Ein partneriaid

Rydym yn gweithio ochr yn ochr â rhwydwaith o bartneriaid ymroddedig: y Bwrdd Iechyd, Llywodraeth Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), Cyfadran Cymru Gyfan ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol (AWFDCP), Prifysgol Bangor, Ysgol Ddeintyddol Prifysgol Caerdydd, a darparwyr ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiect Academi Ddeintyddol Gogledd Cymru gan ei fod wedi'i wreiddio yn amcanion polisi Llywodraeth Cymru: Iechyd y Geg ac ymatebiad y Gwasanaethau Deintyddol – Cymru Iachach a Gofal Iechyd Darbodus.

Mae nifer o egwyddorion cyffredinol, sef:

  • Gwella iechyd y boblogaeth, iechyd y geg a lles drwy ganolbwyntio mwy ar atal.
  • Gwella mynediad, profiad ac ansawdd y gofal deintyddol ar gyfer unigolion a theuluoedd.
  • Cyfoethogi lles, gallu ac ymgysylltiad y gweithlu deintyddol; a
  • Cynyddu'r gwerth a gyflawnir o ariannu gwasanaethau a rhaglenni deintyddol drwy wella, arloesi, defnyddio arferion gorau, a dileu gwastraff.
  • Mae cleifion yn cael eu grymuso i ddiogelu a gwella eu hiechyd eu hunain
  • Mae iechyd y geg a gwasanaethau deintyddol yn gosod ataliad wrth wraidd eu gwaith.

Mae uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Academi Ddeintyddol Gogledd Cymru yn cynnwys:

  • Arferion Diwygio Contract Blaengar yn y Gogledd
  • Cynyddu mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG yng Ngogledd Cymru
  • Darparu gwasanaethau i fodloni’r angen
  • Cyfleoedd addysgol
  • Cysylltu gyda Chyfadran Cymru Gyfan ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol
  • Deintyddion gyda diddordebau arbennig/Deintyddion sydd ȃ Sgiliau Uwch
  • Cyfleoedd ymchwil
  • Ar y cyfan, mae'n ymwneud â bodloni heriau iechyd y boblogaeth yn y dyfodol

Mae cyflwyno’r rhaglen diwygio’r contract deintyddol gan Lywodraeth Cymru wedi arwain at newid enfawr ar draws practisau GDS Gogledd Cymru ar gyfer y claf ac i’r ymarferwyr gofal deintyddol. Bydd yn newid sut bydd timau deintyddol yn darparu ac yn derbyn cydnabyddiaeth ariannol am ddarparu gofal deintyddol. Bydd yn cynnwys cymhellion i gynyddu ataliad a defnyddio sgiliau ataliol y tîm deintyddol cyfan i fodloni anghenion y cleifion. Mae angen mesurau cadarn ar waith a bydd y canlyniadau’n cael eu defnyddio i amlygu’r heriau clinigol y mae’r timau deintyddol yn eu profi a'r effaith y mae’r gwasanaethau deintyddol yn eu cael wrth sicrhau bod atal sy'n seiliedig ar dystiolaeth ('yr hyn rydym yn gwybod sy'n gweithio') yn cael ei gyflawni.

Bydd practis Academi Ddeintyddol Bangor, yng Ngogledd Cymru yn fainc arbrofi ar gyfer datblygu contractau ymhellach a bydd yn gyfle i lunio dyfodol o ran diwygio contractau. Bydd yn canolbwyntio ar atal a hunanofal, gan rymuso’r cleifion eu hunain i gymryd perchnogaeth am iechyd y geg, ar y cyd â’r deintydd. Bydd yn annog datblygiad gofal iechyd darbodus gan ddefnyddio'r gweithiwr proffesiynol sydd wedi'i hyfforddi'n fwyaf addas i ddarparu'r gofal mwyaf priodol, gan wella taith y claf wrth hyrwyddo dogfen Llywodraeth Cymru 'Cymru Iachach'. Am ragor o wybodaeth am ‘Ddiwygio Contract’, ewch i Hafan | LLYW. CYMRU 

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Yn eistedd ochr yn ochr â’r Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau, y nhw yw'r unig Awdurdod Iechyd Arbennig o fewn GIG Cymru. Mae ganddynt rôl flaenllaw o ran addysg, hyfforddiant, datblygu a llunio’r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru, gan gefnogi gofal o ansawdd uchel i bobl Cymru.

Wedi’i sefydlu ar 1 Hydref 2018, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn dod ȃ thri sefydliad allweddol at ei gilydd ar gyfer iechyd: Deoniaeth Cymru; Gwasanaethau Gweithlu, Addysg a Datblygu (WEDS); a Chanolfan Addysg Fferyllol Cymru i Raddedigion (WCPPE).

Mae Adran Ôl-raddedigion Deintyddol Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn cefnogi addysg a hyfforddiant ôl-raddedig ar gyfer y gweithlu deintyddol cyfan (Deintyddion a Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol) yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol, hyfforddiant Deintyddol Craidd a hyfforddiant Deintyddol Arbenigol i Ddeintyddion a Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar gyfer Gweithwyr Gofal Deintyddol (DCP). Mae'r gweithgareddau hyn yn seiliedig ar ymchwil addysgol priodol a sicrwydd ansawdd i sicrhau eu bod o safon uchel i fodloni anghenion gweithwyr deintyddol proffesiynol i gefnogi eu gofal i'w cleifion.

