Rhaglen Sylfaen Nyrsys Practis Cyffredinol

Mae's rhaglen Sylfaen Nyrsys Practis Cyffredinol yw rhaglen Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) a lansiwyd yn Hydref 2022. Dechreuodd y garfan gyntaf o nyrsys ym mis Ionawr 2023.

Mae dau daliad y flwyddyn (Ionawr a Gorffennaf).

Mae'r rhaglen yn rhoi cwricwlwm safonedig gyda chyfuniad o ddysgu cenedlaethol a lleol ochr yn ochr â dysgu seiliedig ar waith a datblygu sgiliau.

Manteision y rhaglen hon ar gyfer nyrsys yw:

  • Contract gwaith tra o dan hyfforddiant ffurfiol dros gyfnod o 9 i 12 mis
  • Pecyn addysg wedi ei ariannu’n llawn sy’n gyfredol, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cyd-fynd â Fframwaith y Nyrsio Practis Cyffredinol (GPN)
  • Amser wedi ei warchod ar gyfer datblygu sgiliau a dysgu
  • Mynediad at oruchwyliwr addysgol
  • Datblygu gyrfa â ffocws yn arwain at arfer clinigol mwy gwerth chweil a chyfleoedd gyrfaol newydd
  • Rhwydwaith cyfoedion o nyrsys eraill a chyfleoedd rhwydweithio

Manteision y rhaglen hon ar gyfer Practisau Meddyg Teulu yw:

  • Proses garlam i sefydlu nyrsys newydd i Bractis Cyffredinol
  • Cyflenwad o nyrsys yn cael eu hyfforddi’n lleol
  • Cyfraddau cadw gwell o fewn lleoliadau gofal sylfaenol
  • Addysg a hyfforddiant wedi ei ariannu’n llawn
  • Datblygiad rôl goruchwyliwr practis GPN o fewn y practis

Mwy o wybodaeth ar wefan  Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) -  GPN Programme - HEIW (nhs.wales)

Fetching form...