Dermatoleg

Rhaglen Dermatoleg GP+ yw'r unig raglen 2 flynedd sydd ar gael. Byddwch yn cael eich cynorthwyo i astudio am ddiploma mewn Dermatoleg (PGDip) ym Mhrifysgol Caerdydd (Dysgu o Bell) tra byddwch yn gweithio, a byddwch yn cael eich goruchwylio a'ch mentora gan Feddyg Teulu yn y practis.

Byddwch yn cael cyfle i weld amrywiaeth o gyflyrau dermatolegol ym maes gofal sylfaenol tra byddwch yn astudio.

Amcanion a Hyfforddiant

  • Astudio am gymhwyster Diploma mewn Dermatoleg (PGDip) ym Mhrifysgol Caerdydd (Dysgu o Bell)
  • Darparu clinigau dermatoleg gofal sylfaenol yn y practis

Cynnwys y Cwrs

Sylwer, mae'r canlynol yn cynnig arweiniad ynghylch cynnwys cyffredinol Rhaglen Dermatoleg GP+, a gallai hynny newid yn dibynnu ar y lleoliadau hyfforddi sydd ar gael a'r cynllun swydd cytunedig.

Blwyddyn 1

Chwarter: 1

  • Hyfforddiant Sefydlu/Croeso i'r Practis
  • Cyfarfod gyda thîm GP+  - trosolwg o Raglen GP+
  • Cadarnhau cynllun swydd
  • Nodi'r anghenion dysgu a datblygu
  • Cwrdd â'r mentor
  • Cyfarfod cyntaf y grŵp cynorthwyo cymheiriaid
  • Cychwyn astudio am y Ddiploma mewn Dermatoleg (PG Dip)

Chwarter: 2

  • Cyfarfod y grŵp cynorthwyo cymheiriaid
  • Diploma mewn Dermatoleg (PG Dip)
  • Cychwyn cynnal clinigau dermatoleg yn y practis

Chwarter: 3

  • Cyfarfod y grŵp cynorthwyo cymheiriaid
  • Diploma mewn Dermatoleg (PG Dip)
  • Clinigau Dermatoleg

Chwarter: 4

  • Cyfarfod y grŵp cynorthwyo cymheiriaid
  • Diploma mewn Dermatoleg (PG Dip)
  • Clinigau dermatoleg

Bl2

Chwarter: 1

  • Cyfarfod y grŵp cynorthwyo cymheiriaid
  • Diploma mewn Dermatoleg (PG Dip)
  • Clinigau Dermatoleg

Chwarter: 2

  • Cyfarfod y grŵp cynorthwyo cymheiriaid
  • Diploma mewn Dermatoleg (PG Dip)
  • Clinigau dermatoleg

Chwarter: 3

  • Cyfarfod y grŵp cynorthwyo cymheiriaid
  • Diploma mewn Dermatoleg (PG Dip)
  • Clinigau Dermatoleg
  • Cyfarfod gyda rheolwyr y practis a thîm GP+ i gynllunio at orffen y cwrs hyfforddi

Chwarter: 4

  • Cyfarfod y grŵp cynorthwyo cymheiriaid
  • Clinigau dermatoleg
  • Cwblhau'r Diploma mewn Dermatoleg (PG Dip)

 

Tua diwedd cyfnod eich rhaglen hyfforddi, bydd tîm GP+ yn cael cyfarfod gyda chi a thîm rheoli'r practis i gytuno beth fydd y camau nesaf a thrafod y cymorth a fydd yn ofynnol ar ôl i chi orffen cyfranogi yn y rhaglen.

Er y gallai gorffen cyfranogi yn y rhaglen fod yn wahanol yn achos pob meddyg teulu, mae eich rôl meddyg teulu cyflogedig wedi'i gwarchod a chaiff eich cyflog ei adolygu. Yn achos y rôl Meddyg Teulu Dermatoleg, rhagwelir y byddwch yn gweithio ym maes gofal sylfaenol ac yn cynnal sesiynau cytunedig i ymgymryd â sesiynau dermatoleg a mân lawdriniaethau naill ar gyfer y practis neu grŵp o bractisiau.

Fetching form...