Mae diddordeb gennyf mewn dod yn weithiwr deintyddol proffesiynol, rwyf eisiau gwybod mwy

Deintydd

Israddedigion

Llawfeddygaeth Ddeintyddol – Fel myfyriwr deintyddiaeth, byddwch yn dysgu sut i wneud diagnosis a chynnal a gwella iechyd y geg. Byddwch hefyd yn edrych ar ddeintyddiaeth gosmetig, gan helpu pobl i deimlo’n fwy hyderus a deniadol drwy lawdriniaeth esthetig ar eu ceg, eu deintgig a’u dannedd.

Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio cyfuniad o feddygaeth, gwyddoniaeth, sgiliau pobl a llawer o ddisgyblaethau eraill, dros gyfnod o bum mlynedd cyn i chi gymhwyso fel deintydd.

Lefel A - Mae’r gofynion mynediad yn amrywio o BBB i AAA, gyda phrifysgolion a cholegau yn aml yn gofyn am AAA. Mae cymwysterau mewn cemeg a/neu fioleg yn ofynion gan y rhan fwyaf o brifysgolion, gyda ffiseg a mathemateg yn cael eu hystyried yn bynciau perthnasol sy’n cyd-fynd.

Mae nifer o brifysgolion y DU yn cynnig deintyddiaeth ar lefel israddedig gan gynnwys:

Cliciwch ar y dolenni i chwilio am ragor o wybodaeth am y cyrsiau, gofynion mynediad a sut i wneud cais.

 

Ôl-raddedigion

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn cefnogi addysg a hyfforddiant ôl-raddedig i’r gweithlu deintyddol cyfan (deintyddion a gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol) yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol, Hyfforddiant Deintyddol Craidd ac Arbenigol a Datblygiad Proffesiynol parhaus i ddeintyddion. Am ragor o wybodaeth am gyfleoedd i ôl-raddedigion ewch i

Hafan – AaGIC (gig.cymru)

Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol

Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol yw cam cyntaf yr addysg ôl-radd barhaus ar ôl graddio. Caiff ei gydnabod fel rhan o lwybr gyrfa pob rhan o’r proffesiwn deintyddol. Fel arfer byddwch yn ymgymryd â’r hyfforddiant hwn yn ystod y ddwy neu dair blynedd gyntaf ar ôl graddio.

Bydd graddedigion yn ymuno fel gweithwyr cyflogedig â phractisau sydd wedi’u cymeradwyo. Bydd gan y practisau hyn Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol sydd wedi’u penodi’n Oruchwylwyr Addysgol.

Hyfforddiant Deintyddol Craidd

Mae Hyfforddiant Deintyddol Craidd yn gyfle i ehangu gwybodaeth a phrofiad yn y proffesiwn deintyddol. Mae’n llwybr gyrfa cydnabyddedig ar ôl cwblhau’r Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol. Mae cyrsiau Hyfforddiant Deintyddol Craidd sydd rhwng 1 a 3 blynedd ar gael.

Hyfforddiant Arbenigol

Mae Hyfforddiant Deintyddol Arbenigol wedi datblygu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae adran ddeintyddol ôl-raddedig AaGIC yn cefnogi amrywiaeth o raglenni hyfforddiant a gymeradwyir gan AaGIC; gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Deintyddol, Llawfeddygaeth y Geg, Orthodonteg, Deintyddiaeth Bediatrig, Deintyddiaeth Adferol a Deintyddiaeth Gofal Arbennig.

Therapydd Deintyddol

Mae therapyddion deintyddol yn chwarae rhan gynyddol bwysig wrth ddarparu gwasanaethau deintyddol gofal sylfaenol. Mae therapydd deintyddol yn gwneud peth o’r gwaith mwy arferol a wneir gan ddeintyddion.

Er mwyn ymarfer fel therapydd deintyddol, mae’n rhaid bod gennych chi ddiploma neu radd mewn therapi deintyddol a’ch bod wedi cofrestru â’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol.

Bydd angen pump TGAU gradd 4-7 neu A-C  a  dwy Lefel A neu gymhwyster cydnabyddedig mewn deintyddiaeth. Efallai y bydd gofyn i chi gael rhywfaint o brofiad nyrsio deintyddol cyn dechrau’r cwrs.

