Cyfleoedd am waith locwm

Cofiwch gysylltu os ydych yn ystyried ymgymryd â gwaith locwm yng Ngogledd Cymru!  

Fetching form...

Rhestr Cyflawnwyr Cymru

Yn groes i’r gred gyffredin, nid yw’r broses o gofrestru i gael eich cynnwys yn Rhestr Cyflawnwyr Cymru yn un hir – mae proses gyflym wedi’i rhoi ar waith i sicrhau na fydd oedi cyn i chi ddod atom ni yng Nghymru i weithio!

Ceir prosesau gwahanol ar gyfer ymdrin â cheisiadau gan gyflawnwyr sy’n dymuno ymarfer yng Nghymru, yn dibynnu a ydynt eisoes wedi’u cynnwys ar Restr Cyflawnwyr Meddygol Sefydliad Gofal Sylfaenol (PCO) yn y DU neu a ydynt yn newydd neu’n dychwelyd i ymarfer cyffredinol yn y DU wedi absenoldeb estynedig (dwy flynedd neu ragor).

Cyflwyno cais i gael eich Cynnwys yn y Rhestr Cyflawnwyr Meddygol

Cyfnod gras 3 mis

Pan fyddwch wedi cyflwyno cais i gael eich cynnwys ar restr Cyflawnwyr Meddygol Cymru, os ydych yn feddygon sydd eisoes wedi’u cynnwys ar Restr Cyflawnwyr Meddygol Sefydliad Gofal Sylfaenol yn y DU, gallwch ddechrau gweithio yng Nghymru tra bydd eich cais yn cael ei brosesu.

Meddygon sydd wedi’u cynnwys ar Restr Sefydliad Gofal Sylfaenol sy’n cyflwyno cais i gael eu cynnwys yng Nghymru (ceisiadau Rheoliad 4A).

Os yw cyflawnwr wedi’i gofrestru â PCO arall yn y DU ac yn dymuno cyflwyno cais i gael ei gynnwys ar Restr Bwrdd Iechyd yng Nghymru, gofynnir i’r ymgeisydd lenwi ffurflen gais fer, dangos tystysgrif gwiriad manwl o'r cofnod troseddol (a gafwyd yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf) a dangos tystiolaeth o indemniad meddygol priodol. Gofynnir i’r cyflawnwr hefyd roi caniatâd i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru gynnal gwiriadau pellach trwy gysylltu â'r PCO sy’n ei gynnal ar eu rhestr (h.y. cadarnhad bod tystlythyrau clinigol boddhaol wedi’u sicrhau, manylion am gymwysterau meddygol a phrofiad proffesiynol yr ymgeisydd). Ar ôl derbyn y ddogfennaeth hon a'r ffurflen ganiatâd bydd yr ymgeisydd yn cael ei gynnwys dros dro ar Restr y Bwrdd Iechyd priodol yng Nghymru am gyfnod o 3 mis tra bydd rhagor o wiriadau yn cael eu cynnal.  Mae’r broses symlach hon (a gyflwynwyd yng Nghymru ym mis Mawrth 2016) yn caniatáu ar gyfer prosesu ceisiadau cyflawn o fewn 5 diwrnod gwaith ond mae’n ddibynnol i raddau helaeth iawn ar ddychwelyd tystlythyrau yn ddi-oed ac ati.

Meddygon yn cyflwyno cais i gael eu cynnwys ar restr Cyflawnwyr yng Nghymru ar ôl absenoldeb yn para llai na 2 flynedd

Bydd yn ofynnol i feddygon sy’n cyflwyno cais i gael eu cynnwys ar Restr Cyflawnwyr Bwrdd Iechyd yng Nghymru lenwi ffurflen gais lawn a’i dychwelyd i NWSSP-PCS i’w phrosesu ynghyd â thystysgrif gwiriad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (a gyflawnwyd o fewn y 6 mis blaenorol), tystiolaeth o indemniad meddygol a chaniatâd i NWSSP-PCS (ar ran y Bwrdd Iechyd perthnasol) gysylltu ag unrhyw gyflogwr neu gyflogwr blaenorol, corff trwyddedu neu reoleiddiol neu gorff arall i gael gwybodaeth yn ymwneud ag unrhyw ymchwiliad cyfredol neu unrhyw ymchwiliad y cafwyd canlyniad anffafriol iddo, enwau dau ganolwr sy’n gallu darparu tystlythyrau clinigol ac ati. Ni fydd cyflawnwyr yn y categori hwn yn gallu gweithio yng Nghymru nes bydd yr holl wiriadau wedi’u cynnal a’r cais i gael eu cynnwys ar y Rhestr Cyflawnwyr wedi’i gymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd perthnasol.  Unwaith yn rhagor, mae'r broses yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar gyrff allanol yn dychwelyd gwybodaeth yn ddi-oed, ond byddwn yn ceisio cwblhau ceisiadau o'r fath ymhen 8 - 10 wythnos.

Meddygon sy'n dychwelyd i Gymru wedi absenoldeb yn para 2 flynedd neu ragor

Gellir gofyn i feddygon sy’n dychwelyd i Gymru ar ôl cyfnod o absenoldeb o'r DU yn para 2 flynedd neu ragor, neu feddygon nad ydynt wedi gweithio mewn lleoliad practis meddygon teulu yn y GIG am fwy na 2 flynedd, gael hyfforddiant diweddaru. Mewn achosion o’r fath, bydd copi o CV yr ymgeisydd yn cael ei anfon at y Cyfarwyddwr Addysg Ôl-raddedig ar gyfer Practis Cyffredinol a fydd yn cynnig barn glinigol ynghylch yr angen am hyfforddiant diweddaru.

Os bydd y Cyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-raddedig yn ystyried bod cyfnod o hyfforddiant diweddaru yn briodol, caiff y meddyg ei gyfeirio at y ‘Cynllun Sefydlu a Diweddaru’, sy’n cael ei redeg gan y Swyddfa Recriwtio Genedlaethol Meddygon Teulu (yn Edgbaston, Birmingham) ar gyfer Cymru a Lloegr.  Cynhelir asesiad, a bydd y canlyniadau'n pennu hyd yr hyfforddiant gofynnol. Gall lleoliadau ym maes ymarfer cyffredinol bara rhwng 3 a 12 mis. Ar yr adeg hon, gofynnir i'r cyflawnwr lenwi ffurflen gais lawn a bydd yn rhaid cwblhau'r holl wiriadau angenrheidiol yn llwyddiannus cyn y gellir ystyried ei gynnwys ar y Rhestr Cyflawnwyr Meddygol.  Os bydd angen hyfforddiant sefydlu neu loywi, bydd y cyflawnwyr yn cael ei gynnwys yn amodol ar y Rhestr Cyflawnwyr Meddygol (h.y. amod bod ei ymarfer yn cael ei gyfyngu i'r practis hyfforddi meddygon teulu y bydd wedi'i leoli ynddo ac y bydd yn cwblhau'r Cynllun Meddygon Teulu sy'n Dychwelyd yn llwyddiannus).  Os bydd y cyflawnwr yn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, caiff yr amodau eu codi a bydd y meddyg yn gallu darparu gwasanaethau anghyfyngedig ond os na fydd y cyflawnwr yn llwyddiannus, gall y Bwrdd Iechyd gymryd camau ddileu enw'r meddyg o'i Restr Cyflawnwyr.

Fetching form...