Ble gallwch hysbysebu eich cyfle
Gofal Sylfaenol
Os ydych chi'n cynnig cyfle ym maes Practis Cyffredinol, gallwch hysbysebu hynny mewn nifer o leoedd.
GP Wales
Gwefan am ddim yw hon i hysbysebu swyddi gwag yn eich meddygfa
Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, mewn partneriaeth â GPWales a Llywodraeth Cymru, wedi datblygu gwefan reddfol a llyfn er mwyn i Bractisiau Meddyg Teulu yng Nghymru hysbysebu a rheoli swyddi gwag yn rhad ac am ddim.
Manteision safle hysbysebu GPWales:
- Gwefan sydd wedi’i dylunio gan feddygon teulu i feddygon teulu
- Proses wedi’i symleiddio ar gyfer postio swyddi gwag practisiau meddyg teulu
- Bydd pob swydd wag a hysbysebir drwy GPWales yn cael ei phostio ar NHS Jobs er mwyn cyrraedd cynulleidfa ehangach
- Bydd gwybodaeth am y swyddi gwag yn bwydo’r rhaglen symleiddio i feddygon teulu
- Bydd modd gweld swyddi gwag yn well er mwyn sicrhau penodiadau amlddisgyblaethol cyflymach ledled practisiau a chlystyrau
- Pecyn cymorth ar gyfer ymholiadau defnyddwyr ac ymholiadau technegol
Beth sydd yr un fath?
- Mae gwasanaeth hysbysebu Gofal Sylfaenol yn dal i gael ei reoli’n rhad ac am ddim gan Wasanaethau Cyflogaeth Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Caiff swyddi gwag eu postio ar NHS Jobs o hyd – bydd hyn yn caniatáu i geisiadau gael eu rheoli drwy NHS Jobs o hyd (rhestr fer/trefnu cyfweliad) Beth sy’n wahanol?
- Rhaid cyflwyno pob cais am hysbyseb drwy wefan GPWales hy. nid oes rhaid cwblhau nac anfon Ffurflen Cais am Hysbyseb Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru mwyach
- Bydd swyddi gwag yn cael eu hysbysebu ar GP Wales ac NHS Jobs
Ewch i GPWales (GP Wales) i gofrestru eich practis a hysbysebu eich swyddi gwag
Tudalen Facebook swyddi gwag Gofal Sylfaenol
Caiff yr holl rolau Gofal Sylfaenol yng Ngogledd Cymru a hysbysebir ar GP Wales eu rannu ar y tudalen Facebook.
https://www.facebook.com/primarycarenorthwales
Os nad yw'r rôl rydych yn ei chynnig wedi'i hysbysebu ar GP Wales ac rydych yn dymuno'i hysbysebu ar y dudalen Facebook, cysylltwch â ni a gallwn ni rannu manylion y rôl ar eich rhan.