Dyddiadur Cyrsiau
Mae'n bleser gan dîm yr Academi gynnig ystod eang o gyrsiau hyfforddi clinigol ac anghlinigol i staff gofal sylfaenol. Mae'r sesiynau hyn wedi'u hariannu'n llawn ac maent ar gael i bractisau meddygon teulu'r bwrdd iechyd a phractisau annibynnol.
Mae rhai cyrsiau gweinyddol hefyd yn addas ar gyfer staff sy'n gweithio i gontractwyr deintyddol annibynnol.
Results
Diweddariad ynghylch Bronciectasis
- Dyddiad cychwyn
- 01 Ebr, 2024
- Cymhwyster
- Phwynt datblygiad addysg parhaol
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- 7.5 hours of education awr o addysg - 1 mis i'w cwbwlhau
Mae'r cwrs hwn yn addas i unrhyw weithiwr proffesiynol gofal iechyd sy'n gweithio mewn lleoliadau gofal sylfaenol ac yn y gymuned ac yn cyfrannu at ofalu am gleifion sydd â bronciectasis. Bydd y cwrs hwn yn ymdrin ag epidemioleg, pathoffisioleg, diagnosio, opsiynau o ran triniaethau, strategaethau hunan-reoli a rheoli cyflyrau sy'n gwaethygu. Mae'r cwrs wedi'i lunio gan nyrs sy'n brofiadol ym maes clefydau resbiradol sy'n ymdrechu'n deg i wella ansawdd bywyd cleifion sy'n profi effeithiau clefyd resbiradol yn eu bywyd beunyddiol.
Diweddariad ynghylch Clefyd Coronaidd y Galon
- Dyddiad cychwyn
- 01 Ebr, 2024
- Cymhwyster
- Phwynt datblygiad addysg parhaol
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- 7.5 awr o addysg - 1 mis i'w gwblhau
Mae'r cwrs hwn yn addas i unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol sy'n gweithio mewn lleoliadau gofal sylfaenol ym maes clefyd coronaidd y galon (CHD). Mae'n cynnig cyfle i adolygu arferion presennol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gweithredu'r hyn mewn perthynas ag astudiaethau achos a gwaith go iawn. Bydd y modiwl hwn yn gyfystyr â 7.5 awr o DPP at ddibenion ail-ddilysu.
Diweddariad ynghylch Clefyd Cronig yr Arennau
- Dyddiad cychwyn
- 01 Ebr, 2024
- Cymhwyster
- Phwynt datblygiad addysg parhaol
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- 7.5 awr o addysg - 1 mis i'w gwblhau
Mae'r cwrs hwn yn addas i bawb sy'n dymuno datblygu eu gwybodaeth a'u dirnadaeth ynghylch llunio diagnosis o glefyd cronig yr arennau (CKD) a rheoli'r cyflwr. Bydd yn ymdrin â ffactorau risg, profion diagnostig ac ymyriadau ffarmacolegol a rhai sy'n ymwneud â newid ffyrdd o fyw a all optimeiddio deilliannau (yn cynnwys rheoli pwysedd gwaed a lipidau). Mae'r cwrs yn seiliedig ar ddwy astudiaeth achos sy'n eich cynorthwyo i roi theori'r cwrs ar waith.
Diweddariad ynghylch COPD
- Dyddiad cychwyn
- 01 Ebr, 2024
- Cymhwyster
- Phwynt datblygiad addysg parhaol
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- 7.5 awr o addysg - 1 mis i'w gwblhau
Diben y modiwl addysg broffesiynol hwn yw cynnig diweddariad i fyfyrwyr ynghylch datblygiadau a chanllawiau cyfredol yn ymwneud â gofal am gleifion sydd â COPD. Bydd y cwrs yn cynnig trosolwg o ddatblygiadau cyfredol ym maes gofal i gleifion sydd â COPD.
Diweddariad ynghylch Ffibriliad Atrïaidd
- Dyddiad cychwyn
- 01 Ebr, 2024
- Cymhwyster
- Phwynt datblygiad addysg parhaol
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- 7.5 awr o addysg - 1 mis i'w gwblhau
Mae'r cwrs hwn yn addas i unrhyw Weithiwr Proffesiynol Gofal Iechyd sy'n ymwneud â diagnosio a rheoli ffibriliad atrïaidd. Bydd y cwrs hwn yn ymdrin ag epidemioleg, pathoffisioleg, ffactorau risg a diagnosis. Rheoli symptomau ynghyd â phwysigrwydd lleihau'r risg o gael strôc ymhlith pobl sydd wedi cael diagnosis yn cadarnhau ffibriliad atrïaidd, trwy gyfrwng defnydd priodol o wrthgeulyddion.
