Cyfleoedd mewn gwasanaethau byrddau iechyd

Y Lleoliad: 

Ceir nifer o bractisiau bwrdd iechyd ledled Gogledd Cymru, felly pa un ai a ydych chi’n dymuno gweithio ger glan y môr, yn y mynyddoedd, mewn tref neu ddinas, mae'r cyfan ar gael yma! Ceir cysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd gwych â gweddill y DU yma.

Mae ein gwasanaethau'n cwmpasu'r siroedd dilynol:

Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Ynys Môn, Sir y Fflint a Wrecsam.

Meddyg Teulu sydd Newydd Gymhwyso

A ydych yn ceisio cyfle i gael mentoriaeth yn eich rôl gyntaf, a oes arnoch angen nawdd neu a ydych yn dymuno gweithio yng Nghymru?

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn sefydliad deinamig â ffocws ar ofal sylfaenol sy’n gweithio ar y cyd â phractisiau a chlystyrau annibynnol i ddarparu model gofal amlddisgyblaethol ar gyfer ei boblogaeth leol.

Mae gan y bwrdd iechyd nifer o gyfleoedd cyffrous ar gyfer Meddygon Teulu sydd Newydd Gymhwyso.

Y Rôl: 

Gweithio yn un o'r lleoliadau dilynol:

  1. Practis a Reolir gan y Bwrdd Iechyd
  2. Gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau

Mae'r cyfrifoldebau yn cynnwys:

  • Cynnal ymgynghoriadau â chleifion (wyneb yn wyneb a/neu dros y ffôn)
  • Gwirio a llofnodi presgripsiynau pan fo hynny'n briodol o safbwynt clinigol
  • Adolygu a gweithredu mewn ymateb i lythyrau, canlyniadau ac ati
  • Cynnig cyngor a chymorth i staff pan fo hynny'n ofynnol

Y Lleoliad: 

Ceir nifer o bractisiau a reolir gan y bwrdd iechyd ledled Gogledd Cymru, felly pa un ai a ydych chi’n dymuno gweithio ger glan y môr, yn y mynyddoedd, mewn tref neu ddinas, mae'r cyfan ar gael yma! Ceir cysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd gwych â gweddill y DU yma.

Mae ein gwasanaethau'n cwmpasu'r siroedd dilynol:

  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Gwynedd
  • Ynys Môn
  • Sir y Fflint
  • Wrecsam

Fetching form...