Mae llawer o brifysgolion yn cynnig cyrsiau i israddedigion gan gynnwys:

Defnyddiwch y dolenni i chwilio am ragor o wybodaeth am y cyrsiau, gofynion mynediad a sut i wneud cais.

Hylennydd Deintyddol

Mae hylenyddion deintyddol yn weithwyr deintyddol proffesiynol cofrestredig sy’n helpu cleifion i gynnal iechyd y geg drwy atal a thrin clefyd peridontal a hyrwyddo arferion da. Mae hylenyddion deintyddol yn gallu ymgymryd ag amrywiaeth o waith o fewn eu cwmpas ymarfer, gan gynnwys digennu a pholish, cynllunio darpariaeth gofal, hyrwyddo iechyd y geg a defnyddio deunydd selio fflworid a selio tyllau.

Gall hylenyddion deintyddol barhau i ddatblygu eu hymarfer ar ôl iddynt gofrestru. Mae’n bosibl arbenigo mewn trin grwpiau penodol o gleifion fel pobl hŷn neu rai ag anghenion ychwanegol. Mae llawer o hylenyddion deintyddol yn mynd ymlaen i fod yn therapyddion deintyddol neu’n troi at fyd addysg neu feysydd eraill perthnasol fel orthodonteg. Mae’r cyfleoedd a’r dewis yn eang ac yn cynnig gyrfa sy’n rhoi boddhad â llawer o opsiynau ar gyfer datblygu â chymorth.

Er mwyn ymarfer fel hylennydd deintyddol, rhaid dilyn cwrs sydd wedi’i gymeradwyo gan Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC) ac yna, cofrestru gyda’r GDC. Mae nifer o brifysgolion yn cynnig cyrsiau i israddedigion, gan gynnwys:

Defnyddiwch y dolenni i chwilio am ragor o wybodaeth am y cyrsiau, gofynion mynediad a sut i wneud cais.

Technegydd Deintyddol

Mae technegwyr deintyddol (neu dechnolegwyr deintyddol fel y cyfeirir atynt yn aml) yn gwneud dannedd gosod, coronau, pontydd a bresys deintyddol sy’n gwella ymddangosiad, lleferydd a gallu claf i gnoi.

Er mwyn gweithio fel technegydd/technolegydd deintyddol, mae’n rhaid eich bod wedi cofrestru â’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC).

Mae cyrsiau a gydnabyddir gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol yn arwain at gymwysterau megis:

  • Diploma cenedlaethol BTEC mewn Technoleg Ddeintyddol. Fel arfer, bydd angen o leiaf bedwar TGAU gradd 4-7 neu A-C,
  • Gradd sylfaen. Fel arfer bydd angen i chi fod wedi eich cyflogi mewn rôl technegydd deintyddol dan hyfforddiant  neu brentisiaeth
  • Gradd BSc (Anrh) mewn technoleg ddeintyddol. Fel arfer, bydd gofyn am gymwysterau Lefel A neu gymwysterau cyfwerth.

Gallwch astudio Diploma Cenedlaethol BTEC neu gwrs gradd sylfaen yn llawn amser neu drwy gael swydd fel technegydd deintyddol dan hyfforddiant ac astudio’n rhan amser. Fel arfer, mae gradd BSc (Anrh) yn golygu astudio’n llawn amser mewn prifysgol/ysgol ddeintyddol.

Chwiliwch ar Google am opsiynau cyrsiau prifysgol.

Nyrs Ddeintyddol dan Hyfforddiant

Mae nyrs ddeintyddol yn helpu’r deintydd gyda phob agwedd ar ofal deintyddol y claf. Efallai y byddwch chi’n helpu gyda’r gwaith ar y dderbynfa neu’n helpu aelodau o’r tîm deintyddol – deintyddion, technegwyr/ technolegwyr deintyddol clinigol, hylenyddion a therapyddion i drin cleifion o bob oed.

