GP+

Mae GP+ yn rhaglen hyfforddiant lle gall Meddygon Teulu wneud cais i ddatblygu eu gwybodaeth o fewn diddordeb arbenigol tra’n cynnal sgiliau practis cyffredinol.

Mae’r rhaglen GP+ angen ymroddiad lleiafswm o 12 mis, yn ddelfrydol ar sail llawn amser ond gyda’r gofyniad lleiaf o 6 sesiwn yr wythnos (rhwng clinigol a hyfforddi).

I Feddyg Teulu llawn amser, oddeutu 5 yr wythnos i’w treulio yn y Practis. Caiff hyn ei gynllunio gyda’r Practis ar ddechrau’r lleoliad i sicrhau bod modd cwrdd ag anghenion y Practis ac elfen arall y rôl.

Dyrennir y 4 sesiwn yn weddill i’r Diddordeb Arbenigol ac unrhyw hyfforddiant/cyrsiau cysylltiedig. Mae’r sesiynau hyn wedi eu gwarchod i ymgymryd â lleoliadau arsylwi clinigol, sesiynau addysg a addysgir a sesiynau clinigol.

Cytunir ar gyllideb astudiaeth ar gychwyn y rhaglen i gyflawni’r canlyniadau y cytunwyd arnynt i gefnogi datblygiad y diddordeb arbenigol.

Bydd Mentor Meddyg Teulu yn cael ei nodi ar gyfer y Meddyg Teulu yn ymgymryd â’r rhaglen.

Beth all Meddyg Teulu ei ddisgwyl:

  • Amgylchedd Dysgu cefnogol
  • Rhaglen Ymsefydlu
  • Mewngofnodi o’r Practis ar gyfer systemau TGCh a mynediad at fewnrwyd leol ar gyfer astudiaeth breifat a chyfeirio
  • Ymroddiad gan y tîm practis cyfan i gynorthwyo’r rhaglen GP+
  • Ymroddiad gan yr Academi Gofal Sylfaenol a Chymunedol i adnabod Mentor Meddyg Teulu
  • Ymroddiad gan yr Ardaloedd i ariannu addysg/hyfforddiant diddordeb arbenigol y cytunwyd arno
Pwy all wneud cais?

Rydym yn croesawu ceisiadau gan Feddygon Teulu ar unrhyw gam.

Pa hyfforddiant fyddwch chi’n ei dderbyn?

Bydd pecynnau hyfforddiant yn amrywio yn dibynnu ar y rhaglen, ond byddai’r rhan fwyaf yn cynnwys cefnogaeth gan gymheiriaid, mentoriaeth, hyfforddi gyda’r Bwrdd Iechyd a hyfforddiant allanol.

Bydd eich Mentor Meddyg Teulu yn darparu ystod eang o gyngor yn nhermau datblygiad proffesiynol, cymorth i ymgartrefu yn y lleoliad Meddyg Teulu ac ardal o ddiddordeb arbennig ac i weithio a byw yng Ngogledd Cymru.

Sut allwch chi wneud cais?

Mae ceisiadau ar gyfer y rolau hyn fel arfer yn agor unwaith y flwyddyn.

Gallwch fynegi eich diddordeb yn un o’r rolau hyn ar unrhyw adeg, drwy gysylltu â ni.

Beth yw'r cyflog?

£9,000 fesul sesiwn

A fydd fy indemniad yn cael ei gynnwys?

Bydd y rhaglen GP+ yn cael ei hariannu am y gwaith cysylltiedig â chyflwyno contract y GMS mewn cynnal Practis Meddyg Teulu ac yn narpariaeth y gwaith cysylltiedig â’r maes Diddordeb Arbennig os yw’n gyfrifoldeb ar y Bwrdd Iechyd i ddarparu’r gwasanaeth hwn.

Fetching form...