Gwasanaeth Deintyddol Gogledd Cymru
Mae Gwasanaeth Deintyddol Gogledd Cymru yn cael ei reoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae’n gweithio’n agos ag Arweinwyr Clinigol, Cynghorwyr Practis Deintyddol, Rhwydweithiau Clinigol a Rheoli (MCNs), Pwyllgor Deintyddol Lleol (LDC) ac Ymgynghorwyr mewn Iechyd Deintyddol Cyhoeddus. Mae’n cael ei arwain yn strategol gan Grŵp Strategaeth Iechyd y Geg Gogledd Cymru. Gyda’i gilydd, maent yn gyfrifol am sicrhau'r modelau darparu gwasanaeth a’r llwybrau cleifion cysylltiedig gorau posibl, wedi’i gefnogi gan gyngor arbenigol a/neu fynediad at ofal, sy'n bodoli anghenion y boblogaeth leol wrth gyflawni'r safonau gofal a ddisgwylir yn genedlaethol.
Mae Gwasanaeth Deintyddol Gogledd Cymru yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau deintyddol Gofal Sylfaenol y GIG i boblogaeth Gogledd Cymru. Y gwasanaethau sy’n cael eu comisiynu a’u cyflwyno drwy Wasanaeth Deintyddol Gogledd Cymru yw:
- Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol (GDS) a Gwasanaethau Deintyddol Personol (PDS)
- Gwasanaethau Deintyddol Brys
- Hybu Iechyd y Geg a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru
- Gwasanaethau haen ganolradd
- Gwasanaethau deintyddol arbenigol sy’n cynnwys:
- Deintyddiaeth carchar
- Gwasanaethau deintyddol ar gyfer pobl na fyddent fel arall yn ceisio neu'n derbyn gofal deintyddol, megis pobl gydag anableddau dysgu, pobl hŷn sy’n gaeth i’r cartref, pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl neu broblemau corfforol neu gyflyrau eraill sy’n anablu, sy’n eu hatal rhag ymweld â deintydd yn y Stryd Fawr
- Gwasanaethau cartref
- Orthodonteg
- Tawelu ymwybodol a thriniaeth ddeintyddol o dan anesthetig cyffredinol
- Llawfeddygaeth ar y geg
Mae'r gwasanaeth hefyd yn darparu addysg ar gyfer grwpiau o gleifion penodedig trwy ddarparu gwasanaethau a rhaglenni arbenigol:
- Cynllun Gwên(Rhaglen yn canolbwyntio ar blant sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig)
- Gwên am Byth (Pobl hŷn sy’n byw mewn Cartrefi Gofal)
- Seren o Wên (Rhaglen Anableddau Dysgu Plant)
- Gwên Wen (Rhaglen Anableddau Dysgu Oedolion)
- Gofal y Geg ar gyfer Oedolion yn yr ysbyty (MAH)
Mae comisiynu gwasanaethau yn cael eu harwain yn rhannol gan yr Asesiad o Anghenion Iechyd y Geg Ardal Leol a gynhyrchir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Canllawiau a Fframweithiau Gweithredu a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru a chylchlythyrau a llythyrau’r Prif Swyddog Deintyddol, caiff rheoliadau contract y Gwasanaeth Deintyddol Cyffredinol (GDS) a Chylchlythyrau Llywodraeth Cymru ar gyfer rôl a chylch gwaith y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol eu diffinio gan gylchlythyr Llywodraeth Cymru.