Dyddiadur Cyrsiau
Mae'n bleser gan dîm yr Academi gynnig ystod eang o gyrsiau hyfforddi clinigol ac anghlinigol i staff gofal sylfaenol. Mae'r sesiynau hyn wedi'u hariannu'n llawn ac maent ar gael i bractisau meddygon teulu'r bwrdd iechyd a phractisau annibynnol.
Mae rhai cyrsiau gweinyddol hefyd yn addas ar gyfer staff sy'n gweithio i gontractwyr deintyddol annibynnol.
Results
Diweddariad ynghylch Clefyd Cronig yr Arennau
- Dyddiad cychwyn
- 01 Ebr, 2024
- Cymhwyster
- Phwynt datblygiad addysg parhaol
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- 7.5 awr o addysg - 1 mis i'w gwblhau
Mae'r cwrs hwn yn addas i bawb sy'n dymuno datblygu eu gwybodaeth a'u dirnadaeth ynghylch llunio diagnosis o glefyd cronig yr arennau (CKD) a rheoli'r cyflwr. Bydd yn ymdrin â ffactorau risg, profion diagnostig ac ymyriadau ffarmacolegol a rhai sy'n ymwneud â newid ffyrdd o fyw a all optimeiddio deilliannau (yn cynnwys rheoli pwysedd gwaed a lipidau). Mae'r cwrs yn seiliedig ar ddwy astudiaeth achos sy'n eich cynorthwyo i roi theori'r cwrs ar waith.
Diweddariad ynghylch COPD
- Dyddiad cychwyn
- 01 Ebr, 2024
- Cymhwyster
- Phwynt datblygiad addysg parhaol
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- 7.5 awr o addysg - 1 mis i'w gwblhau
Diben y modiwl addysg broffesiynol hwn yw cynnig diweddariad i fyfyrwyr ynghylch datblygiadau a chanllawiau cyfredol yn ymwneud â gofal am gleifion sydd â COPD. Bydd y cwrs yn cynnig trosolwg o ddatblygiadau cyfredol ym maes gofal i gleifion sydd â COPD.
Diweddariad ynghylch Ffibriliad Atrïaidd
- Dyddiad cychwyn
- 01 Ebr, 2024
- Cymhwyster
- Phwynt datblygiad addysg parhaol
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- 7.5 awr o addysg - 1 mis i'w gwblhau
Mae'r cwrs hwn yn addas i unrhyw Weithiwr Proffesiynol Gofal Iechyd sy'n ymwneud â diagnosio a rheoli ffibriliad atrïaidd. Bydd y cwrs hwn yn ymdrin ag epidemioleg, pathoffisioleg, ffactorau risg a diagnosis. Rheoli symptomau ynghyd â phwysigrwydd lleihau'r risg o gael strôc ymhlith pobl sydd wedi cael diagnosis yn cadarnhau ffibriliad atrïaidd, trwy gyfrwng defnydd priodol o wrthgeulyddion.
Diweddariad ynghylch Methiant y Galon
- Dyddiad cychwyn
- 01 Ebr, 2024
- Cymhwyster
- Phwynt datblygiad addysg parhaol
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- 7.5 awr o addysg - 1 mis i'w gwblhau
Lluniwyd y cwrs diweddaru hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol gofal iechyd sydd â gwybodaeth ymarferol am ddulliau rheoli methiant y galon ac sy'n dymuno diweddaru eu gwybodaeth a'u sgiliau. Mae'n seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf sydd ar gael a bydd yn sicrhau y caiff myfyrwyr eu hysbysu am arferion gorau cyfredol a datblygiadau diweddar yn y maes./
Bydd tiwtoriaid yn cynnig arweiniad i chi ynghylch cyfres o bynciau er mwyn rhoi cyfle i chi adolygu a datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau presennol.
Diweddariad ynghylch Pwysedd Gwaed Uchel
- Dyddiad cychwyn
- 01 Ebr, 2024
- Cymhwyster
- Phwynt datblygiad addysg parhaol
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- 7.5 awr o addysg - 1 mis i'w cwbwlhau
Mae'r cwrs hwn yn addas i unrhyw Weithiwr Iechyd Proffesiynol sy'n ymwneud â sgrinio a diagnosio Pwysedd Gwaed Uchel a rheoli'r cyflwr trwy gyfrwng dulliau clinigol. Yn aml iawn, gelwir pwysedd gwaed uchel yn "llofrudd tawel", ac mae'n un o’r ffactorau risg addasadwy pwysicaf yn achos strôc, clefyd isgemia'r galon, methiant y galon a chlefyd yr arennau. Fodd bynnag, yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, os nodir y cyflwr yn gynnar, o blith y clefydau sy'n achosi marwolaethau cyn pryd ledled y byd, mae'n un o'r rhai hawsaf i'w atal a'i drin.
