Cymhwysterau Prentisiaethau
Mae prentisiaethau yn llwybr i ddysgu wrth weithio, ennill cymhwyster, sgiliau penodol i'r swydd i ddod yn aelod cymwys o'r gweithle.Bydd y cyrsiau hyn yn cefnogi'r dysgwr i ymgymryd â hyfforddiant naill ai mewn lleoliad clinigol neu weinyddol sydd fel arfer yn cymryd 12 - 15 mis.
Pa gyrsiau clinigol sydd ar gael?
- Sefydlu Nyrsio Clinigol: Lefel 2
- Gwythien-bwnc (Flebotomi): Lefel 2
- Cefnogaeth Gofal Iechyd Gofal Sylfaenol: Lefel 3, tystysgrif / diploma
- Tystysgrif mewn Ymarfer Gofal Iechyd: Lefel 4
- Llwybr Baglor Nyrsio (BN) rhan-amser i nyrsio
Pa gyrsiau anghlinigol sydd ar gael?
Agored
- Tystysgrif mewn Gwasanaethau Gweinyddol a Derbynfa Gofal Sylfaenol (PCAR): Lefel 2
Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli ym Maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Lefel 4
.
Tystysgrif neu Wobr ILM
- Arwain a Sgiliau Tîm: Lefel 2, Lefel 3, Lefel 4
- Egwyddorion Arwain a Rheoli: Lefel 4
- Hyfforddi a Mentora: Lefel 2, Lefel 3, Lefel 5
- Arwain a Rheoli: Lefel 4, Lefel 5
- Rheoli Gofal Iechyd: Lefel 3
- Cyfryngau Cymdeithasol: Lefel 3
- Marchnata Digidol: Lefel 2
- Sgiliau Digidol: Lefel 2, Lefel 3
- Rheoli Prosiect: Lefel 4
- Gweinyddu Busnes: Lefel 4
Beth yw Sgiliau Hanfodol?
Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr o Gymhwyso Rhif (Rhifedd), Cyfathrebu (Llythrennedd) a Llythrennedd Digidol.
Mae'r cymwysterau hyn yn galluogi dysgwyr i ddangos y gallant gymhwyso'r sgiliau hanfodol hyn i ystod o sefyllfaoedd wrth weithio, wrth ddysgu a thrwy gydol bywyd.
Mae'r cymwysterau Sgiliau Hanfodol yn elfen hanfodol o fewn yr holl Gymwysterau Prentisiaeth. Bydd y gofyniad hwn yn cael ei drafod gyda phob dysgwr unigol ar ddechrau'r broses ymgeisio. Mewn rhai achosion, yn dibynnu ar eich rôl, cymwysterau a phrofiad blaenorol, efallai y gellir dangos tystiolaeth o gyflawni'r rhain neu ddysgu cyfatebol.
How are the courses delivered?
Bydd pob rhaglen yn cael ei chyflwyno'n lleol drwy Goleg Llandrillo neu Goleg Cambria. Bydd y lleoliad yn cael ei egluro ar ôl mynychu'r sesiynau ymwybyddiaeth.
Sut ydw i'n gwneud cais?
Ar gyfer y rhan fwyaf o gymwysterau prentisiaeth glinigol ac anghlinigol, mae angen cwblhau ffurflen Mynegi Diddordeb. Mae'r rhaglenni hyn yn cychwyn drwy gydol y flwyddyn. Cysylltwch â BCU.Academy@wales.nhs.uk am ragor o wybodaeth neu ffurflen gais.
Ar gyfer cyrsiau'r ILM, mae angen mynychu'r sesiwn ymwybyddiaeth a chwblhau ffurflen gais. Mae'r cyrsiau hyn yn tueddu i ddechrau ym mis Mawrth a mis Medi bob blwyddyn. Cysylltwch â BCU.Academy@wales.nhs.uk am ragor o wybodaeth neu ffurflen gais.
Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth, byddwch wedi cyflawni'r canlynol:
- Prentisiaeth Diploma mewn pwnc dewisol h.y. Cymorth Gofal Iechyd Clinigol (Cymru) neu Ddiploma Gwasanaethau Gweinyddol a Derbynfa Gofal Sylfaenol
- Sgiliau Hanfodol - Cymhwyso Rhif (AON) Lefel 2*
- Sgiliau Hanfodol - Cyfathrebu Lefel 2 *
- Sgiliau Hanfodol – Llythrennedd Digidol Lefel L1
- Datblygu'r Gymraeg Prentis-iaith
