Lleoliadau’r Academi Ddeintyddol

Academi Ddeintyddol Bangor 

Cyfeiriad: Tŷ Glyder, 337-339 Stryd Fawr, Bangor, LL57 1EP

Deiliaid y contract: Ravi Singh a Darren King

 Cyfleusterau: 

  • Practis Deintyddol Cyffredinol ar y llawr gwaelod: 8x meddygfa
  • Academi Ddeintyddol ar y llawr 1af: Theatr Ddarlithio (yn dal hyd at 60 o bobl), 3x meddygfa hyfforddi, 2x ystafell drafod
  • 2il lawr: Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol (6x meddygfa)

Mae academi Bangor yn cynnal sesiynau hyfforddi a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau amrywiol ar gyfer yr holl weithlu. Cofiwch edrych ar y calendr digwyddiadau ar gyfer y gweithgareddau sydd i ddod.

Mae practis Bangor yn bractis academi ddeintyddol blaenllaw yng Ngogledd Cymru, sy'n cynnwys holl ofynion diwygio contractau, gan fabwysiadu dull ataliol o ofalu am bawb. Bydd mwy o fynediad ar gael i'r cleifion hynny sydd â lefelau uwch o angen, a bydd yn darparu ystod lawn o ofal o ansawdd uchel, wedi'i seilio ar dystiolaeth i fodloni anghenion y boblogaeth. Mae'r practis yn cynnig gwasanaethau i'r boblogaeth y tu hwnt i oriau craidd traddodiadol er mwyn sicrhau bod yr holl gleifion hynny sy'n ceisio cael mynediad at wasanaethau deintyddol yn gallu gwneud hynny. Yr hyn sy’n allweddol i’r gwasanaeth yw'r gallu i arloesi.

Mae hyn yn cynnwys:

  • rhoi’r gorau i feddylfryd yr Uned o Weithgaredd Deintyddol
  • mabwysiadu gofal integredig dan arweiniad ACORN
  • defnyddio technoleg ddigidol lle bo hynny'n briodol er mwyn darparu gofal gwell
  • bydd yr Academi Ddeintyddol yn helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu newid arloesol yn y ddarpariaeth gofal.

I gael gwybod rhagor am Academi Bangor, ac os hoffech archebu’r cyfleusterau cliciwch yma

Academïau’r Dyfodol

Ein gweledigaeth yw y bydd nifer o safleoedd ffisegol ar draws rhanbarth Gogledd Cymru, lle bydd yr academi ddeintyddol yn gweithredu ohonynt.

Mae’r cynlluniau i ehangu ein hacademïau eisoes ar waith. Felly, byddwch yn barod!

Fetching form...