Clefyd cronig - Datblygedig (Asthma, COPD, Methiant y Galon, Diabetes)
- Dyddiad cychwyn
- 01 Ion, 2024
- End Date
- 31 Maw, 2025
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- I’w gwblhau o fewn cyfnod o 4 mis
Asthma Datblygedig: Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o sut i reoli diabetes yn ddiagnostig a chyfannol. Mae’n trafod mathau gwahanol o ddiabetes, mae’n egluro’r ymyriadau ffarmacolegol a’r ffordd o fyw a all optimeiddio canlyniadau gan gyfeirio at reolaeth glycemig, pwysedd gwaed a rheoli lipid ac mae'n cynnwys astudiaethau achos i ddod â'r theori yn fyw. Mae adrannau’n cynnwys iechyd meddwl ac achosion arbennig megis anableddau dysgu a’r bregus a’r henoed. Mae’r cwrs yn cyfrif fel 45 awr o CPD ar gyfer eich ail-ddilysu.
Methiant y Galon Datblygedig: Nod y cwrs hwn y darparu gwybodaeth hygyrch, gyfoes, ar y materion allweddol gyda methiant y galon. Byddwch yn cael eich arwain drwy gyfres o bynciau sy'n ffurfio hanfodion rheoli methiant y galon, ac yn ystyried agweddau ar ddarparu gofal mewn amrywiaeth o leoliadau iechyd. Mae'r pynciau yn cyd-fynd â chymwyseddau nyrsys methiant y galon a gyhoeddwyd yn ddiweddar (Ionawr 2021) gan amrywio o sut i ymchwilio i fethiant y galon a amheuir i rôl y tîm amlddisgyblaethol wrth hwyluso hunanofal.
COPD Datblygedig: Nod y modiwl addysg broffesiynol hwn yw rhoi dealltwriaeth fanwl i fyfyrwyr o ehangder COPD. Bydd myfyrwyr yn cael dealltwriaeth i sut y mae cymryd hanes a phrofion diagnostig pwysig fel spirometreg yn cael eu defnyddio i sicrhau diagnosis diogel a chywir. Byddant yn gwerthfawrogi a chymhwyso egwyddorion rheoli COPD, integreiddio theori newid ymddygiad, addasiadau i ffordd o fyw a therapi cyffuriau priodol i leihau'r baich a'r risgiau sy'n gysylltiedig â COPD a dysgu sut i adolygu a gofalu am gleifion yn effeithiol yn ystod bob cam o'r clefyd, gan gynnwys rheoli gwaethygiad acíwt a gofal lliniarol. Mae ymyrraeth bwysig mewn COPD megis adsefydlu ysgyfeiniol, a rheoli methiant anadlol yn cael sylw gan gyfeirio at dystiolaeth ac arweiniad cyfredol. Mae effaith COVID-19 ar ofal COPD hefyd yn cael sylw yn y modiwl hwn.