Dolenni Defnyddiol
Mae Llyfrgelloedd BIPBC yn falch o allu darparu mynediad at UpToDate i holl staff BIPBC fel rhan o’n hymdrechion parhaus i wella gofal cleifion.
Beth yw UpToDate
Mae UpToDate yn adnodd cymorth ar gyfer penderfyniadau clinigol sy'n seiliedig ar dystiolaeth sydd wedi’i greu gan feddygon. Bellach, mae ar gael i holl staff BIPBC.
Mae UpToDate yn cynnwys:
- Cynnwys meddygol sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n cael ei ymchwilio, ei greu a'i ddiweddaru'n barhaus gan dros 6,500 o feddygon blaenllaw
- Crynodebau ac argymhellion triniaeth ar gyfer dros 10,500 o bynciau mewn 25 arbenigedd
- “Diweddariadau ar Newid Ymarfer” gan dynnu sylw at ymchwil feirniadol sy'n newid sut rydych chi'n trin cleifion heddiw
- Mae “Beth sy’n Newydd” yn crynhoi’r canfyddiadau newydd pwysig gan arbenigeddau
- Dros 440,000 o ffynonellau, gyda dolenni PubMed a'r erthyglau testun llawn lle mae ein tanysgrifiadau'n caniatáu
- Cyfrifyddion Meddygol
- Gwybodaeth i gleifion sy’n mynd i’r afael ȃ dros 1,500 o bynciau
Sylwch: Dylid ond defnyddio UpToDate ar y cyd â’r BNF/BNFC a chanllawiau clinigol a fformiwlâu’r Bwrdd Iechyd
Mae'r Rhaglen Gyfoethogi Genedlaethol wedi'i hanelu at unigolion sydd eisiau ddatblygu a'u paratoi ar gyfer astudio. Mae'r Dysgu Agored( Open Learn), sydd gennym hefyd yn agored i unrhyw un ac mae'n addas i unrhyw un (gan gynnwys nyrsys cofrestredig) ac mae ganddynt filoedd o gyrsiau am ddim mewn llwythi o wahanol bynciau;