Byddwch wedi'ch lleoli mewn practis mewn ardal benodedig ble ceir amddifadedd sylweddol. Byddwch yn cael eich cynorthwyo i ymgymryd â phrosiect ymchwil o'ch dewis, yn ymwneud â materion anghyfartaleddau iechyd. Bydd angen i chi baratoi crynodeb a phoster yn seiliedig ar eich canfyddiadau i'w cyflwyno yng Nghynhadledd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (RCGP).
Cynnwys y Cwrs:
Sylwer, mae'r canlynol yn cynnig arweiniad ynghylch cynnwys cyffredinol rhaglen Anghyfartaleddau Iechyd GP+, a gallai hynny newid yn dibynnu ar y lleoliadau hyfforddi sydd ar gael a'r cynllun swydd cytunedig.
Chwarter: 1
- Hyfforddiant Sefydlu/Croeso i'r Practis
- Cyfarfod gyda thîm GP+ - trosolwg o'r cwrs
- Cwblhau cynllun swydd
- Nodi'r anghenion dysgu a datblygu
- Cwrdd â'r mentor
- Cyfarfod cyntaf y grŵp cynorthwyo cymheiriaid
- Cyfle i gydweithio â thîm y Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau (SMS)
Chwarter: 2
- Cyfarfod y grŵp cynorthwyo cymheiriaid
- Sesiynau SMS (os bydd hynny wedi cychwyn yn ystod Ch1)
Chwarter: 3
- Cyfarfod y grŵp cynorthwyo cymheiriaid
- Sesiynau SMS
- Cyfarfod gyda rheolwyr y practis a thîm GP+ i gynllunio at orffen y cwrs hyfforddi
- Cyflwyno'r crynodeb
Chwarter: 4
- Cyfarfod y grŵp cynorthwyo cymheiriaid
- Sesiynau SMS
- Mynychu'r gynhadledd a rhoi cyflwyniad ynghylch y poster yno
Tua diwedd cyfnod eich rhaglen hyfforddi, bydd tîm GP+ yn cael cyfarfod gyda chi a thîm rheoli'r practis i gytuno beth fydd y camau nesaf a thrafod y cymorth a fydd yn ofynnol ar ôl i chi orffen cyfranogi yn y rhaglen.
Er y gallai gorffen cyfranogi yn y rhaglen fod yn wahanol yn achos pob meddyg teulu, mae eich rôl meddyg teulu cyflogedig wedi'i gwarchod a chaiff eich cyflog ei adolygu. Yn achos y rôl anghyfartaleddau iechyd, rhagwelir y byddwch yn parhau i weithio yn y practis a bydd gennych amser penodol wedi'i warchod i barhau i feithrin cysylltiadau â maes gwasanaethau cymdeithasol a chynorthwyo'r cleifion mwyaf bregus.