Bydd y rhaglen Addysgu a Mentora yn eich cynorthwyo i astudio am Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Feddygol a'r cwrs Hyfforddwyr Meddygon Teulu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).
Bydd cynllun eich swydd yn cynnwys amser penodol i gynnig goruchwyliaeth glinigol ac addysgol ac addysgol i hyfforddeion a'r tîm clinigol yn y practisiau ble byddant wedi'u lleoli.
Cynnwys y Cwrs
Sylwer, mae'r canlynol yn cynnig arweiniad ynghylch cynnwys cyffredinol Rhaglen Addysgu a Mentora GP+, a gallai hynny newid yn dibynnu ar y lleoliadau hyfforddi sydd ar gael a'r cynllun swydd cytunedig.
Chwarter: 1
- Hyfforddiant Sefydlu/Croeso i'r Practis
- Cyfarfod gyda thîm GP+ - trosolwg o Raglen GP+
- Cwblhau cynllun swydd
- Nodi'r anghenion dysgu a datblygu
- Cwrdd â'r mentor
- Cyfarfod cyntaf y grŵp cynorthwyo cymheiriaid
- Cychwyn yr Addysg Feddygol (PG Cert)
Chwarter: 2
- Cyfarfod y grŵp cynorthwyo cymheiriaid
- Addysg Feddygol (PG Cert)
Chwarter: 3
- Cyfarfod y grŵp cynorthwyo cymheiriaid
- Addysg Feddygol (PG Cert)
- Cyfarfod gyda rheolwyr y practis a thîm GP+ i gynllunio at orffen y cwrs hyfforddi
Chwarter: 4
- Cyfarfod y grŵp cynorthwyo cymheiriaid
- Cwblhau'r Addysg Feddygol (PG Cert)
Tua diwedd cyfnod eich rhaglen hyfforddi, bydd tîm GP+ yn cael cyfarfod gyda chi a thîm rheoli'r practis i gytuno beth fydd y camau nesaf a thrafod y cymorth a fydd yn ofynnol ar ôl i chi orffen cyfranogi yn y rhaglen.
Er y gallai gorffen cyfranogi yn y rhaglen fod yn wahanol yn achos pob meddyg teulu, mae eich rôl meddyg teulu cyflogedig wedi'i gwarchod a chaiff eich cyflog ei adolygu. Yn achos y rôl Meddyg Teulu Addysgu a Mentora, rhagwelir y byddwch yn parhau i weithio yn y practis a bydd gennych amser penodol wedi'i warchod i barhau i addysgu a mentora hyfforddeion a thîm clinigol y practis.