Yn ogystal â'ch hyfforddiant, bydd cymorth ar gael i'ch galluogi i ymgymryd â phrosiect sy'n canolbwyntio ar iechyd gwledig a pharatoi cyflwyniad ynghylch poster a fydd yn seiliedig ar eich canfyddiadau, i'w gyflwyno i gynhadledd yn y DU.
Byddwch yn treulio eich amser Meddyg Teulu Cyflogedig mewn Practis Meddygon Teulu Gwledig, ble mae natur wledig yr ardal a'i beichiau cysylltiedig wedi effeithio ar fynediad at wasanaethau yn draddodiadol.
Cynnwys y Cwrs:
Sylwer, mae'r canlynol yn cynnig arweiniad ynghylch cynnwys cyffredinol rhaglen Iechyd Gwledig GP+, a gallai hynny newid yn dibynnu ar y lleoliadau hyfforddi sydd ar gael a'r cynllun swydd cytunedig.
Chwarter: 1
- Hyfforddiant Sefydlu/Croeso i'r Practis
- Cyfarfod gyda thîm GP+ - trosolwg o'r cwrs
- Cwblhau cynllun swydd
- Nodi'r anghenion dysgu a datblygu
- Cwrdd â'r mentor
- Cyfarfod cyntaf y grŵp cynorthwyo cymheiriaid
- Cyfle i gychwyn y lleoliad mewn Adran Achosion Brys neu Ganolfan Gofal Sylfaenol Brys (1 diwrnod yr wythnos)
Chwarter: 2
- Cyfarfod y grŵp cynorthwyo cymheiriaid
- Parhau â'r lleoliad (os cychwynnodd y lleoliad yn ystod Ch1)
Chwarter: 3
- Cyfarfod y grŵp cynorthwyo cymheiriaid
- Lleoliad (1 diwrnod yr wythnos)
- Cyflwyno'r crynodeb
- Cyfarfod gyda rheolwyr y practis a thîm GP+ i gynllunio at orffen y cwrs hyfforddi
Chwarter: 4
- Cyfarfod y grŵp cynorthwyo cymheiriaid
- Lleoliad (1 diwrnod yr wythnos)
- Mynychu'r gynhadledd a rhoi cyflwyniad ynghylch y poster yno
Tua diwedd cyfnod eich rhaglen hyfforddi, bydd tîm GP+ yn cael cyfarfod gyda chi a thîm rheoli'r practis i gytuno beth fydd y camau nesaf a thrafod y cymorth a fydd yn ofynnol ar ôl i chi orffen cyfranogi yn y rhaglen.
Er y gallai gorffen cyfranogi yn y rhaglen fod yn wahanol yn achos pob meddyg teulu, mae eich rôl meddyg teulu cyflogedig wedi'i gwarchod a chaiff eich cyflog ei adolygu. Yn achos y rôl Meddyg Teulu Iechyd Gwledig, rhagwelir y gallech weithio mewn lleoliad Gofal Brys a/neu arwain gwaith meddygaeth gyn-ysbyty/Iechyd Gwledig yn y practis.