Fel arfer, gallwch weithio fel nyrs ddeintyddol dan hyfforddiant heb gymwysterau academaidd ond er mwyn datblygu i fod yn nyrs ddeintyddol gymwysedig, bydd rhaid i chi astudio cwrs nyrsio deintyddol wedi’i gymeradwyo gan Y Cynfor Deintyddol Cyffredinol, unai’n llawn amser neu’n rhan amser.

Mae nifer o gyrsiau hyfforddi ar gyfer nyrsys deintyddol ar gael. Dyma rai opsiynau yng Ngogledd Cymru:

Rhaglen Hyfforddiant Nyrsio Deintyddol  Diploma NEBDN Lefel 3

Pwrpas y cymhwyster yw rhoi sylfeini nyrsio deintyddol i Nyrsys Deintyddol dan Hyfforddiant  er mwyn iddynt ddangos y safonau uchaf o ran gwybodaeth, sgiliau a phriodoleddau proffesiynol. Mae’r sgiliau y byddwch yn eu hennill wrth gwblhau’r cymhwyster yn cael eu disgrifio o dan y penawdau canlynol yn y cwricwlwm sy’n eang; Clinigol, Cyfathrebu, Proffesiynoldeb, a Rheoli ac Arweinyddiaeth.

Cyflwynir y cwrs gan Wasanaeth Deintyddol Cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae Diploma Cenedlaethol NEBDN mewn Nysrio Deintyddol yn gymhwyster nyrsio deintyddol a gydnabyddir gan Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC).  Mae’n rhaid i ddarpar ddysgwyr fod yn cael eu cyflogi fel Nyrsys Deintyddol dan Hyfforddiant sy’n gweithio o leiaf dri diwrnod wrth ochr y gadair.

Gofynion Mynediad

  • Yn cael eu cyflogi fel Nyrs Ddeintyddol ar hyn o bryd
  • Yn gweithio o leiaf dri diwrnod wrth ochr y gadair
  • Meddu at dystysgrif TGAU Saesneg Iaith  neu gyfwerth
  • Cefnogaeth y cyflogwr
  • Bod â mentor(iaid) sydd wedi cymhwyso ac wedi’u cofrestru â’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol
  • Wedi eu hymrwymo i fynychu hyfforddiant wythnosol
  • Mynediad at gyfrifiadur â mynediad i’r rhyngrwyd

Am ragor o wybodaeth ac am becyn ymgeisio , cysylltwch â: Tracey Taylor, Tiwtor Arweiniol. E-bost: Tracey.Taylor6@wales.nhs.uk

Diploma Lefel 3 Nyrsio Deintyddol (Cymru) – Coleg Llandrillo

Mae’r Diploma ar gael drwy ddilyn trywydd prentisiaeth sy’n rhaglen a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru. Mae’r rhaglen hon oddeutu 12-24 mis o hyd. Mae’n rhaid i ddarpar ddysgwyr fod yn cael eu cyflogi fel nyrsys deintyddol dan hyfforddiant er mwyn ennill y cymhwyster hwn.

Mae’r cymhwyster yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:

  • Anatomeg a Ffisioleg Ddeintyddol a’r Geg
  • Clefydau Deintyddol a’r Geg ac Ymarfer Ataliol
  • Triniaeth Ddeintyddol
  • Gweithdrefnau gofal cleifion

Mae’r cymhwyter hwn yn addas i:

  • Nyrsys deintyddol heb gymhwyso ond sydd eisoes yn gweithio fel nyrsys deintyddol
  • Nyrsys deintyddol cymwys sydd heb eu cofrestru sy’n dymuno cael cymhwyster deintyddol a chofrestru gyda’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol

Mae’n rhaid i chi fod yn 16+ ac yn cael eich cyflogi mewn diwydiant perthnasol.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Grŵp Llandrillo Menai – Gwella Dyfodol Pobl (gllm.ac.uk)

Tystysgrif Addysg Uwch (Tyst AU) Lefel 4 Nyrsio Deintyddol Uwch – Cyfadran Cymru Gyfan ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol, Prifysgol Bangor

Datblygwyd y rhaglen ar gyfer Nyrsys Deintyddol dan Hyfforddiant sy’n bwriadu cofrestru â’r GDC a gweithio’r cwmpas Ymarfer llawn gan ddatblygu ymhellach ym maes deintyddiaeth; mae bellach ar gael drwy’r fframwaith prentisiaeth Lefel 4 newydd.

