I gyfranogi yn rhaglen GP+ 2023/24, mae angen ymrwymo i 6 sesiwn yr wythnos o leiaf dros 12 mis. I allu manteision llawn ar raglen GP+, argymhellir cyfranogi ar sail amser llawn yn y rhaglen (9 sesiwn/37.5 awr yr wythnos), a chaiff yr amser ei rannu rhwng gwaith Meddyg Teulu Cyflogedig ac addysg a hyfforddiant ym maes diddordeb arbenigol.
Yn achos Meddyg Teulu amser llawn, treulir oddeutu 5 sesiwn yr wythnos mewn practis. Bydd gweddill amser eich swydd yn cael ei gynllunio ar y cyd â'r practis a'r Academi Gofal Cymunedol ar ddechrau'r lleoliad i sicrhau y bodlonir holl elfennau'r rhaglen. Bydd y 4 sesiwn arall yn ymwneud â'r agwedd arbenigol ar eich rôl ac unrhyw hyfforddiant/cyrsiau cysylltiedig. Gwarchodir y sesiynau hyn i'ch galluogi i ymgymryd â lleoliadau arsylwi clinigol, sesiynau a addysgir a sesiynau clinigol.
Cymeradwyir cyllideb astudio ar ddechrau'r rhaglen er mwyn cyflawni'r deilliannau cytunedig a chynorthwyo i ddatblygu'r maes arbenigol rydych yn ymddiddori ynddo.
Penodir Mentor Meddygon Teulu i'ch cynorthwyo tra byddwch yn cyfranogi yn y rhaglen.