Dolenni Defnyddiol
Cymorth gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Darparu gwasanaethau ynghylch y canlynol ar gyfer meddygon teulu: Rheoli contractau (Rhestr Cyflawnwyr Meddygol), Systemau Taliadau Ymarferwyr Teulu (FPPS), ad-daliadau, Dilysu ar ôl Talu (PPV), Hawliadau Amlfrechlyn Electronig (EMVC), cofrestru cleifion, cofnodion meddygol, cydymffurfio â gofynion ynghylch rheoli gwastraff a gwybodaeth.
Dolen at y wefan: Gwasanaethau Meddygon Teulu - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Cysylltwch ag: NWSSP-primarycareservices@wales.nhs.uk
Cynaliadwyedd Gofal Sylfaenol a Chymunedol
Deall a chynorthwyo'r gweithlu gofal sylfaenol ledled Cymru
System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru - Teclyn ar gyfer gweithlu gofal sylfaenol sy’n sicrhau bod ffordd o adnabod pob meddyg teulu a gweithiwr iechyd proffesiynol a gyflogir mewn practisiau meddygon teulu, a fydd yn cael ei yswirio gan yr Indemniad Practis Meddygol Cyffredinol. Mae hefyd yn galluogi’r gwaith o gynllunio’r gweithlu yn haws.
Locum Hub Wales/Cofrestr Meddygon Locwm Cymru Gyfan – Helpu practisiau i ganfod Meddygon Teulu Locwm a sicrhau y gall pob Meddyg Teulu Locwm elwa ar fynediad i’r Cynllun Indemniad Practis Meddygol Cyffredinol (GMPI)
Dolen at y wefan: Cynaliadwyedd Gofal Sylfaenol - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Cysylltwch â: NWSSP.PrimaryCareWNWRS@wales.nhs.uk
Recriwtio
Cyngor ac arweiniad ynghylch hysbysebu a rheoli swyddi gwag am ddim trwy law GP Wales (gan gysylltu'n uniongyrchol â gwefan NHS jobs)
Dolen at y wefan: Hysbysebion Gofal Sylfaenol - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Cysylltwch â: NWSSP.GPadverts@wales.nhs.uk
Cynorthwyo Practisiau Meddygon Teulu i fod yn Noddwr i'r sawl y mae arnynt angen Tystysgrif Nawdd i Weithiwr Medrus
Dolen at y wefan: Cymorth i Bractisiau Meddygon Teulu ar gyfer Tystysgrif Nawdd i Weithiwr Medrus - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Cysylltwch â: NWSSP.certificateofsponsorship@wales.nhs.uk
Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg
Gweithredu’r Cynllun Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol (GMPI) - darparu indemniad esgeulustod clinigol i ddarparwyr gwasanaethau meddygon teulu yng Nghymru am iawndal sy’n deillio o ofal, diagnosis a thriniaeth cleifion yn dilyn digwyddiadau sy’n digwydd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019.
Dolen at y wefan: Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Cysylltwch â: GMPI@wales.nhs.uk
Gweithredu’r Cynllun Rhwymedigaethau Presennol - os derbynnir hawliad ynghylch esgeulustod clinigol, o ganlyniad i weithred neu anwaith a ddigwyddodd mewn lleoliad ymarfer cyffredinol cyn 1 Ebrill 2019 a bod yr aelod o'r staff yn aelod o MPS neu MDDUS.
Cysylltwch ag: ELS@wales.nhs.uk