Mae’r rhaglen yn un rhan amser sy’n rhedeg ochr yn ochr â rôl Nyrs Ddeintyddol dan Hyfforddiant mewn practis. Dyfernir y cymhwyster gan Brifysgol Bangor a darperir yr hyfforddiant yn lleol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cyfadran Cymru Gyfan ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol | Hafan (awfdcp.ac.uk)

Rheolwr Practis Deintyddol

Mae Rheolwr Practis Deintyddol yn rheoli pob agwedd anghlinigol ar feddygfa ddeintyddol, yn arwain tîm y practis ac yn sicrhau gofal cleifion rhagorol ac effeithlonrwydd o ran costau.

Mae nifer o gymwysterau ar gael yn ein colegau lleol, Grŵp Llandrillo Menai, i Reolwyr Practis sy’n gweithio ym maes Gofal Sylfaenol. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Grŵp Llandrillo Menai – Gwella Dyfodol Pobl (gllm.ac.uk)

Mae cyrsau hyfforddi ar lefelau 2-4 ar gael. Anelir y cymwysterau hyn at unrhyw un sy’n gweithio mewn rôl arweiniol a/neu rôl rheoli yn y sector cyhoeddus neu breifat.

Lefel 2: Arwain tîm (seiliedig ar waith)

Mae Diploma Arwain Tîm Lefel 2 Pearson (Cymhwyster Cyfunol) yn ddelfrydol ar gyfer unigolyn sydd eisioes â rhywfaint o gyfrifoldebau arwain tîm. Bydd y cymhwyster cyfunol hwn sy’n seiliedig ar wybodaeth a chymhwysedd yn eich helpu i ddatblygu ac i ddangos eich cymhwysedd fel Arweinydd Tîm/Arweinydd Adran. Byddwch yn datblygu sgiliau a gwybodaeth er mwyn datblygu cymwyseddau craidd y rolau uchod , gan gynnwys arddulliau arwain tîm, dynameg timau, datrys problemau, cynnig cefnogaeth, rheoli gwaith timau a thechnegau cyfathrebu.

Mae’r cwrs yn un rhan amser dros 15 mis.

Lefel 3: Cysylltwch â Grŵp Llandrillo Menai am ragor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael

Lefel 4: Cysylltwch â Grŵp Llandrillo Menai am ragor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael

Derbynnydd Deintyddol a Gweinyddu

Mae derbynnydd deintyddol yn cefnogi cleifion ac yn cynorthwyo pan fo angen. Mae hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod gwaith y swyddfa ddeintyddol yn rhedeg yn llyfn er mwyn i’r gweithwyr deintyddol proffesiynol ganolbwyntio ar ofalu am gleifion a thriniaeth ddeintyddol.

Mae cyfrifoldebau derbynnydd deintyddol yn cynnwys:

  • Cyfarch cleifion wrth iddynt gyrraedd, ac ateb y ffôn
  • Trefnu apwyntiadau i gleifion
  • Siartiau deintyddol a chynllunio triniaethau
  • Cwblhau cofnodion bilio deintyddol
  • Trin canlyniadau profion gan gynnwys pelydr-x

Mae nifer o gymwysterau ar gael yn ein colegau lleol, Grŵp Llandrillo Menai, i weithwyr ar y Dderbynfa a gweinyddwyr sy’n gweithio ym maes Gofal Sylfaenol.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Grŵp Llandrillo Menai – Gwella Dyfodol Pobl (gllm.ac.uk)

Tystysgrif Gweinyddu Gofal Sylfaenol a’r Dderbynfa Lefel 2 (seiliedig ar waith)

Bydd angen i chi fod yn 16 mlwydd oed neu’n hŷn ac yn cael eich cyflogi mewn rôl weinyddol ym maes Gofal Sylfaenol.

Astudio’n rhan amser dros 12 mis.

