Gofalu am yr Henoed

Bydd rhaglen Gofal ar gyfer yr Henoed GP+ yn cynnig cyfle i chi gydweithio â'r tîm adnoddau cymunedol (CRT) lleol. Mae'r CRT yn dîm o weithwyr sy'n gweithio mewn sawl proffesiwn iechyd a gofal cymdeithasol sy'n cynorthwyo cleifion i barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain. Mae’n wasanaeth dwys sy'n gallu cynnig mynediad cyflym i feddygon teulu, cleifion, a’u teuluoedd at brofion diagnostig, barn ymgynghorydd, gwasanaethau nyrsio arbenigol, a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol eraill. Mae’n cynnig opsiwn i ofalu am gleifion gartref, dan rai amgylchiadau, pan mai’r unig opsiwn yn flaenorol oedd eu derbyn i’r ysbyty.

Bydd y rhaglen hyfforddi hon hefyd yn cynnwys goruchwyliaeth gan dîm gofal eilaidd Gofal ar gyfer yr Henoed (COTE), gan ganiatáu i chi weithio gyda’r boblogaeth oedrannus leol, gan gyfrannu at waith gwerthfawr i osgoi derbyniadau lleol ac yn ymwneud ag eiddilwch.

Amcanion a Hyfforddiant

  • Cyfle i astudio am ddiploma ym maes Meddygaeth yr Henoed
  • Goruchwyliaeth gan Feddyg Ymgynghorol penodol sy'n arbenigo ym maes Gofal ar gyfer yr Henoed (COTE)
  • Darparu cymorth ymarfer cyffredinol i'r CRT neu wasanaethau yn y gymuned leol
  • Cyfle i feithrin cysylltiadau â gwasanaethau cymdeithasol yn lleol
  • Cyfle i feithrin cysylltiadau â gwasanaethau iechyd yn lleol

Cynnwys y Cwrs:

Sylwer, mae'r canlynol yn cynnig arweiniad ynghylch cynnwys cyffredinol rhaglen Gofal ar gyfer yr Henoed GP+ , a gallai hynny newid yn dibynnu ar y lleoliadau hyfforddi sydd ar gael a'r cynllun swydd cytunedig.

 

Chwarter: 1

  • Hyfforddiant Sefydlu/Croeso i'r Practis
  • Cyfarfod gyda thîm GP+  - trosolwg o'r rhaglen
  • Cwblhau cynllun swydd
  • Nodi'r anghenion dysgu a datblygu
  • Cwrdd â'r mentor
  • Cyfarfod cyntaf y grŵp cynorthwyo cymheiriaid
  • Cyfle i gychwyn astudio am ddiploma ym maes Meddygaeth yr Henoed
  • Cychwyn rôl ym maes COTE

Chwarter: 2

  • Cyfarfod y grŵp cynorthwyo cymheiriaid
  • Diploma mewn Meddygaeth yr Henoed
  • Sesiynau COTE

Chwarter: 3

  • Cyfarfod y grŵp cynorthwyo cymheiriaid
  • Diploma mewn Meddygaeth yr Henoed
  • Sesiynau COTE
  • Cyfarfod gyda rheolwyr y practis a thîm GP+ i gynllunio at orffen y cwrs hyfforddi

Chwarter: 4

  • Cyfarfod y grŵp cynorthwyo cymheiriaid
  • Diploma mewn Meddygaeth yr Henoed
  • Sesiynau COTE

 

Tua diwedd cyfnod eich rhaglen hyfforddi, bydd tîm GP+ yn cael cyfarfod gyda chi a thîm rheoli'r practis i gytuno beth fydd y camau nesaf a thrafod y cymorth a fydd yn ofynnol ar ôl i chi orffen cyfranogi yn y rhaglen.

Er y gallai gorffen cyfranogi yn y rhaglen fod yn wahanol yn achos pob meddyg teulu, mae eich rôl meddyg teulu cyflogedig wedi'i gwarchod a chaiff eich cyflog ei adolygu. Yn achos rôl Meddyg Teulu Gofal ar gyfer yr Henoed, rhagwelir y bydd eich amser yn dal i gael ei rannu rhwng eich rôl Gofal ar gyfer yr Henoed a'ch rôl Gofal Sylfaenol.

Fetching form...