Diweddariad ynghylch COPD

Cyrsiau ar gael ar alw drwy gydol 2024/2025. Mae'r dyddiad cychwyn yn dechrau ar ôl cofrestru gyda Rotherham Respiratory.  Os gwelwch yn dda adolygu hyd y cwrs ac amserlenni cwblhau.

Dyddiad cychwyn
01 Ebr, 2024
End Date
31 Maw, 2025
Cymhwyster
Phwynt datblygiad addysg parhaol
Dull cyflwyno
Ar-lein
Hyd Y Cwrs
7.5 awr o addysg - 1 mis i'w gwblhau

Diben y modiwl addysg broffesiynol hwn yw cynnig diweddariad i fyfyrwyr ynghylch datblygiadau a chanllawiau cyfredol yn ymwneud â gofal am gleifion sydd â COPD. Bydd y cwrs yn cynnig trosolwg o ddatblygiadau cyfredol ym maes gofal i gleifion sydd â COPD.
Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ailystyried pa mor bwysig yw canfod hanes cleifion, y defnydd o brofion sbirometreg y sicrheir eu hansawdd a phrofion eraill sy'n galluogi llunio diagnosis diogel a manwl gywir. Byddant yn dysgu am ganllawiau diweddaredig ynghylch rheoli COPD, yn archwilio'r sylfaen o dystiolaeth ynghylch ymyriadau i newid ffyrdd o fyw a therapi sy'n defnyddio cyffuriau priodol i leddfu'r baich a'r risgiau sy'n gysylltiedig â COPD. Bydd deunyddiau'r cwrs yn annog y defnydd o adolygiad strwythuredig o COPD i ddarparu gofal effeithiol i gleifion beth bynnag fo cam eu cyflwr, yn cynnwys rheoli cyflyrau acíwt sy'n gwaethygu.
Mae’r cwrs wedi’i lunio gan glinigwyr profiadol sy'n gweithio yn y maes ar hyn o bryd ac sydd oll yn awyddus i wella bywydau pobl sydd â COPD. Mae'r deunyddiau dysgu yn amrywiol ac maent yn cynnwys gweithgareddau sy'n cael eu llywio gan diwtoriaid a cheir asesiadau ac adborth rheolaidd trwy gydol y modiwl. Mae'r cwrs wedi'i fapio yn unol â gofynion safonau a chodau proffesiynol sy'n cael eu cydnabod ar y lefel genedlaethol, ac ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd gan fyfyrwyr y wybodaeth a'r sgiliau sy'n ofynnol i ddarparu gofal sy'n seiliedig ar ganllawiau a datblygu eu harferion proffesiynol ymhellach. Felly, mae'r cwrs hwn yn addas at ddibenion DPP a datblygu'r gweithlu.

Cyflwynir gan Rotherham Respiratory

Fetching form...