Prif bwrpas y cymhwyster yw cadarnhau eich bod yn gymwys yn eich rôl mewn lleoliad Gofal Sylfaenol. Cynlluniwyd y cymhwyster i gyflwyno’r sgiliau cychwynnol er mwyn bod yn  llwyddiannus mewn swydd dderbynfa neu weinyddol rheng flaen. Mae’n addas ar gyfer y rhai sydd newydd ddechrau gweithio mewn rôl ar dderbynfa/rôl weinyddol ym maes gofal Sylfaenol y GIG neu’r rheini sydd ar hyn o bryd yn gweithio mewn rôl Gofal Sylfaenol sy’n ymwneud â chleifion, yn y swyddfa gefn neu’n ymdrin â galwadau ffôn. Mae’r cymhwyster hwn a’r unedau sydd ynddo yn addas ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio mewn lleoliad gofal iechyd.

Lefel 2 – Gweithio yn y GIG fel Gweinyddwr Meddygol

Nod y cwrs hwn yw galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o sefydliadau gwasanaeth iechyd Cymru a’i gyrff statudol, a sut mae deddfwriaeth yn berthnasol i’r gwasanaeth iechyd. Bydd dysgwyr yn datblygu gwybodaeth ynglŷn â hawliau cleifion, sut y cânt eu hamddiffyn a sut mae rôl y gweinyddwr meddygol yn hanfodol wrth eu hamddiffyn.

Bydd cwblhau’r cwrs hwn yn rhoi sgiliau pwysig i chi ar gyfer gyrfa mewn gwaith gweinyddol meddygol. Gall eich helpu i lwyddo mewn rôl weinyddol mewn unrhyw fath o sefydliad GIG, gan gynnwys: Ysgrifennydd, Derbynnydd, Gweinyddwr, Clerc Cofnodion Meddygol a Chlerc Ward.

Astudio’n rhan amser - 3 awr yr wythnos am 20 wythnos.

Lefel 2 - Terminoleg Feddygol ar gyfer Gweinyddwyr

Nod y cwrs yw rhoi sylfaen i ddysgwyr nad oes ganddynt wybodaeth flaenorol am y pwnc, i lunio, adnabod a defnyddio terminoleg feddygol yn gywir, a rhoi dealltwriaeth am y corff dynol.

Gall cymhwyster Terminoleg Feddygol Lefel 2 eich helpu i lwyddo mewn rôl weinyddol o unrhyw fath mewn sefydliad GIG, gan gynnwys: Ysgrifennydd, Derbynnydd, Gweinyddwr, Clerc Cofnodion Meddygol a Chlerc Ward.

Astudio’n rhan amser - 3 awr yr wythnos, 20 wythnos

Lefel 2 - Prentisiaeth Gweinyddu Busnes (seiliedig ar waith) 

Mae angen ystod eang o sgiliau ar weinyddwyr er mwyn gweithio’n effeithlon ac i helpu cynyddu cynhyrchedd busnes.

Mae Prentisiaethau Gweinyddu Busnes wedi bod ymhlith y deg fframwaith prentisiaeth gorau am nifer o flynyddoedd, gydag oddeutu 2,800 o brentisiaid yn dechrau ar y brentisiaeth hon yng Nghymru bob blwyddyn.

Mae’r brentisiaeth yn defnyddio cymwysterau hyblyg, cyfoes a arweinir gan gyflogwyr er mwyn bodloni anghenion sgiliau newidiol y cyflogwyr. Mae’n cynnwys sgiliau meddalach fel cyfathrebu, gweithio mewn tîm, sgiliau rhyngbersonol a’r gallu i fyfyrio ar ddysgu.Astudio’n rhan amser – 15 mis.

Lefel 3 – Gweinyddu Busnes (seiliedig ar waith)

Ydych chi’n gweithio mewn amgylchedd Gweinyddu Busnes ac yn ymdrechu i ddarparu’r cymorth gweinyddol gorau posibl, hyd yn oed mewn amgylchiadau anodd a chymhleth? Ydych chi bob amser yn ceisio gwella eich perfformiad er mwyn galluogi’r sefydliad i gadw’i fantais gystadleuol?

