Deall Methiant y Galon yn Fanylach

Cyrsiau ar gael ar alw drwy gydol 2024/2025. Mae'r dyddiad cychwyn yn dechrau ar ôl cofrestru gyda Rotherham Respiratory.  Os gwelwch yn dda adolygu hyd y cwrs ac amserlenni cwblhau.

Dyddiad cychwyn
01 Ebr, 2024
End Date
31 Maw, 2025
Cymhwyster
Phwynt datblygiad addysg parhaol
Dull cyflwyno
Ar-lein
Hyd Y Cwrs
45 awr o addysg - 4 mis i'w gwblhau

Diben y cwrs hwn yw cynnig gwybodaeth gyfoes a hawdd ei deall ynghylch materion allweddol yn ymwneud â methiant y galon. Byddwch yn cael arweiniad ynghylch cyfres o bynciau hanfodol yn ymwneud â rheoli methiant y galon, ac yn ystyried agweddau ar ddarparu gofal mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd. Mae'r pynciau yn cyd-fynd â'r cymwyseddau ym maes nyrsio cleifion â methiant y galon a gafodd eu cyhoeddi yn Ionawr 2021, yn cynnwys sut i ymchwilio i achosion honedig o fethiant y galon a rôl y tîm amlddisgyblaethol o ran hwyluso hunanofal. Ehangir fformat poblogaidd cyflwyniadau byr a gweithgareddau sy'n cael eu llywio gan diwtoriaid trwy gyflwyno cyfres o astudiaethau achos sy'n ymdrin â rhoi'r gwersi a ddysgir ar waith ac ystyried cydafiacheddau. Ategir eich profiad dysgu â chyfleoedd i asesu eich cynnydd gan ddefnyddio'r gweithgareddau 'gwirio gwybodaeth' ar ddiwedd pob adran. Mae hwn yn gwrs sydd wedi'i adolygu gan gymheiriad ac wedi'i ddatblygu gan glinigwr profiadol ym maes methiant y galon sydd wedi ymrwymo i wella gofal i gleifion trwy gyfrwng ymchwil ac addysg. Trwy gyfranogi yn y cwrs hwn, byddwch yn gwella eich gwybodaeth a'ch sgiliau ym maes rheoli methiant y galon ac yn cryfhau'r gofal seiliedig ar dystiolaeth yr ydych yn ei ddarparu i'r garfan hon o gleifion.

Cyflwynir gan Rotherham Respiratory

Fetching form...