Mae’r academi ddeintyddol yn cynnig dull arloesol newydd sy’n cyfuno hyfforddiant israddedig, sylfaenol, deityddol craidd, cymunedol, sylfaenol a hyfforddiant deintyddol arbenigol; gan gynnig llwybrau gofal, hyfforddiant a datblygiad i ymarferwyr sydd eisoes yn bodoli yn ogystal â’r tîm deintyddol ehangach, er mwyn eu galluogi i ddatblygu eu sgiliau heb orfod gadael yr ardal.
Rydym eisiau ysgogi newid arloesol wrth ddarparu gofal, gan gysylltu cyfleoedd addysgol gyda darpariaeth gwasanaeth a mabwysiadu dulliau gweithio’r tîm cyfan drwy:
- Wella sgiliau cofrestryddion deintyddol mewn gofal sylfaenol, cymunedol ac eilaidd gan ddefnyddio sgiliau’r holl randdeiliaid sydd ar gael.
- Datblygu cyfleoedd i Ddeintyddion gyda Gwell Sgiliau
- Darparu cyfleoedd ar gyfer llwybrau a chontractau cyfeirio Sylfaen II.
- Rheadru addysg a dysgu drwy hyfforddiant rhwng cymheiriaid.
- Cynyddu’r potensial ar gyfer datblygu cyfleoedd ymchwil ar gyfer holl dîm deintyddol y GIG
- Mae’r hyfforddiant sy’n cael ei gynnig o fewn yr academi ddeintyddol wedi’i gysylltu â meysydd nodedig o angen, yn y presennol a’r dyfodol, ac yn cysylltu â dadansoddiad o’r gweithlu yn ogystal â data cyfeirio. Mae hyn yn ein galluogi i ddatblygu a defnyddio ymarferwyr medrus yn yr ardal a’u cynorthwyo i ddod yn achrededig a chomisiynu gwasanaethau o fewn gofal sylfaenol a gofal cymunedol.
Amcanion yr academi ddeintyddol yw:
- Cynorthwyo gyda recriwtio a chadw gweithwyr proffesiynol deintyddol ar draws Gogledd Cymru
- Darparu datrysiad ystâd a rheoli ar gyfer hyfforddiant, defnyddio sgiliau a rhannu gwybodaeth ar gyfer gweithwyr proffesiynol a staff deintyddol sydd eisoes yn bodoli yn ogystal â rhai newydd yng Ngogledd Cymru
- Darparu rhwydwaith o glinigwyr a darparu cymorth i gyflawni’r strategaeth gwasanaeth o hunangymorth ac atal ar gyfer cleifion ym Mangor a'r ardaloedd cyfagos yng Ngogledd Cymru
- Datblygu a llunio strategaeth hunangymorth ac atal y dyfodol, a fydd yn dylanwadu ar gyfeiriad Gogledd Cymru gyfan