Pam fod y prosiect hwn mor bwysig i AaGIC? Maent yn mynd i’r afael ȃ dau fater o bwys:

  • Recriwtio a chadw deintyddion a gweithwyr gofal deintyddol yng Ngogledd Cymru. Mae tystiolaeth yn dangos bod y rhan fwyaf o raddedigion newydd eisiau hyfforddiant clinigol er mwyn gwella eu sgiliau ar gyfer y dyfodol. Mae angen i ni fanteisio ar yr adnodd gwerthfawr hwn a datblygu llwybrau addysgol sy'n addas i'n poblogaeth leol. Mae'r academi mewn sefyllfa dda i wneud hyn. Bydd anogaeth trwy hyfforddiant yn dod ag ymgeiswyr i Ogledd Cymru, ac o ganlyniad, bydd yr unigolion dan hyfforddiant yn datblygu i fod yn ymarferwyr, gan aros yng Ngogledd Cymru, wedi ymrwymo at wella iechyd y boblogaeth. Mae dau Gymrawd Deintyddol Clinigol diweddar a ddatblygwyd yng Ngogledd Cymru, wedi annog graddedigion o Gymru i aros a hyfforddi ymhellach yng Nghymru. Mae hyn wedi annog unigolion i wella eu sgiliau, hyrwyddo hunan-les a hirhoedledd y gweithwyr proffesiynol sy'n aros yng Ngogledd Cymru.
  • Yr angen i wella sgiliau ein hymarferwyr lleol mewn Gofal Sylfaenol; Ein rhinwedd gorau, ond nad ydynt ar hyn o bryd yn cael ei ddefnyddio’n llawn. Mae llawer o ymarferwyr yn teimlo eu bod yn aros yn eu hunfan ac yn gaeth wrth feddwl am y syniad o ddefnyddio'r academi ddeintyddol i annog datblygiad a gwella sgiliau’r grŵp hwn am y ddegawd nesaf. Yn ogystal, defnyddio cymysgedd o sgiliau’n llawn, gan annog yr holl dîm deintyddol i weithio i'w lefel uchaf nid i’r gwrthwyneb. Dylai gofal deintyddol gael ei ddarparu ar bwynt cyswllt gan y gweithiwr proffesiynol hyfforddedig mwyaf addas. Mae angen i ni gynorthwyo gyda'n hased o weithwyr gofal deintyddol proffesiynol yng Ngogledd Cymru i ddatblygu gofal iechyd darbodus eto yn yr academi ddeintyddol.

Hafan - AcGIC (gig.cymru)  

Cyfadran Cymru Gyfan ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol, Prifysgol Bangor

Ariennir y Gyfadran gan Lywodraeth Cymru i ddarparu addysg, hyfforddiant a chymorth i weithwyr gofal deintyddol (DPC) ar draws Cymru. Mae'n ceisio darparu llwyfan i gyfoethogi'r amgylchedd hyfforddi a gallu, lles ac ymgysylltiad gweithlu'r DCP ledled Cymru. Mae'r Gyfadran yn darparu cefnogaeth ar gyfer unigolion DCP er mwyn iddynt ymgysylltu ag arferion dysgu gydol oes a myfyriol sy'n hyrwyddo safonau uchel mewn ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Fe'i cynhelir gan Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor ac mae'n tynnu ar y profiad sydd gan yr Ysgol wrth hyfforddi nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol eraill ym maes iechyd; gan gynyddu'r cyfleoedd rhyngbroffesiynol ar gyfer hyfforddiant DCP yng Nghymru. Sefydlwyd y Gyfadran mewn ymateb i amcanion polisi a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru.

Bydd yr esgaladur sgiliau cyntaf ( ‘o fewn y rôl’) yn darparu’r potensial ar gyfer pob math o weithwyr DCP sy’n gweithio mewn amgylchedd practis i ennill hyfforddiant a phrofiad pellach:

  • Arweinyddiaeth
  • Ymchwil (gan gysylltu gyda’r Gymuned Ysgolorion a’r Llwybrau Academaidd Clinigol)
  • Gwella Ansawdd
  • Arbenigedd cyd-destun (e.e. iechyd deintyddol y cyhoedd, gofal sylfaenol ac iechyd gwledig)

Wrth i’r Gyfadran ddod yn fwy sefydledig, bydd yn parhau i wneud cais yn y broses gomisiynu gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar gyfer hyfforddiant Therapydd Deintyddol ar ôl bod yn llwyddiannus gyda'r cais Hylendid Deintyddol diweddar. Bydd hyn yn hyrwyddo’r nod tymor canolig i gynnig ail esgaladur sgiliau 'traws-rôl', a fydd yn galluogi’r gweithwyr DCP ar wahanol lefelau o hyfforddiant i symud ymlaen o Nyrs Ddeintyddol (L3 a L4) i Hylenydd Deintyddol (L5) i Therapydd Deintyddol (L6) gyda chwricwlwm troellog.

Bydd hyn yn galluogi’r gweithwyr DCP i gamu i fyny ac i lawr o’r esgaladur i fodloni eu hanghenion addysgol unigol eu hunain. Bydd cynnal y 'Gyfadran' yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd yn gwella natur ryngbroffesiynol gyfannol ein cyfleoedd hyfforddi ar gyfer gweithwyr DCP a thynnu ar y dreftadaeth gyfoethog sydd gan yr Ysgol wrth hyfforddi Nyrsys a Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Perthynol eraill.

https://awfdcp.ac.uk/

Fetching form...