Podlediadau

Mae’r Academi yn gartref i nifer o gasgliadau podlediadau, sy’n canolbwyntio ar bopeth sy’n gysylltiedig â Gofal Sylfaenol a Chymunedol.

Casgliad: Trafodaeth efo.......

Hwb Hyfforddi’r Academi

Cafodd Nia Boughton, Nyrs Ymgynghorol mewn Gofal Sylfaenol, sgwrs gyda Hwb Hyfforddi’r Academi sydd wedi’i leoli ym Mhrestatyn Iach. Siaradodd gyda Dr Jess Deacon (Arweinydd Addysg) a 3 Uwch Ymarferydd sydd wedi cael hyfforddiant yn yr Hwb Hyfforddi am brofiadau a pham y mae'r model hyfforddi hwn wedi gweithio mor dda i'r Ymarferwyr hyn, a chyflwyno cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Prosiectau Pennu Cyfeiriad Uwch Ymarferwyr Parafeddygol

Mae’r gyfres hon yn canolbwyntio ar y bartneriaeth waith rhwng Tîm y Prosiect, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST), Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), Ardaloedd Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Clystyrau) a’r Uwch Ymarferwyr Parafeddygol (AAPs) i ddatblygu model lleol a’r hyn yr ydym wedi’i ddysgu yn ystod y 18 mis diwethaf.

  • Cyflwyniad i Brosiectau Pennu Cyfeiriad Llywodraeth Cymru
  • Ei wneud yn realiti
  • Pwysigrwydd Addysg a Goruchwyliaeth
  • Rhannu’r dysgu
  • Felly, beth sydd nesaf?

Podlediadau newydd ar y ffordd yn fuan, gwrandewch ar ein podlediadau cyfredol yma

Fetching form...