Diweddariad ynghylch Rhagnodi Anfeddygol
- Dyddiad cychwyn
- 01 Ebr, 2024
- Cymhwyster
- Phwynt datblygiad addysg parhaol
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- 7.5 awr o addysg - 1 mis i'w gwblhau
Mae'r cwrs hwn yn addas i unrhyw ragnodwyr sy'n dymuno diweddaru eu gwybodaeth am faterion cyfredol yn ymwneud ag arferion rhagnodi. Bydd y digwyddiad dysgu cydweithredol hwn yn gyfystyr â 7.5 awr o DPP at ddibenion ail-ddilysu, ac ychwanegir amser paratoi ac astudio at hynny.
Gofal Clwyfau ar gyfer Nyrsys Practis
- Dyddiad cychwyn
- 03 Maw, 2026
- Cymhwyster
- Tystysgrif presenoldeb
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- 1 Diwrnod, 03/03/2026
Mae'r cwrs Gofal Clwyfau ar gyfer Nyrsys Ymarfer yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o sgiliau a gwybodaeth hanfodol mewn rheoli gofal clwyfau. Gan gwmpasu anatomeg y croen, egwyddorion iacháu clwyfau, a dosbarthiadau clwyfau, mae'r cwrs yn ymchwilio i agweddau ymarferol ar reoli clwyfau gan gynnwys dewis rhwymynnau, rheoli heintiau, ac ystyriaethau meddygol-gyfreithiol eraill.
Iechyd Menywod ar gyfer Clinigwyr Gofal Sylfaenol
- Dyddiad cychwyn
- 05 Maw, 2026
- Cymhwyster
- Tystysgrif presenoldeb
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- 2 Diwrnod, 05/03/2026 & 12/03/2026
Datblygu dealltwriaeth o gyflyrau iechyd cyffredin menywod a sut i'w rheoli yn y lleoliad gofal sylfaenol. Gwybodaeth weithredol o'r gwahanol raglenni sgrinio a'r hyn maent yn ei olygu. Deall pwysigrwydd cymryd ac asesu hanes da. Yn gallu llunio diagnosis gwahaniaethol er mwyn cael un diffiniol
Microsoft Excel - Canolradd
- Cymhwyster
- Tystysgrif presenoldeb
- Dull cyflwyno
- wyneb i wyneb
- Hyd Y Cwrs
- 6 1/2 Oriau
Cynlluniwyd y cwrs hwn i wella sgiliau defnyddwyr sydd â phrofiad o ddefnyddio Microsoft Excel.
Microsoft Excel - Cyflwyniad
- Cymhwyster
- Tystysgrif presenoldeb
- Dull cyflwyno
- wyneb i wyneb
- Hyd Y Cwrs
- 6 1/2 Oriau
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sy'n ddefnyddwyr hyfedr o Windows ac sy'n dymuno caffael y sgiliau hanfodol er mwyn trin a chyflwyno gwybodaeth rifiadol gan ddefnyddio Microsoft Excel.
Microsoft Excel - Uwch
- Cymhwyster
- Tystysgrif presenoldeb
- Dull cyflwyno
- wyneb i wyneb
- Hyd Y Cwrs
- 6 1/2 Oriau
Bydd y cwrs yn adolygu nodweddion sylfaenol Excel ac yna'n canolbwyntio ar nodweddion ychwanegol a mwy datblygedig ar gyfer trin a dadansoddi data.
Rheoli Presgripsiynau Rheolaidd
- Dyddiad cychwyn
- 18 Chwef, 2026
- Cymhwyster
- Tystysgrif presenoldeb
- Dull cyflwyno
- Ar-lein
- Hyd Y Cwrs
- Hanner Diwrnod, 18/02/2026
Darparu’r wybodaeth greiddiol y mae ar y dysgwr ei hangen ar gyfer gweinyddu presgripsiynau rheolaidd mewn meddygfa.