Os mai ‘ydw’ yw’r ateb i’r cwestiynau hyn, dyma’r cwrs i chi!

Dylech eisoes fod yn cael eich cyflogi mewn rôl weinyddol.

Astudio’n rhan amser, 12 - 18 mis

Lefel 3: Gwybodeg Iechyd (seiliedig ar waith)

Mae’r cymwysterau hyn sydd ar gael ar Lefel 3, wedi’u hanelu at unrhyw un sy’n gweithio mewn rôl glercyddol neu weinyddol mewn lleoliad gofal iechyd. Gall hyn gynnwys unigolion sy’n gyfrifol am ddefnyddio systemau clinigol neu ymdrin â data sensitif. Gellir dewis o blith ystod eang o unedau, o weinyddu busnes, gofal iechyd a chymdeithasol, a meysydd TG. Mae’n rhaid i chi fod yn 19 mlwydd oed neu’n hŷn ac yn cael eich cyflogi mewn rôl weinyddol ym maes Gwybodeg Iechyd.

Astudio’n rhan amser, 15 mis

Lefel 4 gweinyddu Busnes (seiliedig ar waith) -Gweinyddu Busnes- Diploma Lefel 4 | Grŵp Llandrillo Menai (gllm.ac.uk)

Ydych chi’n gweithio mewn amgylchedd Gweinyddu Busnes ac yn ymdrechu i ddarparu’r cymorth gweinyddol gorau posibl, hyd yn oed mewn amgylchiadau anodd a chymhleth? Ydych chi bob amser yn ceisio gwella eich perfformiad er mwyn galluogi’r sefydliad i gadw’i fantais gystadleuol?

Os mai ‘ydw’ yw’r ateb i’r cwestiynau hyn, dyma’r cwrs i chi!

Astudio’n rhan amser, 12 - 18 mis

Gweithiwr Cymorth Clinig Deintyddol

Mae gweithwyr cymorth deintyddol yn rhan o’r tîm iechyd deintyddol.

Os ydych chi’n weithiwr cymorth deintyddol, byddwch yn:

  • cyfarch cleifion a rhoi sicrwydd i bobl nerfus wrth iddynt wneud apwyntiad
  • rhoi cyngor sylfaenol am ofal deintyddol
  • cadw cofnodion
  • cymysgu’r deunyddiau ar gyfer llenwi dannedd
  • helpu gyda phelydr-x
  • sterileiddio offer a chyfarpar
  • trosglwyddo offer i’r deintydd
  • helpu cleifion i olchi’r geg

Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol ar gyfer gweithwyr cymorth deintyddol. Mae cyflogwyr fel arfer yn disgwyl sgiliau llythrennedd, rhifedd a TG da. Mae’n bosibl y byddant yn gofyn am gymwysterau TGAU neu gyfwerth. Yn aml, bydd cyflogwyr yn gofyn am brofiad gwaith perthnasol. Hyd yn oed os nad ydy hyn yn cael ei nodi, byddai’n fanteisiol eich bod wedi gweithio ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol, naill ai wedi eich cyflogi neu’n wirfoddol.

 

Tregyrfa

Mae GIG Cymru wedi lansio adnodd arloesol, cwbl ddwyieithog i arddangos yr ystod eang o gyfleodd gyrfa sydd ar gael ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Pentref digidol yw Tregyrfa sy’n caniatáu i ddysgwyr lywio eu ffordd drwy gyfres o adeiladau i gael gwybodaeth am wahanol rolau iechyd a gofal cymdeithasol. Gall dysgwyr gael mynediad at adnoddau, gwylio fideos a darllen blogiau i gael cipolwg ar sut beth yw hi mewn gwirionedd i weithio yn y sectorau hyn. Mae awgrymiadau ar gyfer cyfweliadau ar gael hefyd sy’n helpu i baratoi dysgwyr ar gyfer y byd gwaith. Mae’r adnodd rhad ac am ddim wedi’i greu ar gyfer dysgwyr a phob ifanc 14-16 mlwydd oed. Ewch i wefan Trehttps://careersville.heiw.wales/gyrfa  i weld pa lwybr gyrfa yr hoffech chi ei archwilio!

Fetching form...