Rhaglen Ymgyfarwyddo Rheoli Practis

Lansiwyd y rhaglen ymgyfarwyddo Rheoli Practis yn 2024 ac mae’n ddigwyddiad ar-lein sy’n gwahodd rheolwyr practis a chydweithwyr gofal sylfaenol i glywed gan amrywiaeth o siaradwyr ac adrannau sy’n rhoi gwybodaeth ddefnyddiol ar ofal sylfaenol yng ngogledd Cymru.

Bydd y sesiwn ymgyfarwyddo nesaf ym mis Ionawr 2025, dyddiad i’w gyhoeddi’n fuan!

Beth i’w ddisgwyl

Bydd y diwrnod yn canolbwyntio ar gyflwyniadau ar draws nifer o wasanaethau ac adrannau i fynd i’r afael ag amrywiaeth o bynciau allweddol a fydd yn eich helpu chi yn eich rôl fel rheolwr practis.

Mae siaradwyr mewn sesiynau blaenorol wedi rhoi sylw i:

  • Contractio
  • Iechyd a Diogelwch
  • Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP), Data’r claf
  • Cyllid
  • Clystyrau a mentrau cydweithredol
  • Iechyd Galwedigaethol
  • Llywodraethu
  • Academi Gofal Sylfaenol a Chymunedol
  • Rheolwr Practis
  • fferyllfa
  • Nyrsys Datblygu Ymarfer
  • Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Adborth yn dilyn sesiynau yn y gorffennol 

Roedd pawb o'r farn bod y sesiwn yn dda neu'n wych gyda dwy ran o dair yn ei sgorio'n wych

Roedd mor braf cael cynnwys perthnasol! Roedd popeth yn berthnasol. Diolch
...Roedd yn ddefnyddiol rhoi enwau i wynebau a dysgu am y gwahanol feysydd o fewn PBC a'u hierarchaethau. Llawer o gysylltiadau defnyddiol a throsolwg da

Fetching form...