Rhaglen Interniaeth Gofal Sylfaenol
Mae’r Academi yn cynnig Interniaeth Gofal Sylfaenol 12 mis wedi ei gyllido ar gyfer Cymdeithion Meddygol newydd gymhwyso (PAs) yn cymhwyso o Brifysgolion Cymru ar sail flynyddol.
- Rhaid i’r PAs fod wedi cwblhau eu MSc mewn Astudiaethau Cyswllt, wedi pasio’r ddwy elfen o Arholiad Cenedlaethol Cymdeithion Meddygol ac wedi cofrestru ar Gofrestr Cymdeithion Meddygol Gwirfoddol a Reolir.
- Cyflogir PAs gan y Bwrdd Iechyd ar Delerau ac Amodau’r Agenda gyfer Newid ar gyflog Band 7.
- Mae ceisiadau yn agor yn y Gwanwyn cyn i Gymdeithion Meddygol sefyll eu harholiadau cenedlaethol i’w croesawu ym mis Tachwedd.
Beth yw Interniaeth Gofal Sylfaenol?
Mae’r Interniaeth Gofal Sylfaenol yn lleoliad 12 mis gyda Phractis Meddyg Teulu sy’n gallu cynorthwyo Cydymaith Meddygol (PA) newydd gymhwyso i gymryd eu cam cyntaf yn gweithio fel PA cymwys.
Mae’r Academi yn cydnabod y gall fod yn eithaf brawychus fel PA newydd gymhwyso, felly rydym wedi cynllunio’r rhaglen interniaeth hon i osod sylfaen ar gyfer eu harfer personol a phroffesiynol ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Mae gan y rhaglen dair elfen nodedig:
- Ymarfer Clinigol: bydd 80% o’u hamser yn y Practis, wedi ei dreulio yn gweld cleifion, un ai yn y practis, ar ymweliadau cartref a/neu dros y ffôn ac ymgynghoriad fideo.
- Datblygiad Proffesiynol Parhaus: mae 10% o’u hamser wedi ei warchod ar gyfer anghenion datblygiad proffesiynol parhaus – gall hyn gynnwys mynychu sesiynau addysg Cymdeithion Meddygol gyda PAs eraill newydd gymhwyso a phrofiadol, gall fod yn ddysgu hunangyfeiriedig a gall gynnwys treulio amser gydag Ymarferwyr yn y Practis, Gwasanaethau Cymunedol neu PAs eraill ar draws y Bwrdd Iechyd.
- Archwiliad /Ymchwil/Gwella Ansawdd: Rydym yn annog yn weithredol ein PAs i ymgymryd ag archwiliad neu gymryd rhan mewn ymchwil glinigol os yw’r practis yn Llwybr Ymchwil neu i adnabod gwasanaeth neu wella ansawdd a gweithio ag o.
Mae carfanau blaenorol wedi cyflwyno canfyddiadau eu harchwiliadau i Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (RCGP) ac wedi gallu mynychu’r gynhadledd er mwyn cyflwyno eu Posteri.
Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Mae’r Bwrdd Iechyd yn cynnig sesiynau addysg PA penodol yn fisol, mae’r rhain fel arfer wyneb yn wyneb yn un o’n tri Ysbyty Dosbarth Cyffredinol ac mae croeso i’r holl PAs yn gweithio yn y Bwrdd Iechyd a’u Partneriaid yn cynnwys lleoliadau Gofal Sylfaenol fynychu.
Mae’r rhaglen addysg yn amrywiol ac rydym yn edrych tuag at y PAs i rannu eu syniadau gyda ni ar bynciau a meysydd o ddiddordeb. Rydym hefyd yn disgwyl i’n PAs ymuno i baratoi a chyflwyno achosion ar sail reolaidd.