod ac yna'n ceisio gweld COPD neu glinigau asthma.
Dydw i ddim o reidrwydd yn meddwl fy mod eisiau mynd i faes gofal eilaidd ar hyn o bryd. Dermatoleg oedd un o'm pynciau gwannaf, a nawr, yn ddyddiol mae yna ddermatoleg ar fy rhestr. Felly mae fy ngwybodaeth gyffredinol am friwiau a phethau felly wedi gwella’n sylweddol. Ond pe bawn i wedi mynd yn syth i weithio mewn ysbyty, byddwn wedi colli’r cyfle hwnnw.
Mae'n rhywbeth rydw i eisiau ei wneud yn y dyfodol, unwaith rydw i'n teimlo bod gen i sylfaen wybodaeth dda yn gefn i mi. Wedyn, fe allaf ganolbwyntio ar weithdrefnau technegol yn enwedig yn rhywle fel SDEC lle rydych chi'n cael nifer o gyfeiriadau gan feddygon teulu. Byddai cael rhywun yno sydd wedi cael profiad sylfaenol, sy'n gwybod beth y gall gofal sylfaenol ddelio ag ef, ac sy'n gwybod pryd y dylent gyfeirio am brawf, yn ddefnyddiol. Yn fy mhrofiad i, mae yna lawer o gyfeiriadau na ddylent eu gwneud i'r ysbyty, ac sy'n cael eu hanfon yn ôl o'r ysbyty lle y gellid delio â nhw wrth ryddhau ac yna gyda’r meddyg teulu.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sydd â diddordeb bod yn gydymaith meddygol?
Os yw'n rhywbeth yr hoffech chi'i wneud, ewch amdani, y rôl yw'r hyn rydych chi'n ei wneud ohoni!