Sefydlwyd yr Hybiau SET i gynorthwyo datblygiad sgiliau ac i gynorthwyo addysg a hyfforddi gweithlu amlddisgyblaethol a’r genhedlaeth nesaf o ymarferwyr clinigol.
Bydd Hybiau SET yn cefnogi myfyrwyr, hyfforddeion ac ymarferwyr profiadol i ddatblygu eu sgiliau gofal sylfaenol a’u gwybodaeth.
Yn ychwanegol i gynnig lleoliadau myfyrwyr bydd yr Hybiau hefyd yn cynnal rolau hyfforddi Uwch Ymarfer Clinigol tymor penodol.
Yn ogystal â chefnogi’r gweithlu Amlddisgyblaethol bydd yr Hybiau hefyd yn gartref i Hyfforddeion Meddyg Teulu a Meddygon Sylfaen yn cynnig amgylchedd dysgu gwirioneddol ryngbroffesiynol.
Mae Hyfforddeion Academi yn gweithio ochr yn ochr â thîm o Oruchwylwyr Clinigol i sicrhau bod clinigwyr cyfredol a’r dyfodol yn cael eu cynorthwyo i atgyfnerthu eu llwybrau addysg ffurfiol gydag arfer clinigol bywyd go iawn.
Cais am gymorth addysg, hyfforddiant neu oruchwyliaeth
Os byddech chi neu aelod o’ch tîm yn elwa o gefnogaeth gyda datblygu sgiliau, addysg, hyfforddiant neu oruchwyliaeth, cwblhewch ein ffurflen gais sgiliau, addysg a hyfforddiant.
Tra rydym yn anelu i ddarparu cefnogaeth i bob cais, nodwch fod cefnogaeth yn amodol ar argaeledd ein harweinwyr Datblygu Ymarfer ac na ellir gwarantu hynny.
Ffurflen Cais Hybiau Sgiliau (SET Hub)