GP+

Yn 2023, lansiodd yr Academi raglen hyfforddi GP+ lle gallai 3 meddyg teulu wneud cais i ddatblygu eu gwybodaeth mewn diddordeb arbenigol a pharhau i ymarfer eu sgiliau practis cyffredinol.

Roedd angen ymrwymiad o 12 mis o leiaf, yn ddelfrydol yn llawn amser ond ag isafswm o 6 sesiwn yr wythnos (clinigol a hyfforddiant).

Ar gyfer meddyg teulu llawn amser, byddai o leiaf 5 sesiwn i’w dreulio yn y practis. Bydd hyn i’w drafod gyda’r practis ar ddechrau’r lleoliad i sicrhau bod anghenion y practis ac elfennau eraill y rôl yn cael eu bodloni.

Mae’r 4 sesiwn sy’n weddill yn cael eu neilltuo i’r diddordeb arbenigol ac unrhyw hyfforddiant/cyrsiau cysylltiedig.  Mae’r sesiynau hyn wedi’u diogelu i ymgymryd â lleoliadau arsylwi clinigol, sesiynau addysg a ddysgir a sesiynau clinigol.

Cytunir ar gyllideb astudio ar ddechrau’r rhaglen i gwrdd â’r canlyniadau y cytunwyd arnynt i gefnogi datblygiad y diddordeb arbenigol.

Mae rhagor o wybodaeth yma 

Fetching form...