Diweddariad ynghylch Methiant y Galon
- Dyddiad cychwyn
- 01 Ebr, 2024
- Cymhwyster
- Phwynt datblygiad addysg parhaol
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- 7.5 awr o addysg - 1 mis i'w gwblhau
Lluniwyd y cwrs diweddaru hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol gofal iechyd sydd â gwybodaeth ymarferol am ddulliau rheoli methiant y galon ac sy'n dymuno diweddaru eu gwybodaeth a'u sgiliau. Mae'n seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf sydd ar gael a bydd yn sicrhau y caiff myfyrwyr eu hysbysu am arferion gorau cyfredol a datblygiadau diweddar yn y maes./
Bydd tiwtoriaid yn cynnig arweiniad i chi ynghylch cyfres o bynciau er mwyn rhoi cyfle i chi adolygu a datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau presennol.
Diweddariad ynghylch Pwysedd Gwaed Uchel
- Dyddiad cychwyn
- 01 Ebr, 2024
- Cymhwyster
- Phwynt datblygiad addysg parhaol
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- 7.5 awr o addysg - 1 mis i'w cwbwlhau
Mae'r cwrs hwn yn addas i unrhyw Weithiwr Iechyd Proffesiynol sy'n ymwneud â sgrinio a diagnosio Pwysedd Gwaed Uchel a rheoli'r cyflwr trwy gyfrwng dulliau clinigol. Yn aml iawn, gelwir pwysedd gwaed uchel yn "llofrudd tawel", ac mae'n un o’r ffactorau risg addasadwy pwysicaf yn achos strôc, clefyd isgemia'r galon, methiant y galon a chlefyd yr arennau. Fodd bynnag, yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, os nodir y cyflwr yn gynnar, o blith y clefydau sy'n achosi marwolaethau cyn pryd ledled y byd, mae'n un o'r rhai hawsaf i'w atal a'i drin.
Diweddariad ynghylch Rhagnodi Anfeddygol
- Dyddiad cychwyn
- 01 Ebr, 2024
- Cymhwyster
- Phwynt datblygiad addysg parhaol
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- 7.5 awr o addysg - 1 mis i'w gwblhau
Mae'r cwrs hwn yn addas i unrhyw ragnodwyr sy'n dymuno diweddaru eu gwybodaeth am faterion cyfredol yn ymwneud ag arferion rhagnodi. Bydd y digwyddiad dysgu cydweithredol hwn yn gyfystyr â 7.5 awr o DPP at ddibenion ail-ddilysu, ac ychwanegir amser paratoi ac astudio at hynny.
Gwella Canlyniadau Ansawdd a Paratoi ar gyfer Arolygiad HIW
- Dyddiad cychwyn
- 31 Maw, 2026
- Cymhwyster
- Tystysgrif presenoldeb
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- 31/03/2026
Microsoft Excel - Canolradd
- Cymhwyster
- Tystysgrif presenoldeb
- Dull cyflwyno
- wyneb i wyneb
- Hyd Y Cwrs
- 6 1/2 Oriau
Cynlluniwyd y cwrs hwn i wella sgiliau defnyddwyr sydd â phrofiad o ddefnyddio Microsoft Excel.
Microsoft Excel - Cyflwyniad
- Cymhwyster
- Tystysgrif presenoldeb
- Dull cyflwyno
- wyneb i wyneb
- Hyd Y Cwrs
- 6 1/2 Oriau
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sy'n ddefnyddwyr hyfedr o Windows ac sy'n dymuno caffael y sgiliau hanfodol er mwyn trin a chyflwyno gwybodaeth rifiadol gan ddefnyddio Microsoft Excel.
Microsoft Excel - Uwch
- Cymhwyster
- Tystysgrif presenoldeb
- Dull cyflwyno
- wyneb i wyneb
- Hyd Y Cwrs
- 6 1/2 Oriau
Bydd y cwrs yn adolygu nodweddion sylfaenol Excel ac yna'n canolbwyntio ar nodweddion ychwanegol a mwy datblygedig ar gyfer trin a dadansoddi data.
WELSH Pagination
- Yn ôl
- Tudalen 2 o 2