Deintyddol

Lle bynnag yr ydych chi ar eich llwybr gyrfa deintyddol a pha bynnag lwybr yr ydych chi’n ei ddilyn, mae gennym ni gyfleoedd dysgu a datblygu yn ogystal â rhwydwaith cymorth ar gael yng Ngogledd Cymru i hyrwyddo eich gyrfa ymhellach a chyrraedd eich llawn botensial.

Mae’r academi yn darparu amryw o gyrsiau a hyfforddiant sgiliau gwahanol – gweler ein calendr am ddyddiadau sydd ar y gweill (CLICIWCH i weld y calendr).

Rydym yn chwilio am fewnbwn gan y gymdeithas ddeintyddol i’n hysbysu o ba sgiliau a hyfforddiant sydd o ddiddordeb, fel bod yr hyn sydd gan yr academi i’w gynnig yn aros yn berthnasol i’r gweithle.

Os oes rhywbeth y mae gennych chi ddiddordeb ynddo ac nid oes gennym ni’r cwrs sgiliau neu’r hyfforddiant perthnasol i gefnogi, cysylltwch â ni. Rydym eisiau eich cefnogi. 

E-bost: BCU.NorthWalesDentalAcademy@wales.nhs.uk

Fetching form...