Iechyd Meddwl

Mae Rhaglen Iechyd Meddwl GP+ ar gael ym Mangor a'r ardaloedd cyfagos.

Byddwch yn cynorthwyo gwasanaethau Iechyd Meddwl lleol, yn cynnal clinigau dan arolygiad yn y gymuned ac mewn lleoliadau gofal eilaidd. Bydd Meddyg Ymgynghorol dynodedig sy'n arbenigo mewn Iechyd Meddwl yn eich cynorthwyo i gwblhau ardystiad Adran 12.

Amcanion a Hyfforddiant

  • Ymgymryd ag ardystiad Adran 12 â chymorth Meddyg Ymgynghorol. Mae'r achrediad hwn yn seiliedig ar brofiad priodol o gyflyrau iechyd meddwl a chyfleoedd priodol i arsylwi'r cyflyrau hynny mewn amrywiaeth o leoliadau.
  • Gellir ymgymryd â gwaith ynghylch Iechyd Meddwl ym meysydd nifer o is-arbenigeddau.

Bydd Meddyg Ymgynghorol Dynodedig sy'n arbenigol ym maes Iechyd Meddwl yn darparu goruchwyliaeth uniongyrchol.

Cynnwys y Cwrs

Sylwer, mae'r canlynol yn cynnig arweiniad ynghylch cynnwys cyffredinol rhaglen Iechyd Meddwl GP+, a gallai hynny newid yn dibynnu ar y lleoliadau hyfforddi sydd ar gael a'r cynllun swydd cytunedig.

 

Chwarter: 1

  • Hyfforddiant Sefydlu/Croeso i'r Practis
  • Cyfarfod gyda thîm GP+  - trosolwg o'r cwrs
  • Cwblhau cynllun swydd
  • Nodi'r anghenion dysgu a datblygu
  • Cwrdd â'r mentor
  • Cyfarfod cyntaf y grŵp cynorthwyo cymheiriaid
  • Cychwyn cynnal sesiynau Iechyd Meddwl (3 sesiwn bob wythnos)

Chwarter: 2

  • Cyfarfod y grŵp cynorthwyo cymheiriaid
  • Cynnal sesiynau Iechyd Meddwl (3 sesiwn bob wythnos)

Chwarter: 3

  • Cyfarfod y grŵp cynorthwyo cymheiriaid
  • Cynnal sesiynau Iechyd Meddwl (3 sesiwn bob wythnos)
  • Cyfarfod gyda rheolwyr y practis a thîm GP+ i gynllunio at orffen y cwrs hyfforddi

Chwarter: 4

  • Cyfarfod y grŵp cynorthwyo cymheiriaid
  • Cynnal sesiynau Iechyd Meddwl (3 sesiwn bob wythnos)

Tua diwedd cyfnod eich rhaglen hyfforddi, bydd tîm GP+ yn cael cyfarfod gyda chi a thîm rheoli'r practis i gytuno beth fydd y camau nesaf a thrafod y cymorth a fydd yn ofynnol ar ôl i chi orffen cyfranogi yn y rhaglen.

Er y gallai gorffen cyfranogi yn y rhaglen fod yn wahanol yn achos pob meddyg teulu, mae eich rôl meddyg teulu cyflogedig wedi'i gwarchod a chaiff eich cyflog ei adolygu. Yn achos rôl Meddyg Teulu Iechyd, rhagwelir y bydd eich amser yn dal i gael ei rannu rhwng eich rôl Iechyd Meddwl a'ch rôl Gofal Sylfaenol.

Fetching form...