Deall COPD yn Fanylach
Cyrsiau ar gael ar alw drwy gydol 2024/2025. Mae'r dyddiad cychwyn yn dechrau ar ôl cofrestru gyda Rotherham Respiratory. Os gwelwch yn dda adolygu hyd y cwrs ac amserlenni cwblhau.
- Dyddiad cychwyn
- 01 Ebr, 2024
- End Date
- 31 Maw, 2025
- Cymhwyster
- Phwynt datblygiad addysg parhaol
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- 45 awr o addysg - 4 mis i'w gwblhau
Nod y modiwl addysg broffesiynol hwn yw sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu dirnadaeth fanylach ynghylch maes COPD. Bydd myfyrwyr yn dod i ddeall sut y defnyddir dulliau canfod hanes a chynnal profion diagnostig pwysig megis sbirometreg i sicrhau diagnosis diogel a chywir. Byddant yn gallu dirnad a gweithredu egwyddorion rheoli COPD, gan integreiddio theori newid ymddygiad, dulliau addasu ffyrdd o fyw a therapi â chyffuriau priodol i leihau'r beichiau a'r risgiau sy'n gysylltiedig â COPD, a byddant yn dysgu sut i adolygu a gofalu am gleifion yn effeithiol, beth bynnag fod cam eu clefyd, yn cynnwys cleifion sydd â chlefyd acíwt sy'n gwaethygu. Ymdrinnir ag ymyriadau pwysig ym maes COPD, er enghraifft, adsefydlu'r ysgyfaint a rheoli methiant resbiradol, gan gyfeirio at dystiolaeth a chanllawiau cyfredol. Ymdrinnir hefyd ag effaith COVID-19 ar ofal i bobl sydd â COPD yn y modiwl hwn.
Cyflwynir gan Rotherham Respiratory